Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn cychwyn trafodaeth genedlaethol heddiw ynglŷn â syniadau am drethi newydd posibl yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n annog pobl a sefydliadau i gynnig syniadau y gellid eu datblygu’n drethi newydd i Gymru.

Mae Deddf Cymru 2014 yn rhoi’r pwerau i Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion ar gyfer datblygu trethi newydd mewn meysydd lle mae’r cyfrifoldeb wedi’i ddatganoli. Byddai’n rhaid i’r cynigion hyn gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol, gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a chan Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.

Mewn dadl yn y Senedd heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn sôn am ei fwriad i brofi’r pwerau newydd yn Neddf Cymru a bydd yn cyfeirio at rai o’r syniadau am drethi sydd wedi’u cynnig yn barod gan Sefydliad Bevan. Mae’r rhain yn cynnwys syniadau ynghylch twristiaeth, deunyddiau pecynnu cludfwyd ac ariannu gofal cymdeithasol.

Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn awgrymu hefyd y gellid defnyddio trethi i newid ymddygiad neu i geisio lleihau gweithgareddau sy’n effeithio’n negyddol ar gymdeithas. 

Caiff y ddadl hon ei chynnal ar ôl i ddau Fil trethi gael eu pasio gan y Cynulliad Cenedlaethol - biliau sy’n paratoi’r ffordd at gyflwyno dwy dreth ddatganoledig ym mis Ebrill 2018 - sef y dreth trafodiadau tir sy’n disodli’r dreth stamp, a’r dreth gwarediadau tirlenwi sy’n disodli’r dreth dirlenwi.

Bydd yr Athro Drakeford yn dweud: 

“Ymhen naw mis, bydd Llywodraeth Cymru yn codi ei threthi ei hunan, a hynny am y tro cyntaf ers bron 800 mlynedd yng Nghymru. Mae hyn yn nodi perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol, trethdalwyr Cymru a gwasanaethau cyhoeddus datganoledig.

“Mae’r pŵer i gynnig trethi newydd yn ddull pwysig y gallwn ei ddefnyddio i newid ymddygiad ac i sicrhau gwelliannau i’n cymunedau. Dyna pam rwy’n awyddus i gychwyn trafodaeth go iawn ynglŷn â sut rydyn ni am ddefnyddio’r pwerau hyn i gefnogi ein hymrwymiad i degwch, llesiant a thwf.

“Mae nifer o syniadau wedi’u cyflwyno’n barod yn adroddiad Sefydliad Bevan, Tax for Good. Cafwyd cynigion eraill hefyd ynglŷn â threthi newydd i gefnogi syniadau Cymreig, er enghraifft trethi i ariannu gofal cymdeithasol.

“Dewis arall fyddai inni ddefnyddio’r pwerau hyn i newid ymddygiad neu i leihau arferion negyddol, er enghraifft mynd i’r afael â bancio tir trwy godi ardoll ar dir nad yw’n cael ei ddefnyddio. Mae trethi newydd yn rhoi’r cyfle hefyd inni adeiladu ar gryfderau Cymru – er enghraifft gallem ystyried trethi sy’n ceisio cynyddu lefelau ailgylchu, neu dreth dwristiaeth efallai.

“Rwy’n awyddus i ystyried pob syniad ac rwyf am gychwyn trafodaeth ynglŷn â threthi newydd – a hynny gyda phob plaid wleidyddol, gyda’r cyhoedd a chyda busnesau a sefydliadau ledled Cymru. Rwy’n annog pawb i gymryd rhan ac i rannu eu syniadau gyda ni er mwyn ein helpu i lunio trethi Cymru yn y dyfodol.”

Bydd rhestr o fer o syniadau ar gyfer trethi newydd i Gymru yn cael ei hystyried yn yr hydref.

I gymryd rhan, ebostiwch FinancialReformMailbox@wales.gsi.gov.uk.