Neidio i'r prif gynnwy

Mae corff masnach yn helpu i feithrin y sgiliau sydd eu hangen yn awr ac yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
Paneli solar ar dai yn cael eu codi

Cymdeithas contractwyr trydanol (ECA) yn arwain y diwydiant trydan

ECA yw corff masnach fwyaf y DU sy’n cynrychioli contractwyr gwasanaethau trydanol, electrodechnegol a pheirianneg ledled Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Cafodd ECA ei sefydlu 122 o flynyddoedd yn ôl i fynd i’r afael â thrydaneiddio ar raddfa fawr. Unwaith eto mae ei aelodau ar flaen y gad o ran newid. Wrth i dargedau sero-net sbarduno cynnydd o ran defnyddio trydan, mae galw am arloesi a ffyrdd newydd o weithio.

Yng Nghymru, mae ECA yn cefnogi 215 cwmni sy’n aelod. Busnesau bach a chanolig yw’r rhain yn bennaf.  Mae’n rhoi cyngor ar faterion busnes a thechnegol, yn cynrychioli'r diwydiant i'r llywodraeth ac yn helpu i siapio cymwysterau a hyfforddiant.

Mae ECA hefyd yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am dechnoleg newydd, y rheoliadau a’r arferion gorau gyda’i aelodau. Yn 2022, cafodd 'Leading the Charge' ei lansio, sef cyfres o fideos, podlediadau ac erthyglau a oedd yn taflu goleuni ar y diwydiant wrth iddo addasu i'r ffordd y mae trydaneiddio'n cyflymu.

Eglurodd Andrew Eldred, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Materion Cyhoeddus:

"Mae 'Leading the Charge' yn ffenestr siop i rôl y sector electrodechnegol o ran cyflawni sero-net, oherwydd heb drydanwyr, ni fydd sero-net yn digwydd.  Roedden ni eisiau codi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc, cyflogwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau o faint llawn rôl y sector o ran sero-net ond hefyd o ran y cyfleoedd enfawr sy’n bodoli."

Mae dau gwmni o Gymru’n ymddangos yn 'Leading the Charge', sef RDM ac EFT Consult, sy’n gwneud gwaith arloesol ym Mhrifysgol Abertawe, ynghyd ag academyddion. Mae hyn yn cynnwys gosod cyfuniad o systemau ffotofoltäig enfawr (PV) ar y to a chysgodfa ceir solar sy’n defnyddio paneli solar arloesol, newydd sydd 30% yn fwy effeithlon, ac yn gallu cynhyrchu hyd at 150 cilowat o bŵer ar ei orau.

Mae datblygiad campws Prifysgol Abertawe hefyd yn cynnwys system storio batris 250 cilowat yr awr, yn ogystal â system grid clyfar sy’n cydlynu llif egni rhwng cysgodfa ceir solar a thechnoleg cerbyd i'r grid. Dyma dechnoleg sydd ar flaen y gad, gyda chymwysiadau mawr bob dydd:

"Mae’n golygu y bydd cartrefi yn y dyfodol yn gallu rhoi pŵer i’n ceir, yn ogystal â sicrhau bod trydan yn gweithio ddwy ffordd. Bydd ein ceir yn gallu rhoi pŵer i’n cartrefi hefyd."

Mae’r gallu i rannu'r arferion gorau a meddwl ymlaen yn hanfodol i aelodau ECA yn ôl Andrew:

"Mae 99.8% o gontractwyr trydanol yn fusnesau bach a chanolig. Dydy pob un ddim yn gallu fforddio cael tîm technegol arloesol sy’n gallu rhoi’r newyddion diweddaraf ym maes technoleg iddyn nhw. Ein gwaith ni yw sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd yn y diwydiant."

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn sgil cynnydd mewn ynni solar ffotofoltäig, mannau gwefru ceir trydan a gosod batris, mae’r galw am drydanwyr wedi cynyddu’n aruthrol:

"Fe wnaethom gynnal arolwg ym mis Ebrill 2022, ac fe welsom fod 72% o aelodau ECA eisoes yn gosod un math o dechnoleg sero-net neu fwy. Mae’r cyfleoedd i drydanwyr a chwmnïau sy’n cyflogi trydanwyr yn enfawr oherwydd bod gennym ystod eang iawn o sgiliau. Dydy’r galw am y sgiliau hyn ddim yn debygol o leihau."

Mae’r cymwysterau galwedigaethol a’r fframwaith prentisiaeth newydd sydd bellach ar gael yng Nghymru'n cefnogi’r galw hwn, ac mae ECA a’i aelodau’n eu cefnogi’n gryf.

Eglurodd Jeremy Parkin, cyfarwyddwr Gwasanaethau Trydanol Powerlink a Chadeirydd Rhanbarth De Cymru ECA:

"Mae'r system cymwysterau newydd yng Nghymru’n rhagorol. Mae’r ffordd y mae'r cyrsiau sy’n cael eu cynnal mewn ystafell ddosbarth yn cyd-fynd â gofynion gwybodaeth prentisiaeth yn wych. Mae’r system mae Cymwysterau Cymru wedi ei rhoi ar waith yn effeithiol yn golygu bellach bod nifer o bwyntiau mynediad posibl i’r brentisiaeth. Mae wedi’i chydgysylltu’n dda a bydd yn helpu i ddenu newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant."

Dywedodd llefarydd ar ran Cymwysterau Cymru:

"Mae cyfres newydd o gymwysterau pwrpasol i Gymru mewn adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu ar gael i ddysgwyr mewn addysg bellach ac fel rhan o brentisiaeth. Mae'r cymwysterau newydd cyffrous hyn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau crefft mewn ystod eang o alwedigaethau a chymryd rhan mewn asesiadau symlach. Mae’r cymwysterau wedi’u cynllunio i fod yn hyblyg ac yn hygyrch i ddysgwyr, ac rydym yn falch iawn o gael cefnogaeth ECA i’r system gymwysterau newydd yn y sector hwn a’r llwybrau dilyniant y mae’n eu cynnig. Mae dysgwyr sy’n dilyn y cymwysterau yn datblygu dealltwriaeth o’r technolegau a’r technegau newydd sy’n cael eu defnyddio yn y sector amgylchedd adeiledig i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a lleihau allyriadau carbon."

Dywedodd llefarydd ar ran Cymwysterau Cymru:

"Mae cyfres newydd o gymwysterau pwrpasol i Gymru mewn adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu ar gael i ddysgwyr mewn addysg bellach ac fel rhan o brentisiaeth. Mae'r cymwysterau newydd cyffrous hyn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau crefft mewn ystod eang o alwedigaethau a chymryd rhan mewn asesiadau symlach. Mae’r cymwysterau wedi’u cynllunio i fod yn hyblyg ac yn hygyrch i ddysgwyr, ac rydym yn falch iawn o gael cefnogaeth ECA i’r system gymwysterau newydd yn y sector hwn a’r llwybrau dilyniant y mae’n eu cynnig. Mae dysgwyr sy’n dilyn y cymwysterau yn datblygu dealltwriaeth o’r technolegau a’r technegau newydd sy’n cael eu defnyddio yn y sector amgylchedd adeiledig i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a lleihau allyriadau carbon."

Ar hyn o bryd, mae'r Electrotechnical Skills Partnership (TESP) yn adrodd bod 14,000 o drydanwyr yng Nghymru. Mae ECA yn amcangyfrif bod y sector angen recriwtio 700 y flwyddyn os yw am gadw i fyny â chyflymder sero-net. Yn draddodiadol, cafodd prentisiaethau eu dylunio ar gyfer pobl ifanc. Dyma’r llwybr oedd yn cael ei ffafrio gan y diwydiant, ond mae’n dechrau dod yn opsiwn fwyfwy i’r rhai hynny sydd eisiau newid gyrfa yn nes ymlaen mewn bywyd.

Mae cyfleoedd hefyd i ymgymryd ag addysg amser llawn a chyrsiau rydych yn eu hariannu eich hun. Fodd bynnag, mae’n rhaid cael cyflogaeth neu brofiad gwaith ymestynnol arall er mwyn dod yn drydanwr cwbl gymwys.

Mae cwmnïau trydanol sy’n bodoli eisoes hefyd yn gallu uwchsgilio, a gellir gwneud hynny’n rhad ac am ddim diolch i raglen Cyfrifon Dysgu Personol Llywodraeth Cymru. Mae cymwysterau a chyrsiau hyblyg sy’n cael eu hariannu’n llawn ar gael fel bod pobl yn gallu hyfforddi law yn llaw â’u cyfrifoldebau presennol er mwyn datblygu mewn swydd bresennol neu newid gyrfa’n gyfan gwbl. 

Mae buddsoddiad ychwanegol o £2m gan Lywodraeth Cymru i Gyfrifon Dysgu Personol gwyrdd yn cefnogi Cymru i anelu at sero-net. Mae'r cap cyflogau cymwys wedi cael ei dynnu i’r rhai hynny sy'n uwchsgilio neu’n ailsgilio yn y sectorau adeiladu, peirianneg a gweithgynhyrchu, sy’n golygu bod trydanwyr yn gallu cael mynediad at hyfforddiant i osod technolegau newydd:

"Ond rydyn ni angen gweld cydlynu agosach rhwng darparwyr hyfforddiant a chwmnïau fel bod busnesau’n gallu dylanwadu ar gynnwys yr hyfforddiant ac yn ymwybodol o'r cyfleoedd uwchsgilio sydd ar gael."

Wrth edrych tuag at y dyfodol agos, mae’n credu bod cyfle sylweddol i osod technolegau yn ogystal â’u hintegreiddio:

"Mae incwm wastad wedi bod yn rhan o’r apêl i ddod yn drydanwr. Gall trydanwyr profiadol, cymwys ennill £35,000 y flwyddyn neu fwy yn braf. Ond ar hyn o bryd y cyfle allweddol yw dod yn arbenigwr ar sut mae'r systemau newydd hyn yn integreiddio. Er mwyn sicrhau’r budd mwyaf o sero-net, mae’n rhaid i’r pethau hyn weithio gyda’i gilydd mor effeithlon â phosibl. Dyna lle mae'r arian go iawn yn cael ei wneud."

Mae dod yn weithiwr Integreiddio Systemau yn golygu cael dealltwriaeth o agweddau trydanol y swydd, yn ogystal â’r elfennau plymio, TG a mecaneg hefyd:

"Mae’n cymryd dull cyfannol at y system,” meddai Andrew. “Y dyddiau hyn, mae trydanwyr sydd ar flaen y gad yr un mor debygol o fod yn defnyddio gliniadur â sgriwdreifer. Bydd angen i brentisiaethau ddatblygu er mwyn gallu symud ymlaen i lefel uwch o ddealltwriaeth o integreiddio systemau."

Cyfarwyddwr EFT Consult sy’n aelod o ECA yw Chris Jenkins, ac mae'n credu’n gryf bod angen buddsoddi mewn hyfforddiant:

"Os oes unrhyw gwmni’n ystyried buddsoddi mewn hyfforddiant a thechnoleg, byddwn i’n dweud wrthyn nhw fynd amdani. Dydy sero-net a’r galw am drydaneiddio ddim yn rhywbeth sydd am ddiflannu. Mae'n rhywbeth sydd am dyfu o nerth i nerth. Rydw i’n credu y bydd ymrwymo’n siŵr o dalu ar ei ganfed."