Neidio i'r prif gynnwy

Cadw’r newidiadau adeiladol a ddaeth yn sgil pandemig y coronafeirws yw byrdwn canolog polisi cynllunio newydd Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gwella’r gwasanaethau digidol yn yr ardaloedd lle mae’r ddarpariaeth yn wael ar hyn o bryd er mwyn i bawb yng Nghymru allu cadw mewn cysylltiad a gwneud yn siŵr bod cymunedau sydd wedi’u dylunio’n dda yn elwa ar fanteision gweithio gartref, sy’n cynnwys llai o draffig ac aer glanach, yn greiddiol i Adeiladu Lleoedd Gwell – Y System Gynllunio yn Sicrhau Dyfodol Cydnerth a Mwy Disglair. 

Mae’r rheini ymhlith yr wyth mater a godwyd yn ystod y pandemig y mae’r ddogfen hon yn ymdrin â nhw, gan gynnwys hefyd:

  • creu gymunedau cynaliadwy, cymysg eu defnydd, gyda chymysgedd o dai (gan gynnwys tai cymdeithasol) a gwasanaethau;
  • manteisio ar gyfleoedd teithio llesol;
  • adfywio canol ein trefi trwy greu adeiladau hyblyg yno a gwneud y gorau o gyfleoedd mannau agored;
  • ailddeffro’r sector twristiaeth a rhoi arweiniad ar addasu i’r gofyn i gadw pellter cymdeithasol;
  • sicrhau mynediad i fannau gwyrdd a chyfleoedd i gysylltu â’r amgylchedd naturiol a hanesyddol; a
  • gwella ansawdd aer a seinweddau er budd ein hiechyd a’n lles.

Dywedodd Julie James:

Mae pandemig Covid-19 a’n hymateb ar y cyd i’r materion sy’n codi yn ei sgil yn un o’r heriau mwyaf cymhleth mewn cenhedlaeth. Bu’n rhaid inni oll wneud pethau’n wahanol – boed gweithio gartref, derbyn gwersi ysgol ar-lein neu gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu ar-lein.

Wrth inni ddod allan o’r argyfwng hwn, rhaid cadw elfennau gorau’r newidiadau sydd wedi digwydd o’n hamgylch.  Yn y cyfnod adfer hwn, rhaid inni barhau i geisio am ansawdd yn ein hamgylchedd adeiledig.  Rhaid inni ochel rhag gadael i’n safonau gwympo na mynd am enillion economaidd tymor byr ar draul amcanion llesiant tymor hir.

Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth inni ailosod y cloc a meddwl eto am y lleoedd rydym am fyw, gweithio a chwarae ynddynt. Mae angen inni ailadeiladu cymdeithas sy’n parchu’n hamgylchedd ond sy’n rhoi lleoedd da i bobl fyw ynddynt sy’n hygyrch ar droed, ar gefn beic ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r ddogfen hon yn disgrifio’n gweledigaeth ar gyfer cyflawni hyn ac yn tynnu sylw at y blaenoriaethau polisi mwyaf perthnasol a’r camau gweithredu a fydd yn helpu’r adferiad. Ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd gyda’r diwydiant datblygu, awdurdodau cynllunio lleol, cyrff cyhoeddus a’r trydydd sector i afael yn y cyfle hwn i ddarparu datblygiadau o ansawdd uchel yn y man cywir.

Mae gennym oll ein rhan i’w chwarae i sicrhau bod cymunedau yfory’n elwa ar brofiadau heddiw.