Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths yn annog ffermwyr ledled Cymru i fanteisio ar gyllid gan Lywodraeth Cymru i wella perfformiad economaidd ac amgylcheddol daliadau amaethyddol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Grant Busnes i Ffermydd (FBG) yn helpu ffermwyr sicrhau bod eu busnesau yn fwy effeithiol, cadarn ac ecogyfeillgar trwy roi cyfraniad tuag at fuddsoddiadau cyfalaf ar gyfer offer a pheiriannau.  

Mae’r drydedd ffenestr ymgeisio ar gyfer yr FBG ar agor ar 29 Ionawr, a bydd yn parhau ar agor tan ganol nos ar 16 Mawrth.  Mae’n adeiladu ar lwyddiant y ddwy ffenestr gyntaf, sydd wedi gweld dros 850 o geisidau, yn gofyn am gyfanswm o £5.7 o gymorth grant.  

Bydd y broses o weinyddu’r FBG yn cael ei drosglwyddo i Daliadau Gwledig Cymru ar gyfer y drydedd ffenestr, a’r ffenestri wedi hynny.  Bydd ceisiadau a hawliadau am yr FBG yn cael eu cyflwyno bellach drwy RPW Ar-lein.  

Mae’r drydedd ffenestr yn rhoi hyblygrwydd newydd i’r grant, gan ganiatâu i ffermwyr gyflwyno mwy nag un cais o fewn blwyddyn cynllun, o fewn terfyn grant o £3,000 i £12,000.  Mae hefyd newidiadau bychain i rai o’r eitemau cymwys – mae rhestr lawn wedi’i diweddaru o’r eitemau ar gael ar dudalen Grant Busnes i Ffermydd ar wefan Llywodraeth Cymru.  

Bydd yn rhaid i ffermwyr fynd i un o ddigwyddiadau Ffermio i’r Dyfodol, fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru rhwng 17 Ionawr a’r 1 Chwefror.  Ni fydd ffermwyr sydd eisoes wedi bod i un o’r digwyddiadau hyn yn gorfod mynd eto, os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny.  

Mae’r FBG yn elfen bwysig o  Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, ac yn ymrwymiad allweddol yn y Rhaglen Lywodraethu: Symud Cymru Ymlaen.  

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:  

“Mae ein Grant Busnes i Ffermydd yn rhoi cyllid hollbwysig i helpu ffermwyr fuddsoddi yn eu busnesau a gwella perfformiad economaidd ac amgylcheddol eu daliadau.  Mae’r cyllid hwn yn bwysicach nac erioed wrth inni baratoi am ddyfodol ansicr wrth ymadael â’r UE.  

Rydym wedi gallu gwneud rhai newidiadau i’r drydedd ffenestr, i wella’r ffordd y bydd y grant yn gweithio, ac i roi hyblygrwydd iddo, drwy wrando ar adborth am y grant.  Dwi’n annog ffermwyr ledled Cymru i fynd i sioe deithiol ‘Ffermio i’r Dyfodol’ a dod i wybod mwy am yr amrywiaeth eang o gyngor a chefnogaeth sydd ar gael iddynt.”  

Am wybodaeth ar ddyddiadau a lleoliadau y sioeau teithiol, ac i gadw lle, ewch i Cyswllt Ffermio neu ffoniwch Ganolfan Wasanaethau Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.