Neidio i'r prif gynnwy

Canfyddiadau Cymru o’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2022, astudiaeth ryngwladol sy’n cynhyrchu adroddiadau ymchwil yn ymwneud ag addysg.

Fe wnaeth 81 o systemau addysg gymryd rhan yn PISA 2022, gan gynnwys Cymru. Yng Nghymru, cwblhaodd 2,568 o ddysgwyr 15 oed o 89 ysgol asesiad 2 awr ar gyfrifiadur a holiadur i ddysgwyr.

Nid oedd y sampl ar gyfer Cymru, ac ar gyfer llawer o wledydd eraill, yn bodloni rhai o safonau PISA. Cynhaliwyd Dadansoddiadau o Duedd Diffyg Ymateb i amcangyfrif faint o duedd sydd yn sampl Cymru, a'r sampl o wledydd eraill nad oeddent yn bodloni safonau PISA. Cafodd y duedd bosibl yng nghanlyniadau PISA Cymru ei lleihau'n ystadegol fel rhan o'r broses ddadansoddi, trwy ddefnyddio pwysoliadau wedi'u haddasu. Fodd bynnag, yn rhai o'r systemau addysg lle na fodlonwyd safonau PISA, gall addasiadau o'r fath fod yn llai effeithiol ac felly gall rhai canlyniadau fod ychydig yn uwch nag y byddent fel arall. O ystyried efallai nad yw’r samplau mewn mannau eraill yn y DU, mewn sawl gwlad OECD ac mewn gwledydd cymharol eraill yn gwbl gynrychioliadol o boblogaethau'r gwledydd hynny, mae angen rhywfaint o ofal wrth ddehongli'r dadansoddiad a gyflwynir yn yr adroddiad hwn, yn enwedig wrth gymharu canlyniadau Cymru â chanlyniadau gwledydd eraill, a gyda sgoriau cyfartalog yr OECD a adroddir trwy gydol yr adroddiad hwn.

Prif bwyntiau

Mathemateg

  • 466 oedd y sgôr cyfartalog yng Nghymru mewn mathemateg ar gyfer PISA yn 2022. Roedd y sgôr hwn yn sylweddol is na sgôr cyfartalog yr OECD o 472.
  • Cyflawnodd dysgwyr yn 42 o'r systemau addysg a gymerodd ran sgôr fathemateg gyfartalog a oedd yn sylweddol is na Chymru, o gymharu â 26 a gyflawnodd sgôr mathemateg gyfartalog a oedd yn sylweddol uwch na Chymru.
  • Roedd sgôr Cymru o 466 yn sylweddol is na'r 487 a gyflawnwyd yn 2018. Roedd cyfartaledd yr OECD hefyd yn sylweddol is yn 2022 nag yn 2018.

Darllen

  • 466 oedd y sgôr gyfartalog yng Nghymru o ran darllen ar gyfer PISA yn 2022. Roedd hyn yn sylweddol is na sgôr gyfartalog yr OECD, sef 476.
  • Cyflawnodd dysgwyr yn 45 o'r systemau addysg a gymerodd ran sgôr ddarllen gyfartalog a oedd yn sylweddol is na Chymru, o gymharu â 27 a gyflawnodd sgôr darllen gyfartalog a oedd yn sylweddol uwch na Chymru.
  • Roedd sgôr gyfartalog Cymru o ran darllen yn sylweddol is na'r sgôr gyfartalog yn 2018 (483). Roedd cyfartaledd yr OECD hefyd yn sylweddol is yn 2022 (477) nag yn 2018 (488).

Gwyddoniaeth

  • 473 oedd y sgôr gyfartalog yng Nghymru mewn gwyddoniaeth ar gyfer PISA yn 2022. Roedd hyn ychydig yn is na sgôr gyfartalog yr OECD o 485.
  • Roedd 43 o'r systemau addysg a gymerodd ran wedi cyflawni sgôr gryn dipyn yn is na Chymru mewn gwyddoniaeth, a 30 wedi cyflawni sgôr sylweddol uwch.
  • Roedd sgôr gyfartalog Cymru mewn gwyddoniaeth ar gyfer 2022 yn wahanol iawn i'r sgôr o 488 a gafwyd yn 2018. Nid oedd cyfartaledd yr OECD yn sylweddol is yn 2022 nag yn 2018.

Nodyn

Mae'r ffigurau uchod yn seiliedig ar gymharu Cymru â gwledydd eraill sy'n cymryd rhan, gan gynnwys gwahanol rannau'r DU. Mae hyn yn gyson â'r adroddiad cenedlaethol a gynhyrchwyd gan Brifysgol Rhydychen.

Rhagor o wybodaeth

Gellir gweld adroddiad rhyngwladol PISA 2022, a gwybodaeth ychwanegol, ar wefan yr OECD.

Adroddiadau

PISA 2022: Adroddiad Cenedlaethol Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 7 MB

PDF
7 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Glyn Wells

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.