Neidio i'r prif gynnwy

Rydym ni wedi cynhyrchu nifer o astudiaethau achos fideo yn ddiweddar, sy’n dangos sut mae caffael yn gallu sicrhau gwerth am arian, canlyniadau cadarnhaol a gwerth cymdeithasol ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sicrhau gwerth cymdeithasol drwy weithgarwch masnachol cydweithredol

Mae’r ffilm yma’n rhoi sylw i arfer gorau mewn perthynas â sicrhau Gwerth Cymdeithasol drwy gaffael prosiect seilwaith mawr, Metro De Cymru. Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i arwain gan Drafnidiaeth Cymru (TFW) ac mae’n cael ei gyflawni drwy’r Gynghrair Craidd; partneriaeth rhwng y sector preifat a’r sector cyhoeddus.

Stori Brian: y llwybr at ddyfodol positif

Mae'r ffilm hon yn arddangos sut y rhoddodd model caffael masnachol gyfle i Brian ailadeiladu ei ddyfodol ac i roi yn ôl i'r gymuned. Dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru a'i chyflwyno drwy'r Gynghrair Craidd, mae'r stori hon yn dangos sut mae gwerth cymdeithasol yn rhoi pwyslais ar bob aelod o gymdeithas.

Menter caffael offerynnau cerdd yn creu sŵn

Bydd offerynnau cerdd carbon niwtral yn cael eu rhoi i bob disgybl 7 oed yng Nghymru, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru a llwybr prynu arloesol.

I gael rhagor o wybodaeth am ein holl astudiaethau achos sy’n dangos y canlyniadau cadarnhaol y mae modd eu cyflawni drwy gaffael cyfrifol, ewch i’n gwefan.