Cyflawni’r 100 Diwrnod Cyntaf: adroddiad cynnydd Mai i Awst 2026
Adroddiad ar y cynnydd a wnaed yn ystod 100 diwrnod cyntaf y llywodraeth newydd.
Ar y dudalen hon
Rhagair
Gan diwrnod yn ôl, dechreuodd y Llywodraeth hon ar raglen uchelgeisiol o gamau gweithredu cynnar i ysgogi’r newid y pleidleisiodd pobl Cymru drosto.
Roedd Roedd Cynllun y 100 Diwrnod Cyntaf yn ganllaw i’n tywys yn ystod y cyfnod llywodraethu cyntaf hwn, gan roi ffocws, momentwm a chyfeiriad.
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn erbyn yr ymrwymiadau a nodir yn y Cynllun hwnnw. Gan fod yr holl weithgarwch cychwynnol a gynlluniwyd wedi’i gwblhau erbyn hyn, mae hon yn garreg filltir bwysig yn y gwaith o gyflawni ein rhaglen. Mae’n adlewyrchu’r gwaith sydd wedi’i wneud ar draws y llywodraeth i fwrw ymlaen â’n chwe maes blaenoriaeth, gosod y sylfeini ar gyfer newid hirdymor a gwella bywyd pobl a chymunedau ledled Cymru.
O’r dechrau, mae ein ffocws wedi bod ar weithredu ymarferol.
Rwy’n falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni. Roedd yr ymrwymiadau y gwnaethom eu gosod i ni’n hunain yn rhai bwriadol uchelgeisiol. Rydym wedi gweithio ar draws y llywodraeth gyda ffocws di-baid ar ein blaenoriaethau. Mae camau pendant wedi’u cymryd i wella iechyd ac addysg, cefnogi teuluoedd, tyfu’r economi a sicrhau bod gan Gymru y pwerau a’r adnoddau sydd eu hangen arni i lwyddo.
Mae’r gwaith hwn wedi digwydd ar adeg pan fo heriau sylweddol. Rydym wedi bod yn glir bod angen uchelgais, dyfalbarhad ac ymdrech barhaus. Nid oedd erioed fwriad i’r 100 diwrnod cyntaf fod yn benllanw ynddynt eu hunain. Yn hytrach, maen nhw wedi rhoi cyfle i adeiladu momentwm, creu’r amodau ar gyfer newid parhaol a dechrau’r gwaith o wireddu ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer Cymru.
Mae tryloywder ac atebolrwydd yn parhau i fod yn ganolog i’r ffordd rydym yn gweithredu. Byddwn yn cael ein barnu nid yn unig yn ôl yr ymrwymiadau a wnawn ni, ond gan y gwahaniaeth y maen nhw’n eu gwneud i fywydau pobl. Drwy gydol y cyfnod hwn, rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar ganlyniadau ac effaith go iawn ein camau gweithredu, gan gryfhau’r ffordd rydym yn olrhain ac yn adrodd ar gynnydd i sicrhau bod y llywodraeth yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru.
Mae’r gwaith sy’n cael ei amlinellu yma yn rhoi sylfaen gadarn i’r rhaglen o newid a fydd yn dilyn. Er bod llawer wedi’i gyflawni, mae llawer mwy i’w wneud. Dim ond y dechrau yw hyn.
Mae’r 100 diwrnod cyntaf wedi dangos mor benderfynol yr ydyn ni o wireddu’r mandad a roddwyd inni. Maen nhw wedi gosod y sylfaen ar gyfer y blynyddoedd nesaf, yn seiliedig ar ein gwerthoedd o degwch, cyfiawnder ac uchelgais, ac wedi’u hategu gan gamau gweithredu ystyrlon a ffocws clir ar wella bywydau pobl. Byddwn yn adeiladu ar y cynnydd hwn gyda’r un ffocws, egni ac ymdeimlad o bwrpas wrth inni symud i gam nesaf rhaglen y Llywodraeth hon.
Y Gwir Anrhydeddus Rhun ap Iorwerth AS
Prif Weinidog Cymru
Gweinidogion y Cabinet a’r Dirprwy Weinidogion
- Gwir Anrhydeddus Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog Cymru
- Sioned Williams AS, Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
- Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, Y Gweinidog Cabinet dros Gyllid
- Heledd Fychan AS, Y Trefnydd, y Prif Chwip a’r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
- Adam Price AS, Y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
- Anna Brychan AS, Y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
- Dafydd Trystan Davies AS, Y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad
- Mabon ap Gwynfor AS, Y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
- Llyr Gruffydd AS, Y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
- Siân Gwenllian AS, Y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
- Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd, Y Cwnsler Cyffredinol
- Delyth Jewell AS, Y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod
- Mark Hooper AS, Y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth
- Cefin Campbell AS, Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol
- Nerys Evans AS, Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol
Ein blaenoriaethau
Mae’r 100 diwrnod cyntaf wedi dangos beth mae llywodraeth sydd ag egni, uchelgais ac ymdeimlad clir o bwrpas yn gallu ei gyflawni. Rydym wedi dechrau ailennyn ymddiriedaeth drwy fod yn agored am yr hyn rydym yn ei wneud, yn onest am yr heriau sy’n ein hwynebu, a chanolbwyntio ar gyflawni’r blaenoriaethau sydd bwysicaf i gymunedau ledled Cymru.
- Torri rhestrau aros, a datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
- Helpu teuluoedd â chostau byw drwy ofal plant fforddiadwy ac o safon.
- Datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy’n talu’n dda.
- Codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu.
- Mynd i’r afael â thlodi plant.
- Sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan.
1. Torri rhestrau aros, a datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol
Yn ystod ein 100 diwrnod cyntaf, rydym wedi cymryd camau pendant i wella perfformiad y GIG a mynediad at ofal, gan ddechrau’r newid tuag at system iechyd a gofal mwy ataliol a chynaliadwy.
Rhan allweddol o’r gwaith hwn yw creu system sy’n canolbwyntio nid yn unig ar drin salwch ond ar wella canlyniadau iechyd a lleihau’r galw am wasanaethau yn y dyfodol. Dechreuom weithio i nodi ac olrhain gwariant ataliol yn well, gan helpu i gefnogi ymyrraeth gynharach a gwell canlyniadau iechyd. Rydym wedi comisiynu gwaith i wella ein dealltwriaeth anghydraddoldeb iechyd, gan sicrhau bod camau gweithredu yn y dyfodol yn cael eu targedu lle gallant wneud y gwahaniaeth mwyaf.
Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi cymryd camau i wella perfformiad y GIG a lleihau amseroedd aros. Fe wnaethom gyhoeddi buddsoddiad o £145 miliwn yn y GIG sy’n canolbwyntio ar wella perfformiad ar unwaith yn ogystal â chapasiti hirdymor y system. Mae’n cynnwys £100 miliwn i helpu i leihau amseroedd aros, £25 miliwn i ddatblygu hybiau gofal detholus newydd a fydd yn ehangu capasiti gofal detholus, ac £20 miliwn i fynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw hanfodol ar draws ystad y GIG.
Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ofal Detholus, a arweinir yn glinigol, i ddatblygu cynllun cyflawni ar gyfer hybiau gofal detholus ledled Cymru, gan helpu i ddatblygu system gofal a gynlluniwyd sy’n fwy gwydn a hybu mynediad cyflymach at ofal.
Rydym hefyd wedi dechrau gweithio i gryfhau gofal sylfaenol a chymunedol, gan gefnogi ein huchelgais i ddarparu mwy o ofal yn agosach at y cartref a lleihau’r pwysau ar wasanaethau ysbytai. Daethom ag arweinwyr byrddau iechyd ynghyd a sicrhau cytundeb i gryfhau gwasanaethau sylfaenol a chymunedol gyda chefnogaeth gwaith ar drefniadau gofal sylfaenol y dyfodol, arweinyddiaeth gryfach ar gyfer gofal y tu allan i’r ysbyty a mwy o rôl i lais y claf wrth lunio gwasanaethau.
Cynhaliwyd Uwchgynhadledd ar Iechyd Menywod, a ddaeth â chlinigwyr, ymchwilwyr, llunwyr polisi a phobl â phrofiadau bywyd ynghyd er mwyn cryfhau’r dylanwad dros bolisïau a chynllunio gwasanaethau ym maes gofal iechyd, mynd i’r afael â’r gydnabyddiaeth annigonol a roddir i boen a phryderon iechyd menywod, a llywio cam nesaf Cynllun Iechyd Menywod GIG Cymru.
Sicrhawyd cytundeb hefyd ar yr uchelgais i gynyddu cyfran gwariant byrddau iechyd a fuddsoddir mewn gofal sylfaenol o 2027-2028 ymlaen, gan sefydlu ymrwymiad a rennir ledled GIG Cymru i’r cyfeiriad hwn. Mae cynnydd wedi’i wneud o ran datblygu Cynllun Canser newydd i Gymru, ochr yn ochr â chamau i wella mynediad at wasanaethau diagnostig a chryfhau’r cymorth i gleifion a goroeswyr. Bydd y camau hyn yn helpu i wella canlyniadau a sicrhau bod cleifion yn parhau i fod wrth wraidd datblygu gwasanaethau.
Rydym hefyd yn moderneiddio sut mae pobl yn cael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal. Mae’r trafodaethau wedi dechrau ar gynllun gweithredu teleiechyd cenedlaethol, ac mae rhaglen hirdymor ar gyfer iechyd a gofal digidol yn cael ei datblygu er mwyn gwella mynediad, cryfhau gwasanaethau digidol i gleifion a chefnogi defnydd mwy effeithlon o adnoddau’r GIG.
Er mwyn cefnogi gwelliant hirdymor ar draws y GIG, rydym wedi cymryd camau i gryfhau gwaith cynllunio’r gweithlu, lleihau dibyniaeth ar weithwyr asiantaeth a gwella sut mae data ac adnoddau yn cael eu defnyddio ar draws y gwasanaeth iechyd.
Cynhaliwyd Uwchgynhadledd Graddedigion y Gweithlu Iechyd i fwrw golwg ar y cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer nyrsys, bydwragedd a pharafeddygon, gyda’r nod o wella cyfraddau dal gafael ar y gweithlu a sicrhau bod cyfleoedd addas ar gael i weithwyr proffesiynol sy’n dod i mewn i’r GIG.
Rydym hefyd wedi bwrw ymlaen â’r gwaith i gryfhau’r cydweithio rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol drwy adolygu’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
Mae’r 100 diwrnod cyntaf hyn wedi canolbwyntio ar fynd i’r afael â phwysau uniongyrchol a gosod y sylfeini ar gyfer gwelliant tymor hwy. Mae’r gwaith bellach yn bwydo i raglenni mawr sydd â’r nod o symud gofal yn nes at y cartref, gwella mesurau atal, lleihau amseroedd aros, moderneiddio gwasanaethau digidol, cryfhau gofal canser, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ym maes iechyd, a chreu system iechyd a gofal fwy cynaliadwy ac integredig i Gymru.
2. Helpu teuluoedd â chostau byw drwy ofal plant sy’n fforddiadwy ac o safon
Mae blynyddoedd cynharaf plentyn yn chwarae rhan dyngedfennol o ran llywio ei ddysgu, ei iechyd a’i les.
Gall mynediad at ofal plant fforddiadwy ac o safon drawsnewid cyfleoedd i blant a helpu rhieni a gofalwyr i gydbwyso gwaith, hyfforddiant a bywyd teulu. Mae hefyd yn chwarae rhan bwysig o ran mynd i’r afael â chostau byw, rhoi arian yn ôl ym mhocedi teuluoedd a helpu rhagor o bobl i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant.
Dyna pam rydym wedi dechrau darparu cynnig gofal plant symlach a chyffredinol i blant rhwng naw mis a phedair oed. Ar ôl ei gyflwyno’n llawn, bydd gan bob plentyn hawl i 20 awr o ofal plant a ariennir bob wythnos am 48 wythnos o’r flwyddyn, gan greu’r cynnig gofal plant mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig a ariennir gan lywodraeth. I deuluoedd, gallai hyn fod yn werth hyd at £30,000 mewn cymorth gofal plant yn ystod pedair blynedd gyntaf bywyd plentyn.
Rydym wedi cefnogi’r uchelgais hon gyda buddsoddiad ychwanegol o £55 miliwn ar gyfer 2026-2027 i gwblhau cam cyntaf y gwaith ehangu. Mae hyn yn cyflymu’r broses o gyflwyno 12.5 awr o ofal plant wedi’i ariannu ar gyfer pob plentyn dwy oed ac yn cefnogi awdurdodau lleol i ehangu’r ddarpariaeth ledled Cymru. Ar ddechrau tymor y Senedd hon, dim ond tri awdurdod lleol oedd wedi cadarnhau eu bod yn cynnig gofal plant a ariennir i bob plentyn dwy oed yn eu hardal. Erbyn diwedd y 100 diwrnod, roedd pob un o’r 22 o awdurdodau lleol ar y trywydd iawn i gwblhau cam cyntaf y gwaith ehangu hwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, gan osod y sylfeini ar gyfer ein system gofal plant gyffredinol cyn diwedd ein blwyddyn gyntaf mewn grym.
Er mwyn cynnig gofal plant ar y raddfa hon, mae angen buddsoddi nid yn unig yn y ddarpariaeth, ond hefyd yn y gweithlu sy’n sail iddi. Rydym wedi sefydlu Grŵp Llywio Arbenigol, sy’n dwyn ynghyd gyrff sy’n cynrychioli darparwyr, awdurdodau lleol, cynrychiolwyr y gweithlu ac arbenigwyr sector i helpu i lunio a chefnogi’r rhaglen ehangu. Gan weithio ochr yn ochr â thasglu gofal plant pwrpasol Llywodraeth Cymru, mae’r grŵp yn helpu i fynd i’r afael â heriau allweddol, gan gynnwys cynllunio’r gweithlu, mynediad, cyflwyno a symleiddio systemau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod yr ehangu yn parhau i fod yn gynaliadwy, yn hygyrch ac yn canolbwyntio ar ddarpariaeth o ansawdd uchel i blant a theuluoedd.
Mae gofal plant cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o’n dull gweithredu. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y sector i ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a chreu mwy o gyfleoedd i blant ddysgu a defnyddio’r Gymraeg o’r blynyddoedd cynharaf. Bydd hyn yn cefnogi ein huchelgeisiau ehangach ar gyfer y Gymraeg, yn cynyddu’r dewis i deuluoedd ac yn cryfhau llwybrau i addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae ein 100 diwrnod cyntaf wedi canolbwyntio ar droi ymrwymiad trawsnewidiol yn weithredu ymarferol. Drwy ehangu mynediad at ofal plant wedi’i ariannu, buddsoddi yn y sector a sefydlu’r partneriaethau sydd eu hangen i gefnogi ehangu hirdymor, rydym yn helpu mwy o deuluoedd gyda chostau byw, yn cefnogi rhieni i gael gwaith neu hyfforddiant, ac yn rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant.
3. Datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy’n talu’n dda
Mae economi gadarn yn creu cyfleoedd, gan helpu pobl i gael mynediad at swyddi da, galluogi busnesau i dyfu a darparu’r sylfaen ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt.
Fodd bynnag, nid yw twf economaidd yn digwydd ar ddamwain. Mae angen uchelgais glir, cynlluniau hirdymor a buddsoddiad parhaus. Lai na thair wythnos ers dechrau’r weinyddiaeth hon, cyhoeddwyd y nod economaidd mwyaf uchelgeisiol yng Nghymru ers dau ddegawd – sef haneru’r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a’r DU cyn pen deng mlynedd.
Mae cyflawni’r uchelgais honno yn gofyn am ddull gweithredu gwahanol mewn perthynas â datblygu economaidd. Dyna pam rydym wedi cymryd y camau cyntaf tuag at sefydlu Asiantaeth Ddatblygu Genedlaethol newydd i Gymru, gan benodi panel arbenigol i lywio ei chylch gorchwyl, ei llywodraethiant a’i model gweithredu. Ar ôl ei sefydlu, bydd yr Asiantaeth yn helpu busnesau i ddechrau, tyfu a buddsoddi, tra’n cefnogi arloesedd a denu buddsoddiad i Gymru. Rydym hefyd wedi dechrau datblygu grŵp economaidd a chyllidol newydd, gan gryfhau’r dystiolaeth a’r arbenigedd a fydd yn helpu i lywio polisi economaidd a chyllidol ar gyfer y dyfodol a chefnogi ffyniant hirdymor.
Pobl sydd wrth wraidd economi lwyddiannus. Bydd sicrhau bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi heddiw ac yfory yn helpu busnesau i dyfu a chreu cyfleoedd newydd ledled Cymru. Dyna pam rydym wedi lansio Archwiliad Sgiliau ledled Cymru i nodi anghenion sgiliau’r dyfodol ar draws ein heconomi.
Bydd y canfyddiadau cynnar yn llywio Uwchgynhadledd Sgiliau’r Dyfodol ar 8 Hydref, a fydd yn dod â chyflogwyr, darparwyr addysg a phartneriaid allweddol ynghyd i lywio polisi ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod ein system addysg a hyfforddiant yn arfogi pobl â’r galluoedd sydd eu hangen ar fusnesau i dyfu a chystadlu.
Mae trafnidiaeth ddibynadwy, integredig a fforddiadwy yn hanfodol i dwf economaidd, gan helpu pobl i gael mynediad at gyflogaeth ac addysg tra’n galluogi busnesau i gyrraedd cwsmeriaid a marchnadoedd yn haws.
Gan weithio gyda Trafnidiaeth Cymru, rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus mwy integredig. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno system docynnau glyfar, ehangu’r dechnoleg tapio i mewn ac allan i 15 gorsaf ar linell Wrecsam-Bidston yn y Gogledd-ddwyrain, gyda 10 gorsaf arall i ddilyn yn ddiweddarach eleni, a datblygu un platfform digidol ar gyfer cynllunio a threfnu teithiau.
Rydym wedi buddsoddi £8 miliwn i ymestyn y tocyn bws £1 i bawb rhwng 5 a 21 oed tan fis Mawrth 2027, gan helpu mwy o bobl ifanc i gael mynediad at addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a chyfleoedd hamdden. Rydym wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer gwasanaeth bysiau cyflym newydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin i ddechrau yn yr hydref, gan wella cysylltiadau rhwng cymunedau ledled Cymru. Bydd buddsoddiad mewn 30 o fysiau newydd yn helpu i gryfhau rhwydweithiau trafnidiaeth lleol ac yn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn mwy deniadol i ragor o bobl.
Mae ein huchelgais ar gyfer twf yn ymestyn i bob rhan o Gymru. Rydym yn cymryd camau i adfywio canol trefi, symleiddio prosesau cynllunio a datblygu Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd gydag awdurdodau lleol a phartneriaid rhanbarthol, gan helpu i ddatgloi buddsoddiad a chefnogi datblygu cynaliadwy. Ochr yn ochr â hyn, bydd cynigion ar gyfer Strategaeth Ynni Genedlaethol a datblygiad arfaethedig Trydan Gwyrdd Cymru yn helpu i gryfhau dyfodol ynni Cymru, gan gefnogi buddsoddiad a’n proses o bontio i economi wyrddach a mwy gwydn.
Mae cymunedau gwledig wrth wraidd ein gwaith. Er mwyn sicrhau bod anghenion gwledig yn cael eu hystyried yn gyson pan fydd polisïau, gwasanaethau a rhaglenni yn cael eu datblygu a’u cyflawni, cyhoeddwyd Papur Gwyn yn ceisio barn ar ddyletswydd statudol ar gyfer prawfesur gwledig. Rydym hefyd wedi ymrwymo dros £1 biliwn dros dair blynedd i gefnogi amaethyddiaeth drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan gadarnhau cylch cyllido amlflwyddyn, ac wedi comisiynu adolygiad o’r baich biwrocrataidd sy’n wynebu ffermydd teuluol. Gan fabwysiadu agwedd o’r fferm i’r fforc, ac i drawsnewid y ffordd rydym yn meddwl am fwyd, cyhoeddwyd Strategaeth Fwyd Genedlaethol. Caiff ei llywio gan grŵp arbenigol a gadeirir gan Simon Wright, sydd â dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector.
Mae ein 100 diwrnod cyntaf wedi canolbwyntio ar osod y sylfeini ar gyfer llwyddiant economaidd hirdymor. Drwy fuddsoddi mewn pobl, busnesau, seilwaith a chymunedau, rydym yn creu’r amodau sydd eu hangen er mwyn cynyddu cynhyrchiant, cefnogi swyddi da a lledaenu ffyniant ar draws Cymru.
4. Codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu
Mae gan addysg y pŵer i drawsnewid bywydau. Mae’n agor drysau i gyfleoedd, yn cryfhau cymunedau ac yn helpu i adeiladu’r gweithlu medrus a hyderus sydd ei angen ar Gymru.
O’r cychwyn cyntaf, rydym wedi rhoi blaenoriaeth i godi safonau ar draws y system addysg wrth sicrhau bod dysgwyr ac athrawon yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu. Yn greiddiol i’r gwaith hwn, mae ymrwymiad pendant i sicrhau y gall pob plentyn, ym mhob cymuned, wireddu ei botensial llawn.
Mae gwella llythrennedd a rhifedd wedi bod yn ffocws canolog yn ystod ein 100 diwrnod cyntaf, gan gydnabod bod sylfeini cadarn yn y sgiliau hyn yn hanfodol i lwyddiant yn y dyfodol. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar Gynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref. Bydd y cynllun yn cyflwyno dangosyddion cenedlaethol cliriach, yn cryfhau’r defnydd o dystiolaeth ac yn cefnogi ymyrraeth gynharach pan fo angen cymorth ychwanegol ar ddysgwyr, gan helpu i godi safonau ledled Cymru a chefnogi’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o syrthio ar ei hôl hi.
Mae meithrin awch am ddarllen yr un mor bwysig. Mae gwaith ar y gweill i sicrhau bod gan bob ysgol gynradd yng Nghymru fynediad at ofod llyfrgell pwrpasol erbyn 2030, tra bod ymdrechion yn parhau i wreiddio darllen ar draws y cwricwlwm. Bydd y newidiadau hyn yn helpu mwy o blant i ddatblygu’r hyder, y chwilfrydedd a’r arferion y gall darllen eu hysbrydoli.
Rhaid i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gael y cyfle i lwyddo ochr yn ochr â’u cyfoedion. Gan gydnabod y pwysau sy’n wynebu dysgwyr, teuluoedd, ysgolion a cholegau, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i gryfhau eglurder y system, cynyddu capasiti, gwella cymorth dwyieithog a meithrin hyder y gweithlu, fel bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth cywir, ar yr adeg gywir, i ddiwallu eu hanghenion.
Ein huchelgais yw diwygio Academi Seren er mwyn datblygu rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer dilyniant dysgwyr. Bydd hyn yn ein helpu i gefnogi a herio dysgwyr mewn ysgolion a cholegau yn well, gan gynnwys y rhai sydd dan anfantais, fel y gallant wireddu eu potensial. Bydd y rhaglen yn dwyn ynghyd gryfderau Academi Seren a’r Rhaglen Ymestyn yn Ehangach, a ariennir ar hyn o bryd gan Medr, mewn un cynnig cydlynol i ddysgwyr ledled Cymru.
Mae cysylltiad agos rhwng presenoldeb, ymddygiad, iechyd meddwl a llesiant, a gall pob un o’r rhain gael effaith sylweddol ar brofiad dysgwr o addysg. Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn, mae gwaith wedi dechrau ar fframwaith cenedlaethol integredig newydd a fydd yn dod â phartneriaid ym meysydd addysg, iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd o amgylch gweledigaeth gyffredin, sef y dylai pob dysgwr deimlo ei fod yn ddiogel, yn cael ei gynnwys ac yn gallu cymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol.
Bydd ymyrraeth gynharach, gwaith partneriaeth cryfach a chymorth mwy cyson wrth wraidd y fframwaith. Bydd hyn yn cael ei ategu gan ddatblygu dull Ysgolion Cymunedol a Mwy newydd, a fydd yn treialu dulliau sy’n cefnogi ein fframwaith cenedlaethol, yn dod â gwasanaethau yn nes at blant a theuluoedd ac yn helpu ysgolion i ymateb yn fwy effeithiol i anghenion lleol.
Mae darparu’r amodau gorau ar gyfer dysgu hefyd yn golygu sicrhau bod disgyblion yn cael eu haddysgu mewn amgylcheddau diogel, cefnogol a gynhelir yn dda. Wrth inni fwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu arolwg cenedlaethol o gyflwr ysgolion, rydym wedi cyhoeddi £40 miliwn ychwanegol i fynd i’r afael ag ôl-groniadau cynnal a chadw ac atgyweiriadau hanfodol ar draws ystad ysgolion Cymru.
Mae awdurdodau lleol hefyd yn cael eu grymuso i hyrwyddo diogelwch, dysgu a llesiant disgyblion drwy gyfyngu ar y defnydd o ffonau clyfar mewn ysgolion ar gyfer plant o dan 16 oed. Bydd disgwyliadau cenedlaethol clir ynghylch defnyddio ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol yn helpu i gefnogi dull gweithredu mwy cyson ledled Cymru. Yn ogystal, bydd ehangu’r cynllun prydau ysgol am ddim yn helpu i sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn cael eu bwydo’n dda, yn barod i ddysgu ac yn gallu cymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol.
Ni fydd modd cyflawni unrhyw un o’r uchelgeisiau hyn heb yr athrawon a staff ysgolion sy’n cefnogi dysgwyr bob dydd. Er mwyn helpu i fynd i’r afael â heriau recriwtio, mae cymelldaliadau ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon mewn pynciau blaenoriaeth wedi’u cynyddu i £20,000, gan annog mwy o bobl i ymuno â meysydd lle mae’r prinder ar ei waethaf, gan gynnwys mathemateg, gwyddoniaeth, Cymraeg a phynciau digidol. Rydym hefyd wedi dechrau gweithredu argymhellion i leihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth ddiangen, gan helpu i wella cyfraddau dal gafael ar athrawon a galluogi mwy o amser i gael ei neilltuo i addysgu a dysgu.
Addysg uwch yw un o asedau cenedlaethol pennaf Cymru. Mae’n addysgu gweithlu’r dyfodol, yn ysgogi ymchwil ac arloesi, yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, yn cryfhau cymunedau ac yn gwneud cyfraniad pwysig at ein hiaith a’n diwylliant.
Mae angen inni sicrhau sector addysg uwch a system cyllid myfyrwyr sy’n gynaliadwy ar gyfer tridegau’r ganrif hon a thu hwnt. Dyma pam rydym wedi lansio adolygiad cynhwysfawr o’r sector, yn hytrach na chanolbwyntio ar ffrydiau cyllido unigol neu atebion tymor byr.
Rydym wedi cyhoeddi cylch gorchwyl yr adolygiad, a fydd yn ystyried cymorth i fyfyrwyr, cyllid sefydliadol, ymchwil ac arloesi, cyfranogiad, deilliannau graddedigion, a threfniadaeth a gwydnwch y sector addysg uwch yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn cael ei arwain gan banel annibynnol. Bydd aelodaeth y panel yn cael ei chadarnhau cyn bo hir a bydd yn cynnwys arbenigwyr ym maes polisi addysg uwch o Gymru a thu hwnt.
Mae ein 100 diwrnod cyntaf wedi canolbwyntio ar godi safonau, cefnogi’r gweithlu addysg a sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle i lwyddo. O lythrennedd a rhifedd i lesiant, presenoldeb ac amgylcheddau ysgolion, rydym wedi cymryd camau pwysig i greu’r amodau ar gyfer safonau uwch a chanlyniadau gwell ledled Cymru. Wrth inni symud ymlaen i’r cam nesaf, byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion, teuluoedd a phartneriaid i adeiladu system addysg sy’n sicrhau rhagoriaeth, cyfleoedd ac uchelgais i bawb.
5. Mynd i’r afael â thlodi plant
Dylai pob plentyn allu dysgu, cymryd rhan a gwireddu ei botensial, waeth beth fo incwm ei deulu.
Fodd bynnag, mae gormod o blant yng Nghymru yn parhau i brofi tlodi, sy’n gallu cael effaith ar iechyd, cyrhaeddiad addysgol a chyfleoedd bywyd. Felly, mae mynd i’r afael â thlodi plant yn rheidrwydd moesol ac yn fuddsoddiad yn nyfodol Cymru.
Mae ein dull yn canolbwyntio ar ymdrin â’r pwysau uniongyrchol sy’n wynebu teuluoedd tra’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi.
Mae gwaith wedi dechrau ar strategaeth tlodi plant newydd, wedi’i hategu gan dargedau a cherrig milltir uchelgeisiol a chlir, a ffocws cryfach ar dystiolaeth, atal a chanlyniadau hirdymor. Rydym hefyd wedi comisiynu adolygiad o’r ‘budd-daliadau Cymreig’ presennol er mwyn deall yn well eu cyrhaeddiad, eu heffeithiolrwydd a’u heffaith, gan helpu i sicrhau bod cymorth yn cael ei dargedu at y mannau lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf.
Rhan allweddol o’n gwaith yw Cynnal, sef Taliad Plant Cymru. Rydym wedi sefydlu grŵp arbenigol i helpu i ddylunio, cyflwyno a gwerthuso cynllun peilot a fydd yn darparu £10 yr wythnos i hyd at 15,000 o blant sy’n byw mewn aelwydydd sy’n cael Credyd Cynhwysol. Yn seiliedig ar dystiolaeth, cyngor arbenigol a phrofiadau teuluoedd eu hunain, bydd y cynllun peilot yn helpu i adeiladu ein dealltwriaeth o sut y gall cymorth ariannol uniongyrchol wella canlyniadau i blant a lleihau effaith tlodi.
Rydym hefyd wedi ymrwymo £15 miliwn ychwanegol i ehangu’r cynllun prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol uwchradd y mae eu haelwydydd yn cael Credyd Cynhwysol, gan gael gwared ar y trothwy incwm presennol o £7,400.
O fis Medi ymlaen, bydd rhieni plant ym Mlynyddoedd 7 ac 8 yn gallu gwneud cais am y cynnig estynedig. Mae’r buddsoddiad hwn yn cynnwys cyllid i wella ceginau a chyfleusterau bwyta ysgolion, gan helpu i sicrhau bod mwy o blant yn gallu eistedd i lawr i gael pryd iach yn yr ysgol bob dydd, a lleihau’r pwysau ariannol sy’n wynebu teuluoedd.
Mae ein 100 diwrnod cyntaf wedi nodi dechrau dull gweithredu newydd ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant. Drwy ddatblygu strategaeth tlodi plant newydd, sefydlu cynllun peilot Cynnal, ehangu’r cynllun prydau ysgol am ddim a buddsoddi’n sylweddol mewn gofal plant, rydym yn cyflwyno pecyn cydgysylltiedig o gymorth, a fydd yn helpu teuluoedd, yn gwella cyfleoedd bywyd plant ac yn creu cyfleoedd i genedlaethau’r dyfodol.
6. Sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan
Mae sefyll dros Gymru a sicrhau bod ein cenedl yn cael ei thrin yn deg wedi bod yn egwyddor allweddol i’r Llywodraeth hon o’r dechrau.
Rydym wedi cymryd camau i gryfhau llais Cymru, sicrhau setliad tecach, sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru y pwerau cyllidol a chyfansoddiadol cywir, a sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli ar bob cyfle.
Rydym wedi cyflwyno’r achos i Lywodraeth y DU dros setliad tecach i Gymru, gan bwyso am Fil Cymru newydd a fyddai’n rhoi’r pwerau sydd eu hangen ar Gymru i wella canlyniadau i bobl a chymunedau ledled y wlad. Mae hyn yn cynnwys galw am ddatganoli mewn meysydd blaenoriaeth, megis cyfiawnder a phlismona, seilwaith rheilffyrdd, cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf, lles, ac Ystad y Goron. Rydym hefyd wedi codi’r angen i gryfhau cysylltiadau rhynglywodraethol a rhoi Confensiwn Sewel ar sail fwy cadarn, gan ddiogelu datganoli a helpu i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hadlewyrchu’n briodol mewn prosesau penderfynu ledled y DU.
Rydym wedi codi’n uniongyrchol gyda’r Trysorlys a Gweinidogion Cyllid y llywodraethau datganoledig ein blaenoriaeth i wella’r ffordd y mae fformiwla Barnett yn gweithredu, gan archwilio ar yr un pryd fformiwla ariannu newydd sy’n seiliedig ar angen ac sy’n adlewyrchu anghenion cymunedau Cymru yn well yn y tymor hwy. Bydd y mater hwn yn cael ei drafod yng nghyfarfod Gweinidogion Cyllid y DU ym mis Medi.
Rydym hefyd wedi dechrau trafod â Phrif Weinidog ac uwch-Weinidogion eraill Llywodraeth y DU yr angen am fuddsoddiad teg yn y seilwaith rheilffyrdd, er mwyn mynd i’r afael â’r anghyfiawnder o ran cyllid HS2 a chefnogi cysylltedd a thwf economaidd.
Rydym wedi pwyso am gyfiawnder amgylcheddol drwy godi’n uniongyrchol gyda’r Trysorlys bwysigrwydd cyllid gan Lywodraeth y DU i barhau â’n hymdrechion ar y cyd i fynd i’r afael ag etifeddiaeth ddiwydiannol Cymru, gan gynnwys adfer tomenni glo a glanhau tir halogedig. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu cymunedau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac yn dod â thir yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol er mwyn cefnogi twf economaidd. Rydym hefyd wedi bwrw ymlaen â thrafodaethau ynghylch datganoli rhagor o bwerau drwy Fil Dŵr Glân Llywodraeth y DU, fel y gall Cymru gael rheolaeth lawn dros ei dŵr.
Gan gydnabod y rôl bwysig y mae darlledu a chyfathrebu yn ei chwarae wrth gefnogi democratiaeth, diwylliant ac iaith, rydym wedi cyhoeddi cynlluniau ac amserlen ar gyfer sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru. Yn unol â’r dull gweithredu fesul cam hwn, disgwylir i argymhellion ynghylch ei rôl a’i weithrediad yn y dyfodol gael eu cyflwyno yn 2028. Mae’r gwaith hwn yn gam pwysig tuag at gryfhau llais Cymru mewn materion darlledu a chyfathrebu, gan hyrwyddo safbwyntiau Cymru a chefnogi cynnwys Cymraeg a Chymreig.
Mae ein 100 diwrnod cyntaf wedi dangos ein hymrwymiad i sefyll dros Gymru ar bob cyfle. Rydym wedi cyflwyno’r achos dros gyllid a buddsoddiad teg, wedi pwyso am y pwerau sydd eu hangen ar Gymru i wella canlyniadau i bobl a chymunedau, wedi bwrw ymlaen â’r gwaith o sefydlu Comisiwn Cenedlaethol i annog y cyhoedd i gymryd rhan mewn trafodaethau am drefniadau cyfansoddiadol Cymru yn y dyfodol, ac wedi hyrwyddo’r Gymraeg. Drwy’r gwaith hwn, rydym wedi dechrau cyflawni ein hymrwymiad i gryfhau llais Cymru, ehangu’r cyfleoedd i bobl helpu i lunio dyfodol y genedl, a sicrhau bod gan Gymru y pwerau, y dulliau a’r dylanwad sydd eu hangen i wireddu dyheadau cymunedau ledled Cymru.
Cyflawni’n ehangach
Er bod ein chwe blaenoriaeth wedi darparu ffocws clir ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf, mae gwaith pwysig hefyd wedi bod yn mynd rhagddo ar draws ystod o feysydd eraill.
O wella’r ffordd y mae’r llywodraeth yn gweithredu i gefnogi cymunedau a diwylliant, mae’r camau hyn yn helpu i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus, cefnogi’r gwaith o gyflawni ein blaenoriaethau a gwella bywydau pobl ledled Cymru.
Rhan allweddol o’r gwaith hwn fu cryfhau’r ffordd y mae’r llywodraeth yn cyflawni. Rydym wedi cyflwyno dulliau newydd i gefnogi cyflawni ar draws y llywodraeth, gan gynnwys goruchwyliaeth Weinidogol bwrpasol a threfniadau monitro cryfach. Rydym hefyd wedi cyhoeddi’r fersiwn gyntaf o ddangosfwrdd digidol, gan alluogi pobl i olrhain cynnydd yn erbyn ein blaenoriaethau a gweld sut mae ein camau gweithredu yn gwneud gwahaniaeth ledled Cymru.
Er mwyn cefnogi hyn, rydym wedi sefydlu Swyddfa Cabinet Gymreig gyda gallu digidol, gan ddod ag arbenigedd ym meysydd polisi, cyflawni a data ynghyd i gefnogi penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gwella’r ffordd y mae’r llywodraeth yn gweithio ar draws ffiniau adrannol.
Rydym hefyd wedi dechrau ar y gwaith o sefydlu Arwain, Ysgol Lywodraethu Genedlaethol newydd, a fydd yn helpu i gryfhau arweinyddiaeth, dysgu a gallu ar draws sector cyhoeddus Cymru.
Mae cefnogi cymunedau cryf, gwydn hefyd wedi parhau i fod yn ganolog i’n dull gweithredu. Rydym wedi bwrw ymlaen â gwaith tuag at Hawl i Gartref Digonol, gan gydnabod y rôl y mae cartrefi diogel a fforddiadwy yn ei chwarae wrth gefnogi cymunedau iachach. Gan adeiladu ar hyn, rydym hefyd wedi amlinellu cynigion ar gyfer ein Bil Rhentwyr cyntaf, gyda’r nod o gryfhau hawliau a mesurau diogelu yn y sector rhentu preifat. Rydym hefyd wedi adolygu’r Rhaglen Cartrefi Clyd ac wedi cyhoeddi £17 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi, gan helpu aelwydydd i leihau costau ynni, mynd i’r afael â thlodi tanwydd a lleihau allyriadau carbon. Rydym wedi diogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau arbenigol sy’n canolbwyntio ar oroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan fwrw ymlaen ar yr un pryd â gwaith trawslywodraethol i gryfhau atal a gwella cymorth i ddioddefwyr.
Mae’r Gymraeg yn iaith i bawb yng Nghymru, a byddwn yn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i’w dysgu, ei defnyddio a byw eu bywydau drwyddi. Rydym wedi dechrau bwrw ymlaen ag amcanion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ac archwilio sut y gellir ymestyn Safonau’r Gymraeg i gyrff a gwasanaethau Llywodraeth y DU sy’n gweithredu yng Nghymru. Bydd y camau hyn yn helpu i gryfhau cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd ac i gefnogi’r iaith mewn cymunedau ledled Cymru.
Mae diwylliant, creadigrwydd a chwaraeon yn gwneud cyfraniad hanfodol at fywyd cenedlaethol Cymru, gan gefnogi llesiant, cydlyniant cymunedol ac iechyd ataliol. Rydym wedi lansio sgwrs genedlaethol ar Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd i Gymru, gan helpu i lunio gweledigaeth hirdymor gyffredin ar gyfer y sectorau hyn a’u cyfraniad at gymdeithas Cymru. Rydym hefyd wedi sefydlu Fforwm Creadigol a Diwylliannol ac wedi dechrau archwilio cyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer buddsoddi ar draws y celfyddydau, treftadaeth, chwaraeon a’r diwydiannau creadigol. Gyda’i gilydd, bydd y camau hyn yn helpu i wireddu cyfraniad llawn diwylliant a chwaraeon at gymunedau cryfach, bywydau iachach a thirwedd ddiwylliannol fwy bywiog ledled Cymru.
Mae hyrwyddo bywydau iachach o oedran cynnar yn rhan bwysig arall o’n dull ehangach o atal. Bydd cyflwyno’r rhaglen Milltir Egnïol, ynghyd â datblygu’r rhaglen Nofio Ysgol a’r Strategaeth Atal Boddi, yn helpu i sicrhau bod mwy o blant yn gallu dysgu nofio, datblygu sgiliau diogelwch dŵr a meithrin arferion iachach o oedran cynnar.
Mae paratoi Cymru ar gyfer heriau’r dyfodol hefyd wedi bod yn faes ffocws allweddol. Rydym wedi dechrau gweithio ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur i Gymru fel rhaglen weithredu. Bydd hyn yn cefnogi datblygu cynaliadwy drwy gryfhau gwydnwch hinsawdd a natur, sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol, cefnogi pontio teg a mapio llwybr ymarferol tuag at sero net erbyn 2040 ac adferiad natur sylweddol erbyn 2050. Wrth ddatblygu’r Cynllun, byddwn yn nodi cyfleoedd i weithredu mewn ffordd integredig ar draws y llywodraeth a’r gymdeithas sy’n edrych y tu hwnt i symptomau, yn mynd i’r afael â’r achosion sylfaenol ac yn cydnabod rôl adnoddau naturiol ac ecosystemau Cymru wrth gefnogi cymunedau iachach, lleoedd gwydn, economi gryfach, gwydnwch gwledig, aer glanach, cartrefi cynhesach, sgiliau a swyddi gwyrdd, a lleoedd gwell i fyw ynddynt.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar Brawfesur Gwledig a Chynaliadwyedd Amgylcheddol, sy’n dwyn ynghyd gynigion ar gyfer dyletswydd statudol mewn perthynas â phrawfesur gwledig a mesurau hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol sy’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur. Bydd y cynigion hyn yn helpu i wneud deddfwriaeth yn gliriach ac yn fwy ymarferol, gan gefnogi’r gwaith o gyflawni ym meysydd newid hinsawdd, adfer natur, gwastraff, gorfodi amgylcheddol a defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol. Yn ogystal, rydym wedi amlinellu cylch gorchwyl grŵp llywio i sefydlu fforwm llifogydd pwrpasol i Gymru, elusen annibynnol newydd a fydd yn cefnogi cymunedau yn syth ar ôl llifogydd ac yn helpu i feithrin mwy o wydnwch rhag llifogydd yn y dyfodol.
Mae’r camau hyn yn dangos ein hymrwymiad i adeiladu Cymru sy’n decach, yn gryfach ac yn barod ar gyfer y dyfodol. Maent yn dangos sut mae’r llywodraeth yn gweithredu ledled Cymru i wella bywydau pobl, cryfhau cymunedau a sicrhau newid parhaol.
