Neidio i'r prif gynnwy

Wrthi’n trefnu cyfarfod Teams dwyieithog? Llywodraeth Cymru’n arwain y ffordd gyda nodwedd newydd Microsoft Teams.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Microsoft Teams wedi dod yn rhan ganolog o fywydau llawer iawn ohonon ni. 

Er bod rhyngwyneb Teams ar gael yn Gymraeg i bawb ers tro, yr hyn sydd wedi bod ar goll yw’r gallu i gynnal cyfarfodydd dwyieithog. Felly, does dim cyfle wedi bod i ddefnyddio’n Cymraeg ni cymaint ag yr oedden ni o’r blaen. Ond mae hynny bellach wedi newid er gwell.

Mae hi bellach yn bosibl cael cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd sydd wedi eu trefnu (scheduled meetings) ym Microsoft Teams diolch i bartneriaeth Llywodraeth Cymru a Microsoft. Dim cost ychwanegol, a dim angen meddalwedd ychwanegol.

Sut i’w defnyddio

Yn gyntaf bydd angen trefnu cyfarfod a gosod cyfieithu ar y pryd

  • Creu’r cyfarfod, gwahodd mynychwyr (gan gofio gwahodd y cyfieithydd), anfon y gwahoddiad
  • Dewis Calendr, o fewn Teams, ac agor y cyfarfod
  • Clicio ‘Dewisiadau’r cyfarfod’
  • Toglo ‘Galluogi cyfieithu ar y pryd’ ymlaen
  • Dewis ‘cyfieithwyr’ o’r rhestr barod a dewis yr iaith wreiddiol a’r iaith darged
  • Cadw’r newidiadau

Dewis cyfieithydd o fewn y cyfarfod

  • Yn y cyfarfod, dewis ‘mynychwyr’
  • Dal y cyrchwr ar y person bydd yn cyfieithu yn y cyfarfod, a dewis ‘Mwy o opsiynau...’ > ‘Gwneud yn gyfieithydd’

A dyna ni, mae’r cyfarfod yn barod, ac wrth ymuno bydd y mynychwyr yn dewis yr iaith maen nhw am ei chlywed. Mae modd hefyd fynd at y dewis iaith drwy glicio ar y tri dot ‘mwy’ ar ben y sgrin a newid ar unrhyw adeg.

Rhagor yma:

Use language interpretation in a Teams meeting (microsoft.com)

(tudalen uniaith Saesneg ar wefan Microsoft)

Cofiwch ddefnyddio cyfieithydd ar y pryd cymwys—rhagor yma: Dod o hyd i gyfieithydd — Cynnwys Cymraeg (cyfieithwyr.cymru)

 

Mae sicrhau ein bod ni’n gallu defnyddio’n hiaith, a newid rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hawdd, yn bwysig. Mae’r datblygiad newydd hwn yn Teams yn gam pwysig tuag at hynny. I Lywodraeth Cymru, mae sicrhau bod modd i siaradwyr Cymraeg gyfrannu yn Gymraeg mewn cyfarfodydd sydd wedi eu trefnu yn rhan greiddiol o fyw mewn gwlad ddwyieithog.

Wrthi’n trefnu cyfarfod Teams, yn y gwaith, o fewn grŵp hamdden neu gymunedol? Beth am feddwl a fyddai modd defnyddio cyfieithu ar y pryd. Cymraeg – mae’n perthyn i ni i gyd.

Rhagor am ein gwaith gyda Microsoft:

Microsoft Customer Story-Wrthi’n trefnu cyfarfod Teams dwyieithog? Llywodraeth Cymru’n arwain y ffordd gyda nodwedd newydd Microsoft Teams