Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r canlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth ar y ffynonellau data a'r derminoleg a ddefnyddir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ffynhonnell a maint y sampl

Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth sy'n casglu gwybodaeth am 18,000 o aelwydydd yng Nghymru bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae maint y samplau ar gyfer unigolion sy'n ystyried eu hunain yn hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol yn gymharol fach felly rydym hefyd wedi dadansoddi set ddata gyfun sy'n cyfuno 3 blynedd o ddata'r Arolwg Cenedlaethol o'r Boblogaeth.

Cyn hynny, roedd amcangyfrifon ynghylch hunaniaeth rywiol yn cael eu llunio ar sail yr Arolwg Integredig o Gartrefi. Cafodd newidion yr Arolwg Integredig o Gartrefi (gan gynnwys hunaniaeth rywiol) eu cynnwys yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn 2014 a'u cynnwys yn llawn yn yr arolwg yn 2015.

Hunaniaeth rywiol neu gyfeiriadedd rhywiol?

Term cyffredinol yw cyfeiriadedd rhywiol sy'n gynnwys llawer o wahanol elfennau gan gynnwys hunaniaeth, atyniad ac ymddygiad rhywiol.

Mae’r ABB yn casglu gwybodaeth am hunaniaeth rywiol hunan-ganfyddedig o boblogaeth aelwydydd y DU yn 16 oed a throsodd. Mae hunaniaeth rywiol hunan-ganfyddedig yn farn oddrychol am eich hun. Yn y bôn, mae’n ymwneud â’r ffordd y mae unigolyn yn ei weld ei hun, ac nid beth y mae'n ei wneud. Mae'n ymwneud ag ymdeimlad mewnol sydd gan unigolyn o'i hunan, ac o gyd-rannu hunaniaeth gymdeithasol â grŵp o bobl eraill o bosibl.

Gofynnir y cwestiwn ABB ar hunaniaeth rywiol fel cwestiwn barn a gall yr ymatebwyr benderfynu sut maen nhw'n diffinio eu hunain mewn perthynas â phedwar categori posibl wrth ymateb. Mae'n bwysig cydnabod nad yw'r cwestiwn yn ymwneud ag ymddygiad nac atyniad rhywiol yn benodol, sy’n gysyniadau ar wahân sydd nid ar hyn o bryd yn cael ei fesur gan yr ABB. Er hyn, gall yr agweddau hyn fod yn berthnasol i ffurfio hunaniaeth. Gall unigolyn gael hunaniaeth rywiol pan nad yw'n cael rhyw. Mae'r opsiwn "arall" yn cael ei gynnwys ar gyfer y cwestiwn hwn oherwydd nad yw pob un yn teimlo ei fod yn dod o dan unrhyw un o'r tri chategori cyntaf, hynny yw, heterorywiol neu syth, hoyw neu lesbiaidd neu ddeurywiol.

Gofynnir y cwestiwn i ymatebwyr 16 oed a throsodd; nid yw'n cael ei ofyn trwy ddirprwy. Mae cyfweliadau trwy ddirprwy yn cael eu diffinio fel y rheiny lle mae atebion yn cael eu rhoi gan drydydd parti, sy'n aelod o aelwyd yr ymatebydd fel arfer.

Gwybodaeth bellach

Roedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cynnwys cwestiwn gwirfoddol newydd ar gyfeiriadedd rhywiol ar gyfer rheini 16 oed a throsodd yng Nghyfrifiad 2021 Cymru a Lloegr. Bydd y data a gasglwyd yn gwneud hi'n haws i fonitro anghydraddoldebau o dan y dyletswyddau gwrth-wahaniaethu y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chaniatáu i elusennau, llywodraeth leol a ganolog i dargedu yn effeithiol gwasanaethau a fwriedir ar gyfer y gymuned lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD). Am fwy o wybodaeth, gweler tudalennau gwefan y SYG am ddatblygiad y cwestiwn ar gyfeiriadedd rhywiol.