Neidio i'r prif gynnwy

Roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn llawn canmoliaeth heddiw am ymdrech aruthrol y miloedd o staff a gwirfoddolwyr yn y GIG sydd wedi bod yn rhoi’r brechlynnau, wrth inni gyrraedd carreg filltir gyntaf rhaglen frechu Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth i’r apwyntiadau terfynol gael eu trefnu ar gyfer y penwythnos, bydd Cymru’n cyflawni’r garreg filltir o gynnig y brechlyn i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf.

Mae trefniadau ar waith i wneud yn siŵr nad yw unrhyw un yn cael ei adael ar ôl – os collwyd apwyntiad oherwydd salwch, neu os yw rhywun wedi newid eu meddwl am gael y brechlyn, bydd apwyntiad newydd yn cael ei wneud iddyn nhw.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

Y brechlyn yw prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru a’r GIG yng Nghymru.

Mae cyflawni’r garreg filltir gyntaf hon a chynnig y brechlyn i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf – y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn sgil y coronafeirws – yn ymdrech aruthrol. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gweithio bob awr o’r dydd i gyrraedd y pwynt hwn.

Wrth gwrs, dim ond megis dechrau mae’r gwaith caled – mae llawer iawn mwy o bobl i’w brechu eto a llawer o ddosau i’w rhoi o hyd.

Mae’r GIG wedi cadarnhau eu bod wedi cysylltu â phawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf i gynnig apwyntiad iddynt gael y brechlyn.

Os nad yw’r byrddau iechyd wedi llwyddo i gysylltu â rhywun ar eu rhestr, neu os nad yw’r person wedi gallu dod i’r apwyntiad, mae systemau ar waith i fynd yn ôl i wirio a threfnu apwyntiad newydd ar gyfer unrhyw un sydd eisiau’r brechlyn.

Mae’r ffigurau diweddaraf sydd ar gael yn dangos bod 684,097 o bobl wedi cael dos cyntaf y brechlyn. 

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

Mae pob brechlyn a roddir i rywun yng Nghymru’n fuddugoliaeth fach yn erbyn y feirws ac rydym eisoes yn edrych ymlaen at gyrraedd y garreg filltir nesaf.

Roedd y garreg filltir gyntaf yn ein Strategaeth Frechu yn nodi y byddai pawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf yn cael cynnig apwyntiad i gael eu dos cyntaf o’r brechlyn erbyn canol mis Chwefror.

Ni fydd pawb yn y grwpiau hyn wedi bod i’w hapwyntiad eto, ni fydd rhai wedi ymateb a bydd rhai wedi dewis peidio â chael y brechlyn.

Gofynnwn i unigolion gadw eu hapwyntiadau os yw’n bosibl. Os oes rheswm dilys pam na all pobl gadw eu hapwyntiad, gofynnwn iddynt roi gwybod i’r bwrdd iechyd gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar eu gwahoddiad. Yna gellir aildrefnu’r apwyntiad ar gyfer amser neu leoliad mwy cyfleus.

Pan fyddwch wedi cael y brechlyn, dylech ddal ati i ddilyn y canllawiau gan aros gartref, cadw pellter o ddau fetr oddi wrth eraill, golchi’ch dwylo a gwisgo gorchudd wyneb i ddiogelu’r bobl o’ch amgylch.

Rhaglen frechu Cymru mewn rhifau:

  • Rhoddwyd gwybod fod 13,988 o breswylwyr cartrefi gofal wedi cael dos cyntaf y brechlyn, yn ogystal â 33,832 o staff cartrefi gofal
  • Rhoddwyd gwybod fod 160,106 o bobl dros 80 oed wedi cael dos cyntaf y brechlyn
  • Rhoddwyd gwybod fod 117,181 o weithwyr gofal iechyd wedi cael dos cyntaf y brechlyn
  • Rhoddwyd gwybod fod 248,827 o bobl rhwng 70 a 79 oed wedi cael dos cyntaf y brechlyn