Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r data yn cynnwys gwybodaeth yn ôl rhyw, ethnigrwydd, Saesneg fel iaith ychwanegol, anghenion addysgol arbennig, absenoldeb a mis geni ar gyfer 2018.

Prif bwyntiau

Yn 2018, ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Chyfnodau Allweddol 2 i 4.

  • Cyflawniad yn uwch ar gyfer merched.
  • Cyflawniad yn uwch ar gyfer disgyblion o gefndir ethnigrwydd Tsieinïaidd neu Brydeinig Tsieinïaidd. Eithriad i hyn oedd yn y Cyfnod Sylfaen, lle'r oedd cyflawniad disgyblion o gefndir Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig yn uwch.
  • Cyflawniad disgyblion gyda Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY) yn uwch ar gyfer disgyblion a oedd yn ‘gymwys’ neu yn ‘rhugl’.
  • Roedd gan ddisgyblion gyda lefelau is o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) lefel uwch o gyflawniad academaidd.
  • Cyflawniad disgyblion gyda graddau absenoldeb is yn uwch.
  • Cyflawniad yn uwch ar gyfer disgyblion wedi’u geni yn gynharach yn y flwyddyn academaidd.
  • Mae’r negeseuon allweddol yn gyffredinol yn gyson gyda’r dadansoddiad o flynyddoedd blaenorol.

Nodyn

Mae’r data hwn yn defnyddio data ar lefel disgyblion sy'n cysylltu data ynglŷn â chyrhaeddiad a gwybodaeth am arholiadau yn y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnodau Allweddol 2 i 4 â nodweddion disgyblion o'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) a’r Cofnod Presenoldeb Disgyblion.

Mae'r data StatsCymru yn cyflwyno detholiad o ddangosyddion. Am ddiffiniadau llawn o'r dangosyddion hyn, cyfeiriwch at y ddogfen Gwybodaeth Ansawdd Allweddol.

Gwybodaeth bellach

Eleni mae'r data wedi'i gyhoeddi ar StatsCymru, heb Ddatganiad Ystadegol cysylltiedig. Mae'r holl ddata a oedd ar gael yn flaenorol wedi'i gyhoeddi. Byddem yn croesawu unrhyw adborth gan ddefnyddwyr ar y dull hwn.

Adroddiadau

Cyflawniad academaidd yn ôl nodweddion disgyblion, 2018: Gwybodaeth allweddol o ansawdd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 476 KB

PDF
476 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.