Neidio i'r prif gynnwy

Diben

Mae Cyflenwad a Eithrir rhag Trwydded yn caniatáu i gynhyrchwyr ynni a defnyddwyr fasnachu trydan heb drwydded gyflenwi lawn, sy'n cynnig ffordd ymarferol o leihau costau, cefnogi gwaith cynhyrchu adnewyddadwy lleol, a gwella gwydnwch ynni dan eithriadau rheoleiddiol clir.

Bwriad y canllaw hwn yw darparu gwybodaeth ymarferol a hygyrch am yr ystyriaethau rheoleiddiol, masnachol a thechnegol allweddol sy'n gysylltiedig â sefydlu trefniant LES. Mae'n rhoi'r penawdau hanfodol i'ch helpu i nodi cyfleoedd hyfyw a chymryd y camau cyntaf tuag at eu rhoi ar waith. Mae'r canllaw'n egluro modelau profedig, yn tynnu sylw at y buddion strategol ac ariannol, ac yn nodi'r risgiau a'r cyfyngiadau posibl. Mae sefydlu cynllun cydymffurfiol yn golygu gweithio trwy reoliadau cymhleth y farchnad drydan, sydd fel arfer yn gofyn am wybodaeth a chymorth arbenigol.

P'un ai gostwng eich costau trydan, gwella gwydnwch ynni, neu wneud defnydd gwell o ynni glân lleol yw eich nod, mae'r canllaw hwn wedi'i gynllunio fel man cychwyn ymarferol. 

I gael rhagor o gyngor, cymorth ymarferol, neu help i wireddu eich syniadau, cysylltwch ag Ynni Cymru.

Crynodeb

Trosolwg

Mae Cyflenwad a Eithrir rhag Trwydded yn caniatáu i gynhyrchwyr a defnyddwyr fasnachu trydan heb drwydded cyflenwi trydan lawn. Mae hyn yn bosibl dan eithriadau cyfreithiol penodol, sy'n ein gwneud yn bosibl osgoi rhai ardollau cyflenwi a thaliadau ar gyfer y rhwydwaith. Pan gaiff ei strwythuro'n gywir, gall hyn leihau costau i ddefnyddwyr, cynyddu'r refeniw i gynhyrchwyr, a chefnogi prosiectau ynni lleol a chymunedol.

Y fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol ac ystyriaethau

O dan Ddeddf Trydan 1984, mae cyflenwi trydan dros y grid cyhoeddus fel arfer yn gofyn am drwydded i reoli biliau, taliadau ar gyfer y rhwydwaith a chydymffurfedd rheoleiddiol. Mae LES yn gweithredu dan eithriadau dosbarth a bennir yn Neddf Trydan a Gorchymyn Trydan 2001. Y rhai a ddefnyddir amlaf yw Dosbarth A (cyflenwyr bach) a Dosbarth C (cyflenwad ar y safle trwy wifrenni preifat). Mae newidiadau diweddar i'r Cod Cydbwyso a Setlo (BSC) yn darparu eglurder ychwanegol. Mae Addasiad P441 y Cod Cydbwyso a Setlo (sy'n aros am gymeradwyaeth) yn diffinio “Safleoedd Cymhleth”, lle mae sawl mesurydd yn rhannu'r un cysylltiad grid. Mae Addasiad P442 y Cod, sy'n weithredol ers mis Ebrill 2025, yn cyflwyno'r Asiant Hysbysu am Gyflenwad Eithriedig (ESNA) i sicrhau bod trydan eithriedig yn cael ei gofnodi'n gywir. Nid oes yna broses gymeradwyo ffurfiol ar gyfer LES – mae cydymffurfedd yn seiliedig ar hunanasesiad, felly argymhellir yn gryf y dylid sicrhau cyngor cyfreithiol a masnachol arbenigol.

Modelau

  • PPA a Eithrir rhag Trwydded: y model mwyaf cyffredin. Mae cynhyrchydd yn gwerthu ynni'n uniongyrchol i ddefnyddiwr dan Gytundeb Prynu Ynni (PPA), a hynny'n aml gan ddefnyddio eithriadau Dosbarth A a'r grid cyhoeddus. 
  • Cynlluniau Tariffau Lleol: mae'r rhain yn defnyddio eithriadau "Safle Cymhleth" i gydbwyso cynhyrchu lleol â nifer o ddefnyddwyr sydd wedi'u cysylltu yn yr un pwynt grid, a hynny'n aml trwy dariff lleol gostyngol.
  • Masnachu Cymheiriaid i Gymheiriaid (P2P): mae llwyfannau ar-lein yn cyfateb cynhyrchwyr a defnyddwyr, a'r rheiny fel arfer yn ddefnyddwyr masnachol neu ddefnyddwyr annomestig mwy â mesuryddion bob hanner awr

Galluogwyr allweddol

  • Terfynau rheoleiddiol: o dan Ddosbarth A, gall cynhyrchydd gyflenwi hyd at 5 MW ar unrhyw adeg, sy'n cynnwys dim mwy na 2.5 MW i ddefnyddwyr domestig, gyda'r cyflenwad hwnnw'n cael ei fesur bob awr neu bob hanner awr.
  • Trothwy cynhyrchu: rhaid i asedau fod dan 50 MW i osgoi trwydded cynhyrchu.
  • Seilwaith: yn angenrheidiol y mae cysylltiadau grid neu wifrenni preifat dibynadwy, ynghyd â mesuryddion priodol.
  • Partneriaethau: mae cyflenwr trwyddedig, neu gyfryngwr, fel arfer yn ofynnol i ddelio â chofrestru mesuryddion, a'r gwaith bilio a chydbwyso.
  • Dylunio masnachol: mae PPAs eglur a chyfatebiaeth ofalus rhwng yr hyn a gynhyrchir a galw defnyddwyr yn hanfodol ar gyfer cydymffurfedd a hyfywedd ariannol.

Buddion

  • Arbed costau: gall defnyddwyr elwa o brisiau trydan is lle bo ardollau cyflenwi a rhai taliadau rhwydwaith yn cael eu hosgoi. 
  • Cynnydd mewn refeniw: mae cynhyrchwyr yn aml yn cael prisiau uwch na thrwy werthu i'r farchnad gyfanwerthu.
  • Gwydnwch ac effeithlonrwydd: gall defnyddio trydan yn agosach at y man lle caiff ei gynhyrchu leihau colledion dosbarthu a chefnogi gwydnwch ynni lleol.
  • Gwerth cymunedol: gall LES gadw'r gwerth ariannol yn yr ardal leol a chefnogi twf ynni adnewyddadwy.

Costau, cyfyngiadau a risgiau

  • Risgiau ariannol: Mae costau uchel ymlaen llaw yn aml yn angenrheidiol ar gyfer cyngor cyfreithiol a masnachol. Gall arbedion hefyd amrywio yn seiliedig ar amodau'r farchnad.
  • Risgiau rheoleiddiol: Mae LES yn dibynnu ar hunanasesiadau ac mae'n sensitif i newidiadau mewn polisi neu reolau'r diwydiant.
  • Risgiau gweithredol: Mae gwaith gweinyddu parhaus a manwl gywir yn hanfodol er mwyn osgoi gwallau bilio neu gydymffurfio.
  • Galw cyfatebol: Os na chaiff yr hyn a gynhyrchir a'r defnydd ohono eu cydbwyso'n ofalus, mae'n bosibl na fydd yr arbedion disgwyliedig yn cael eu gwireddu, neu y gall y refeniw dros ben gael ei golli.

Astudiaeth achos: Clwb Ynni Lleol Bethesda (Gwynedd)

Ers 2016, mae tua 150 o gartrefi a busnesau wedi cael eu cysylltu â thyrbin dŵr 200 kW trwy gynllun tariff lleol, a hynny gan ddefnyddio'r eithriad Safle Cymhleth. Dan reolaeth leol y Clwb Ynni Lleol, ac mewn partneriaeth ag Octopus Energy, mae aelodau'n defnyddio mesuryddion clyfar i gyrchu tariff lleol gostyngol pan fo'r tyrbin yn cynhyrchu. Mae'r model hwn wedi cyflawni arbedion amcangyfrifedig cyfartalog o tua 20% i'r defnyddwyr, a chynnydd cyfartalog o tua 25% yn refeniw'r cynhyrchydd, gan gadw'r gwerth ariannol o fewn y gymuned leol.

1. Trosolwg

Yn y DU, mae trydan fel arfer yn cael ei gyflenwi trwy gyflenwyr trwyddedig. Mae cynhyrchydd yn gwerthu trydan i gyflenwr trwyddedig, sydd wedyn yn ei werthu i'r defnyddiwr. Mae'r broses hon yn ofynnol dan Ddeddf Trydan 1984, sy'n nodi bod yn rhaid i unrhyw un sy'n cyflenwi trydan dros y grid cyhoeddus ddal trwydded gyflenwi ddilys. Mae cyflenwyr trwyddedig yn cyflawni rolau allweddol, megis gweithredu fel cyfryngwyr rhwng marchnadoedd cyfanwerthu a defnyddwyr, cofrestru mesuryddion, delio â biliau, sicrhau cydymffurfedd rheoleiddiol, a thalu taliadau ac ardollau'r rhwydwaith.

Mae Cyflenwad a Eithrir rhag Trwydded (LES) yn cynnig dewis arall. O dan eithriadau yn Adran 4 o Ddeddf Trydan 1984, gellir cyflenwi trydan heb drwydded gyflenwi gyflawn. Gall hyn fod yn fuddiol iawn gan fod llawer o daliadau gorfodol yn gysylltiedig â'r drwydded. Trwy weithredu dan eithriad, gall cynhyrchwyr osgoi costau megis y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy, Contractau ar gyfer Gwahaniaeth (CfD), y Tariff Cyflenwi Trydan (FiT), taliadau'r Farchnad Capasiti, a'r Ardoll Newid Hinsawdd (CCL). Gall LES hefyd leihau neu osgoi taliadau sy'n gysylltiedig â'r rhwydwaith, megis Defnydd y Rhwydwaith Trawsyrru o'r System (TNUoS), Defnydd Dosbarthu o'r System (DUoS), a Defnydd Gwasanaethau Cydbwyso o'r System (BSUoS).

Mae'r Ddeddf Trydan yn nodi eithriadau penodol. Y ddau fwyaf perthnasol ar gyfer cynlluniau lleol yw:

  • Dosbarth A (Cyflenwyr Bach): Ar gyfer cynhyrchwyr nad ydynt yn cyflenwi mwy na 5 MW ar unrhyw adeg, gyda dim mwy na 2.5 MW ohono'n cael ei gyflenwi i ddefnyddwyr domestig. Yn ymarferol, mae cyflenwyr trwyddedig, wrth asesu cydymffurfedd, yn cymhwyso'r terfyn hwn ar sail bob hanner awr neu bob awr.
  • Dosbarth C (Cyflenwad ar y Safle): Ar gyfer cynhyrchwyr sy'n cyflenwi trydan i ddefnyddwyr annomestig trwy gysylltiad gwifren breifat nad yw'n defnyddio'r rhwydwaith cyhoeddus. Rhaid i'r trydan gael ei gynhyrchu gan y cyflenwr neu ei gyfuno â thrydan gan gyflenwr trwyddedig.

Lle bo cynhyrchydd yn defnyddio mwy nag un eithriad rhag trwydded, megis Dosbarth C ar gyfer cyflenwad y tu ôl i'r mesurydd, neu gyflenwad gwifren breifat a Dosbarth A ar gyfer cyflenwad grid, mae'r terfyn 5 MW yn berthnasol ar draws y ddau wedi'u cyfuno. Rhaid didynnu unrhyw drydan a gyflenwir dan Ddosbarth C o'r swm y gellir ei gyflenwi dan Ddosbarth A.

Os yw cynhyrchydd yn gymwys ar gyfer eithriad, gall yr arbedion fod yn sylweddol. Bydd y buddion hyn fel arfer yn cael eu rhannu rhwng y cynhyrchydd a'r defnyddiwr trwy Gytundeb Prynu Ynni (PPA) uniongyrchol. Mae'r cynhyrchydd yn ennill mwy nag y byddai o werthu i'r farchnad gyfanwerthu, ac mae'r defnyddiwr yn talu llai o gymharu â'r prisiau manwerthu safonol. Hyd yn oed yn achos gwerthiant uniongyrchol, mae'n aml yn ofynnol cael cyflenwr neu gyfryngwr trwyddedig o hyd ar gyfer tasgau hanfodol megis cofrestru mesuryddion, gwahanu trydan a gyflenwir gan LES oddi wrth gyflenwad trwyddedig, a rheoli'r gwaith bilio a chydbwyso.

Mae newidiadau diweddar i'r Cod Cydbwyso a Setlo (P441 a P442) yn darparu trefniadaeth dechnegol ac eglurder ychwanegol ar gyfer cynlluniau LES. Mae'r diweddariadau hyn yn symleiddio cydymffurfedd ac yn gwella hyder yn y buddion ariannol.

2. Y fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol

2.1 Cefndir

Sefydlwyd y sylfaen ar gyfer LES gan Ddeddf Trydan 1984, a ddechreuodd ryddfrydoli marchnad drydan y DU. Cyflwynodd y Ddeddf amodau a chategorïau penodol ar gyfer gweithredu heb drwydded gyflenwi lawn, a elwir yn eithriadau dosbarth, a manylir arnynt ymhellach yng Ngorchymyn Trydan 2001.

Cynlluniwyd yr eithriadau hyn i annog arloesedd a gwneud cydymffurfedd yn symlach ar gyfer gweithrediadau trydan graddfa fach, lleol, a bach eu heffaith. Y nod oedd caniatáu i gynlluniau cynhyrchu lleol a chymunedol (megis rhwydweithiau gwifrenni preifat) weithredu heb gymhlethdod a chost trwydded lawn, a chefnogi twf ynni adnewyddadwy ar yr un pryd.

Wrth i dechnolegau a modelau busnes esblygu, daeth yr angen am reolau cliriach yn bwysicach er mwyn sicrhau bod y fframwaith LES yn parhau i fod yn ymarferol ac yn darparu sicrwydd i'r rhai a oedd yn rhan o'r cynlluniau. I fynd i'r afael â hyn, lansiodd Llywodraeth y DU Alwad am Dystiolaeth yn 2020. Roedd rhanddeiliaid o blaid cadw'r eithriadau ond yn gofyn am ddiffiniadau mwy eglur, rheolau safonol, a diogelwch yn achos buddsoddiadau cyfredol. Mae'r adborth hwn wedi llywio diweddariadau diweddar i wella eglurder a gwneud LES yn haws ei weithredu.

2.2 Diweddariadau i'r cod cydbwyso a setlo sy'n cefnogi LES

Mae diweddariadau diweddar i'r Cod Cydbwyso a Setlo wedi gwneud pethau'n haws i gynlluniau cyflenwi a eithrir rhag trwydded weithredu. Mae'r BSC yn gosod y rheolau ar gyfer y modd y mae trydan yn cael ei fesur ac y telir amdano yn y DU. Mae dau addasiad allweddol yn arbennig o berthnasol:

  • Addasiad P441 y Cod Cydbwyso a Setlo (Eithriad Safle Cymhleth): Adeg ysgrifennu hwn (mis Ionawr 2026), mae P441 yn dal i aros am gymeradwyaeth Ofgem. Mae'n cynnig gwneud pethau'n haws i gynlluniau ynni lleol weithredu'n deg ac yn effeithlon trwy osod rheolau clir. Mae P441 yn diffinio'r hyn a ystyrir yn "Safle Cymhleth," sy'n aml yn nodweddu trefniadau LES lle mae pawb yn rhannu un pwynt grid cyffredin ar gyfer mynediad. Mae'n egluro pryd y gellir cydbwyso (neu "netio") mewnforion ac allforion trydan ar draws mesuryddion gwahanol, gan helpu i sicrhau gwaith bilio cywir ac atal costau diangen. Trwy ychwanegu'r rheolau hyn at y cod marchnad swyddogol, mae P441 yn dileu ansicrwydd ac yn darparu fframwaith cyson ar gyfer mesur a setlo llifau trydan. Gall y newidiadau hyn ddatgloi arbedion trwy leihau neu osgoi ardollau a thaliadau rhwydwaith penodol, gan felly wneud prosiectau ynni lleol yn fwy hyfyw heb fod iddynt drefniadau cymhleth wedi'u teilwra'n bwrpasol.
  • Addasiad P442 y Cod Cydbwyso a Setlo (Asiant Hysbysu am Gyflenwad Eithriedig – ESNA): Wedi'i gymeradwyo gan Ofgem ac yn weithredol ers mis Ebrill 2025, mae'r diweddariad hwn yn creu rôl newydd, a elwir yr Asiant Hysbysu am Gyflenwad Eithriedig (ESNA), a hynny i sicrhau bod trydan a gyflenwir dan eithriadau rhag trwydded yn cael ei gofnodi'n gywir. Gwaith yr ESNA yw gwahanu trydan eithriedig oddi wrth drydan trwyddedig safonol ac adrodd am hyn i system swyddogol y farchnad drydan ar gyfer tracio a bilio. Mae hyn yn atal camgymeriadau bilio, yn gofalu bod y taliadau a'r eithriadau cywir yn cael eu rhoi ar waith, ac yn sicrhau modd eglur a theg i brosiectau sy'n defnyddio eithriadau rhag trwydded ffitio i mewn i'r farchnad drydan. Trwy wella cywirdeb a thryloywder, mae P442 yn helpu cynlluniau ynni lleol a bach i elwa o reolau cyfredol heb gymhlethdod diangen.

Gyda'i gilydd, mae'r diweddariadau diweddar hyn i god y diwydiant yn rhoi mwy o eglurder a sefydlogrwydd i fodelau cyflenwi a eithrir rhag trwydded. Maent yn symleiddio'r modd y mae cynlluniau ynni lleol yn cael eu mesur a'u bilio, yn lleihau ansicrwydd, ac yn ei gwneud yn haws cyrchu buddion ariannol, megis arbedion ar ardollau a thaliadau rhwydwaith.

3. Modelau ac amrywiadau yn achos LES

Nid un dull sefydlog mo Cyflenwad a Eithrir rhag Trwydded (LES). Yn hytrach, gellir ei gyflenwi trwy ystod o fodelau masnachol sy'n dibynnu ar eithriadau rhag trwydded penodol, megis Dosbarth A a Dosbarth C dan y Ddeddf Trydan, a threfniadau Safleoedd Cymhleth dan y Cod Cydbwyso a Setlo. Mae'r modelau hyn yn creu buddion ariannol trwy osgoi ardollau a thaliadau cyflenwi trydan penodol mewn modd cyfreithlon.

Mae rhai modelau'n cyfuno eithriadau gwahanol, er enghraifft cyflenwad ar y safle neu gyflenwad gwifren breifat ochr yn ochr â chyflenwad a eithrir rhag trwydded sy'n seiliedig ar y grid. Yn yr achosion hyn, rhaid ystyried y terfynau cyflenwi perthnasol gyda'i gilydd. Bydd y model mwyaf addas yn dibynnu ar ffactorau megis maint yr ased cynhyrchu, amcanion y prosiect, a nodweddion y safle. Mae'r adrannau isod yn amlinellu modelau LES sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd.

Model 1: PPA a eithrir rhag trwydded

Trosolwg

Dyma un o'r modelau LES mwyaf cyffredin. Mae fel arfer yn gweithredu dan eithriad Dosbarth A, sy'n berthnasol i gyflenwyr bach. Mae'r cynhyrchydd yn gwerthu trydan yn uniongyrchol i ddefnyddiwr dan Gytundeb Prynu Ynni (PPA), a hynny'n aml gan ddefnyddio'r grid cyhoeddus i'w gyflenwi.

Image
Diagram sy'n dangos sut mae Cytundeb Prynu Ynni wedi'i Eithrio gan Drwydded rhwng cynhyrchu ynni adnewyddadwy a'r defnyddiwr sy'n defnyddio'r grid i'w gyflenwi.

Gofynion

  • Rhaid i'r cynllun fod yn gymwys ar gyfer eithriad Dosbarth A: ni ddylai'r cyflenwad fod yn fwy na 5 MW ar unrhyw adeg, ni ddylai mwy na 2.5 MW ohono gael ei gyflenwi i ddefnyddwyr domestig, a dylid rhoi ystyriaeth i unrhyw gyflenwad arall a eithrir rhag trwydded a ddefnyddir gan y cynhyrchydd.
  • Mae cysylltiadau grid yn ofynnol ar y cynhyrchydd a'r defnyddiwr.
  • Mae mesuryddion manwl gywir yn hanfodol i wahanu trydan a gyflenwir gan LES oddi wrth gyflenwad trwyddedig.

Trefniadaeth

Gall y trydan gael ei gyflenwi trwy'r grid yn hytrach na thrwy wifren breifat, felly nid oes angen i'r cynhyrchydd a'r defnyddiwr fod ar yr un safle. Mae hyn yn gwneud y model yn hyblyg ond yn golygu bod iddo lai o ffocws ar y cyflenwad lleol.

Contract a gweinyddu

Mae PPA yn nodi'r telerau gwerthu, sy'n cynnwys y prisiau a hyd y contract (chwe mis neu fwy yn nodweddiadol). Gall y prisiau fod yn sefydlog, yn gysylltiedig â chyfraddau cyfanwerthu, neu wedi'u haddasu ar sail ardollau a osgoir. Gall y cynhyrchydd a'r defnyddiwr drafod telerau penodol y PPA. Mae cymorth cyfreithiol yn aml yn angenrheidiol i sicrhau bod y cytundeb yn gydymffurfiol ac yn gadarn. Fel arfer, cyflenwr neu gyfryngwr trwyddedig sy'n delio â'r broses o gofrestru mesuryddion, a'r gwaith bilio a setlo.

Buddion 

  • Mae'r cynhyrchydd yn ennill mwy nag y byddai o werthu i'r farchnad gyfanwerthu.
  • Mae'r defnyddiwr yn talu llai na'r prisiau manwerthu safonol.
  • Mae'n gymharol syml i'w osod o gymharu â modelau LES eraill.

Cyfyngiadau a risgiau

  • Mae angen cyflenwr trwyddedig o hyd ar gyfer y gwaith gweinyddu.
  • Mae'n ddibynnol ar fesuryddion cywir a chydymffurfedd â rheolau eithrio.
  • Mae'r budd ariannol yn dibynnu ar amodau'r farchnad a'r taliadau a osgoir.
  • Gallai newidiadau yn y dyfodol i'r rheolau eithrio neu daliadau'r farchnad leihau arbedion neu ychwanegu cymhlethdod.

Model 2: cynlluniau tariffau lleol

Trosolwg

Nod cynlluniau tariffau lleol yw gwneud y defnydd mwyaf o drydan a gynhyrchir yn lleol mewn cymuned. Maent yn aml yn defnyddio'r eithriad Safle Cymhleth dan y Cod Cydbwyso a Setlo, sy'n caniatáu i fewnforion ac allforion trydan gael eu cydbwyso ar draws mesuryddion yn yr un pwynt grid. Mae'r model hwn yn rhoi mynediad i ddefnyddwyr at drydan lleol rhatach pan fo ar gael.

Image
Diagram sy'n dangos Cynlluniau Tariffau Lleol rhwng cynhyrchu ynni adnewyddadwy a'r defnyddiwr sy'n defnyddio'r grid i'w gyflenwi.

Gofynion

  • Cynhyrchydd a grŵp o ddefnyddwyr sydd wedi'u cysylltu â'r un pwynt grid neu brif is-orsaf.
  • Rhaid i bob defnyddiwr feddu ar fesurydd clyfar.
  • Yr un cyflenwr trydan trwyddedig sydd fel arfer yn cyflenwi'r trydan i'r defnyddwyr. 
  • Cydymffurfedd â rheolau perthnasol y Cod Cydbwyso a Setlo, megis y rhai a gyflwynwyd dan addasiad P441.

Trefniadaeth

Caiff trydan a gynhyrchir yn lleol ei gyfeirio trwy'r cyflenwr trwyddedig i'r grŵp defnyddwyr. Mae gan gwsmeriaid ddau dariff fel arfer:

  • Tariff lleol sy'n gysylltiedig ag allbwn y cynhyrchydd, ac sydd fel arfer yn rhatach.
  • Tariff safonol am unrhyw drydan ychwanegol a dynnir o'r grid.

Mae hyn yn annog defnyddwyr i ddefnyddio'r trydan lleol pan fo ar gael, gan leihau dibyniaeth ar y grid ehangach.

Contract a gweinyddu

Mae'r cyflenwr trwyddedig yn chwarae rhan allweddol yn y broses o reoli'r trefniant, sy'n cynnwys cofrestru'r mesurydd, a'r gwaith bilio a setlo. Mae'r cynhyrchydd a'r defnyddwyr yn cytuno ar strwythur y tariff lleol, a hynny'n aml gyda chyfryngwr megis Ynni Lleol yn darparu cymorth.

Buddion 

  • Mae'r defnyddwyr yn talu llai am drydan yn ystod y cyfnodau cynhyrchu lleol.
  • Mae'r cynhyrchwyr yn cael pris gwell nag y byddent o werthu i'r farchnad gyfanwerthu.
  • Mae'r cynlluniau'n cefnogi gwydnwch ynni lleol ac yn lleihau straen ar y grid.
  • Maent yn cadw mwy o'r gwerth economaidd yn y gymuned gan fod yr arbedion a'r incwm yn aros yn lleol.
  • Gallant ddarparu buddion ehangach i'r system, megis colledion dosbarthu is a gwell hyblygrwydd.

Cyfyngiadau a risgiau

  • Rhaid i bob cyfranogwr feddu ar fesurydd clyfar a defnyddio'r un cyflenwr trwyddedig.
  • Maent yn gynlluniau mwy cymhleth i'w sefydlu a'u gweinyddu na modelau LES symlach.
  • Mae'r buddion ariannol yn dibynnu ar y patrymau cynhyrchu ac ymddygiad y defnyddwyr.
  • Gallai newidiadau rheoleiddio effeithio ar hyfywedd y model.

Model 3: masnachu cymheiriaid i gymheiriaid (P2P)

Trosolwg

Mae masnachu cymheiriaid i gymheiriaid (P2P) yn caniatáu i gynhyrchwyr a defnyddwyr brynu a gwerthu trydan yn uniongyrchol trwy lwyfan ar-lein. Mae'r llwyfannau hyn yn cyfateb y trydan a gynhyrchir i'r galw ac yn delio â llawer o'r gwaith gweinyddu, gan wneud pethau'n haws i gynhyrchwyr a defnyddwyr llai gymryd rhan mewn prosesau masnachu ynni lleol. Yn gyffredinol, defnyddir y model hwn gan ddefnyddwyr masnachol yn hytrach na chwsmeriaid domestig.

Image
Diagram sy'n dangos Cynlluniau Tariffau Lleol rhwng cynhyrchu ynni adnewyddadwy a'r defnyddiwr sy'n defnyddio'r grid i'w gyflenwi.

Gofynion

  • Rhaid i bob safle sy'n cymryd rhan fod â mesurydd bob hanner awr a dulliau cyfathrebu o bell.
  • Rhaid cael llwyfan neu ddarparwr gwasanaethau P2P trwyddedig i reoli'r trefniadau masnachu a chydymffurfio.
  • Mae cysylltiadau grid yn ofynnol ar gyfer y cynhyrchwyr a'r defnyddwyr fel ei gilydd.

Trefniadaeth

Cyflenwir y trydan trwy'r grid cyhoeddus yn hytrach na thrwy wifren breifat. Mae'r llwyfan yn cyfateb y trydan a gynhyrchir i'r defnydd, a hynny naill ai'n awtomatig neu drwy borth cwsmeriaid. Pan fo'r broses gynhyrchu a'r defnydd o'r trydan yn digwydd o fewn yr un brif is-orsaf, gellir lleihau neu osgoi ardollau a thaliadau rhwydwaith penodol. I sicrhau parhad, cyflenwir unrhyw drydan anghyfatebol o ffynonellau eraill ar y llwyfan neu gan gyflenwr trwyddedig.

Contract a gweinyddu

Mae'r darparwr P2P fel arfer yn dal trwydded gyflenwi ac yn rheoli mwyafswm y gwaith contractiol a gweinyddol. Mae hyn yn cynnwys y gwaith bilio a setlo, a chydymffurfedd. Mae'r cyfranogwyr yn talu ffi llwyfan, a all fod yn gyfradd sefydlog neu'n un sy'n cael ei chodi fesul cilowat awr a fasnachir.

Buddion 

  • Mae'n galluogi prosesau masnachu uniongyrchol rhwng y cynhyrchwyr a'r defnyddwyr, a hynny'n aml am brisiau gwell na'r tariffau safonol.
  • Mae'n lleihau dibyniaeth ar gyflenwyr traddodiadol ac yn cefnogi defnydd o ynni lleol.
  • Mae'n darparu hyblygrwydd i gynhyrchwyr werthu trydan dros ben ac i ddefnyddwyr gael mynediad at ynni lleol rhatach.
  • Gall gael ei integreiddio â thechnolegau clyfar fel bod y cyflenwad a'r galw yn cyfateb yn well.

Cyfyngiadau a risgiau

  • Rhaid cael mesuryddion a chyfathrebu uwch, a all ychwanegu at y costau.
  • Mae'n dibynnu ar ddibynadwyedd y platfform a gwaith gweinyddu cywir. 
  • Mae'r buddion ariannol yn dibynnu ar y patrymau cynhyrchu a defnyddio, ac ar amodau'r rhwydwaith lleol.
  • Gallai newidiadau rheoleiddio effeithio ar y modd y mae ardollau a thaliadau’n cael eu cymhwyso, gan leihau'r arbedion posibl.

4. Astudiaeth achos: Clwb Ynni Lleol Bethesda

Trosolwg

Mae Clwb Ynni Lleol Bethesda yn Nyffryn Ogwen, Gwynedd, yn enghraifft flaenllaw o Gynllun Tariff Lleol (Model 2) sy'n gweithredu yng Nghymru. Ers 2016, mae'r cynllun wedi cysylltu tua 150 o gartrefi a busnesau yn llwyddiannus â thyrbin dŵr rhediad afon 200 kW, a hynny gan ddefnyddio eithriadau rhag trwydded dan drwydded gyflenwi Dosbarth A (y Ddeddf Trydan) ac eithriadau rheoleiddio Safleoedd Cymhleth (y BSC). Mae'r eithriadau hyn yn lleihau ardollau cyflenwi a thaliadau rhwydwaith penodol, gan greu arbedion a rennir rhwng y cynhyrchydd ac aelodau Clwb Ynni Lleol Bethesda.

Y modd y mae'n gweithio

Mae'r Clwb yn defnyddio trefniant cyflenwi hybrid a reolir gan gyflenwr trwyddedig, Octopus Energy, ac a gefnogir gan fesurydd clyfar. Mae defnydd yr aelodau o'r trydan yn cael ei gyfateb yn unol â dau dariff:

  1. Tariff lleol sy'n cyfateb defnydd trydan yr aelodau i'r trydan dŵr lleol a gynhyrchir bob hanner awr. Pan fo ynni lleol yn cael ei gynhyrchu, gall yr aelodau ei gael am bris gostyngol.
  2. Tariff amser defnyddio a ddefnyddir i gyflenwi unrhyw alw ychwanegol am drydan o'r grid.

Mae'r cyfatebu dynamig hwn yn annog aelodau i ddefnyddio'r ynni lleol pan fo ar gael, gan leihau dibyniaeth ar y grid ehangach.

Buddion 

Mae model Bethesda'n dangos trefniadaeth hyfyw ar gyfer gwydnwch ynni lleol, sy'n darparu buddion ystyrlon:

  • Arbedion i ddefnyddwyr: amcangyfrifir bod aelodau'n arbed rhwng 10% a 30% ar eu biliau trydan blynyddol. 
  • Hyfywedd y cynhyrchydd: mae'r cynhyrchydd trydan dŵr yn ennill pris premiwm, sy'n cefnogi'r gweithrediad hirdymor. 
  • Buddsoddiad lleol: mae'r arbedion a'r incwm yn aros yn y gymuned.
  • Y gallu i dyfu yn unol â'r anghenion: mae'r model wedi cael ei efelychu'n llwyddiannus gan Ynni Lleol CIC mewn cymunedau eraill yng Nghymru.

Pwyntiau allweddol

Mae Bethesda'n dangos y modd y gall LES ddarparu buddion ariannol, gwella gwydnwch ynni, a chadw gwerth yn lleol. Mae'n dangos bod prosiectau ynni lleol ar raddfa fach, o gael y partneriaethau cywir, mesuryddion clyfar, a strwythurau clir i dariffau, yn gallu ffynnu dan eithriadau rhag trwydded.

5. Galluogwyr allweddol ar gyfer cyflenwad a eithrir rhag trwydded

Mae sefydlu trefniant ar gyfer Cyflenwad a Eithrir rhag Trwydded (LES) yn dibynnu ar fodloni gofynion rheoleiddio llym, meddu ar y seilwaith ffisegol cywir, a dylunio strwythur masnachol clir. Gweler y prif alluogwyr isod:

Cydymffurfedd rheoleiddiol

Mae cydymffurfio â'r eithriadau perthnasol o ran y drwydded yn hanfodol. Mae mwyafrif y cynlluniau'n dibynnu ar y canlynol:

  • Eithriad rhag Trwydded Cyflenwad Cyflenwyr Bach (Dosbarth A)
  • Trothwy'r Drwydded Gynhyrchu.

Eithriad rhag trwydded cyflenwad cyflenwyr bach (Dosbarth A)

Y prif amod ar gyfer yr eithriad hwn yw swm yr ynni trydanol a gyflenwir ar unrhyw adeg ac nid maint yr ased cynhyrchu. Ni chaiff sefydliad, gan gynnwys unrhyw riant-sefydliadau neu sefydliadau cysylltiedig, gyflenwi mwy na 5 MW o drydan ar unrhyw adeg, ac ni chaniateir i fwy na 2.5 MW ohono gael ei gyflenwi i gwsmeriaid domestig. Yn ymarferol, mae cyflenwyr trwyddedig yn rhoi'r terfyn hwn ar waith ac yn ei fonitro bob hanner awr neu bob awr.

Mae'r terfyn hwn yn berthnasol ar draws yr holl asedau cynhyrchu sy'n eiddo i'r sefydliad, yn hytrach na fesul ased. Er enghraifft, os yw sefydliad yn berchen ar nifer o eneraduron, rhaid i'w cyflenwad a eithrir rhag trwydded barhau o fewn y trothwyon hyn. Mae'r cap yn ymwneud â swm y trydan a gyflenwir dan yr eithriad, ac nid â chapasiti gosodedig y generadur. Mae hyn yn golygu y gall generadur sy'n fwy na 5 MW gymryd rhan o hyd, ar yr amod mai dim ond rhan o'i allbwn sy'n cael ei gyflenwi dan yr eithriad a bod y gweddill yn cael ei werthu trwy lwybrau trwyddedig.

Lle bo cynhyrchydd yn defnyddio mwy nag un eithriad rhag trwydded, megis Dosbarth C ar gyfer cyflenwad y tu ôl i'r mesurydd, neu gyflenwad gwifren breifat ochr yn ochr â Dosbarth A ar gyfer cyflenwad grid, mae'r terfynau'n berthnasol ar draws y ddau gyda'i gilydd. Felly rhaid didynnu unrhyw drydan a gyflenwir dan Ddosbarth C o'r cyfanswm y gellir ei gyflenwi dan Ddosbarth A.

Trothwy'r drwydded cynhyrchu

Rhaid i asedau cynhyrchu fod yn llai na 50 MW er mwyn osgoi'r angen am drwydded gynhyrchu. Mae'r trothwy hwn yn berthnasol i gapasiti gosodedig yr ased, nid y cyfaint a gyflenwir dan LES.

Mae'n bosibl y bydd modelau LES eraill, megis cynlluniau tariffau lleol neu drefniadau gwifren breifat, yn defnyddio fframweithiau gwahanol. Mae'r rhain yn cynnwys eithriadau Dosbarth B neu reolau Safleoedd Cymhleth dan y Cod Cydbwyso a Setlo (BSC). Yn aml, mae'r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr a defnyddwyr rannu'r un Pwynt Cyflenwi ar y Grid (GSP), Prif Is-orsaf, neu fod yn gysylltiedig trwy wifren breifat.

Gan fod y rheolau hyn yn gymhleth a chydymffurfedd yn dibynnu ar hunanasesiad, argymhellir yn gryf y dylid sicrhau cyngor cyfreithiol arbenigol i gadarnhau cymhwysedd ac i ddylunio trefniadau contractiol cadarn, megis Cytundebau Prynu Ynni (PPAs).

Elfennau ffisegol a masnachol

Rhaid i sawl elfen ymarferol fod ar waith er mwyn i LES weithio'n effeithiol:

Partïon allweddol  

O leiaf un cynhyrchydd ac un defnyddiwr, ynghyd â chyflenwr neu gyfryngwr trwyddedig (sy'n hanfodol ar gyfer cofrestru mesurydd, cydbwyso a bilio).

Cysylltiad â'r grid    

Yn galluogi i drydan gael ei drawsyrru ac yn darparu cyflenwad wrth gefn i'r defnyddiwr os bydd arno ei angen.

Capasiti defnyddio    

Rhaid i alw'r defnyddwyr gyfateb i derfynau'r cyflenwad (e.e. dan Ddosbarth A: llai na 5 MW ar unrhyw adeg/2.5 MW ar gyfer defnyddwyr domestig)

Mesuryddion    

Mae mesuryddion cywir yn hanfodol ar gyfer cynhyrchwyr a defnyddwyr. Mae mesuryddion clyfar yn orfodol ar gyfer cynlluniau tariffau lleol.

Dylunio masnachol a chyfatebol    

Dylai'r cynhyrchu a'r galw gyfateb er mwyn i'r LES fod yn hyfyw yn fasnachol. Yn gyffredinol, mae'r dyluniad masnachol (sef y broses wirioneddol o werthu a phrynu trydan) yn cael ei hwyluso gan PPA a gefnogir gan y sefydliadau cyfryngu sy'n hwyluso'r broses.

6. Ystyriaethau cyfreithiol, rheoleiddiol a masnachol

Mae LES, yn ei hanfod, yn gymhleth o safbwynt cyfreithiol a gweinyddol. O wybod am y buddion ariannol sylweddol a natur dechnegol y rheoliadau, argymhellir bod unrhyw sefydliad sy'n ystyried y dull hwn yn ymofyn am gyngor cyfreithiol a masnachol arbenigol.

Nid oes yna broses ymgeisio na chymeradwyo ffurfiol ar gyfer LES. Mae cydymffurfedd yn dibynnu'n llwyr ar hunanasesiad. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gyfranogwyr ddehongli'r rheolau, dogfennu tystiolaeth, a monitro perfformiad i sicrhau cydymffurfedd. Os canfyddir yn ddiweddarach nad yw cynllun yn cydymffurfio, gall camau gorfodi ddilyn.

Mae gweithrediad masnachol LES yn dibynnu'n drwm ar sefydlu trefniadau cytundebol a gweinyddol cadarn:

  • Cytundebau Prynu Ynni (PPAs): fel arfer, mae PPA yn llywodraethu'r broses o werthu a phrynu trydan, naill ai'n uniongyrchol rhwng y cynhyrchydd a'r defnyddiwr neu drwy gyfryngwr.
  • Cymorth gweinyddol: waeth beth fo'r model masnachol, mae'n ofynnol yn gyffredinol i gyflenwr trwyddedig neu wasanaeth cyfryngol ddarparu'r fframweithiau gweinyddol a chyfreithiol angenrheidiol, sy'n cynnwys cofrestru mesuryddion, cydbwyso'r trydan, a bilio a setlo mewn perthynas â'r cwsmeriaid.

Gan fod cydymffurfedd yn cael ei hunanasesu a'r rheolau'n gymhleth, dylid ymofyn am gyngor arbenigol cyn lansio neu ehangu unrhyw brosiect LES.

7. Buddion ac anfanteision

Mae Cyflenwad a Eithrir rhag Trwydded (LES) yn cynnig buddion ariannol cadarn i gynhyrchwyr a defnyddwyr fel ei gilydd. Y prif ysgogydd yw'r gallu i osgoi ardollau a thaliadau cyflenwi trydan penodol sy'n berthnasol i gyflenwad trwyddedig. Mae'r costau hyn a osgoir yn creu arbedion y gellir eu rhannu rhwng y partïon:

  • Budd i'r cynhyrchydd: gall y cynhyrchydd sicrhau pris uwch am ei drydan o gymharu â gwerthu trwy lwybrau traddodiadol, trwyddedig.
  • Budd i'r defnyddiwr: mae'r defnyddiwr yn talu pris is am fod costau'r ardollau a osgoir yn cael eu hadlewyrchu yn y pris.

Er bod y fframwaith rheoleiddio ar gyfer LES yn gymhleth, mae'r broses o'i roi ar waith wedi dod yn haws, diolch i fodelau sefydledig. Mae cyfryngwyr arbenigol wedi datblygu dulliau profedig sy'n cynnwys y prosesau cyfreithiol a gweinyddol angenrheidiol. Mae defnyddio'r modelau hyn yn lleihau'r angen am waith cyfreithiol pwrpasol ac yn gostwng y costau sefydlu.

Mae newidiadau diweddar i'r Cod Cydbwyso a Setlo (P441 a P442) yn darparu eglurder a threfniadaeth technegol ychwanegol ar gyfer cynlluniau LES. Mae'r diweddariadau hyn yn symleiddio'r broses gydymffurfio ac yn gwella hyder yn y buddion ariannol.

Mae LES hefyd yn galluogi cyflenwad lleol. Mae rhai modelau'n caniatáu cyflenwad ffisegol neu rithwir uniongyrchol rhwng cynhyrchwyr a defnyddwyr sydd wedi'u cysylltu yn yr un Pwynt Cyflenwi ar y Grid neu'r un Brif Is-orsaf. Gall hyn ddatgloi buddion ariannol ychwanegol i gynhyrchwyr a defnyddwyr (a elwir yn fuddion mewnblanedig), gwella effeithlonrwydd cyffredinol y system trwy ddefnyddio ynni'n agosach at y man lle caiff ei gynhyrchu, lleihau colledion ynni sy'n digwydd pan fo trydan yn teithio pellteroedd hir, a helpu i reoli'r galw brig ar y grid ehangach.

8. Cyfyngiadau, costau a chymhlethdodau

Er bod LES yn cynnig buddion cymhellol, mae iddo hefyd heriau sy'n ymwneud â chymhlethdod, cost a chymhwysedd.

Mae sefydlu cynllun cydymffurfiol yn gofyn am lywio rheoliadau manwl y farchnad drydan, sydd fel arfer yn gofyn am arbenigedd. Ym mwyafrif yr achosion, mae cyngor cyfreithiol a masnachol yn hanfodol i ddehongli rheolau eithrio yn gywir, i ddrafftio dogfennau contractiol, ac i reoli'r gwaith gweinyddu. Gall y costau hyn olygu buddsoddiad sylweddol ymlaen llaw ar gyfer cynlluniau newydd.

Gall defnyddio modelau LES sefydledig symleiddio'r broses a lleihau costau am eu bod yn darparu fframweithiau profedig ar gyfer cydymffurfio a gweinyddu, gan osgoi'r angen am waith cyfreithiol pwrpasol.

9. Risgiau

Mae i LES sawl risg y mae angen eu hystyried yn ofalus. Y risg fwyaf sylweddol yw fod cydymffurfedd yn dibynnu'n llwyr ar hunanasesiad. Nid oes yna broses ymgeisio na chymeradwyo ffurfiol, felly mae'r cyfranogwyr yn gyfrifol am ddehongli rheolau cymhleth a chynnal tystiolaeth o gydymffurfedd. Os canfyddir yn ddiweddarach nad yw cynllun yn cydymffurfio, gall camau gorfodi ddilyn.

Mae modelau LES hefyd yn agored i newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, mewn deddfwriaeth, neu yng nghodau'r diwydiant, megis y Cod Cydbwyso a Setlo (BSC). Gallai newidiadau yn y dyfodol newid cwmpas eithriadau, effeithio ar y modd y mae taliadau a osgoir yn cael eu cyfrifo, neu gyflwyno gofynion gweinyddol newydd. Gallai'r newidiadau hyn leihau'r buddion ariannol neu olygu nad yw cynlluniau cyfredol yn cydymffurfio.

Mae cyfyngiadau llym seiliedig ar ynni dan eithriad Dosbarth A, a gymhwysir bob hanner awr neu bob awr, yn gallu cyfyngu ar y gallu i dyfu yn unol â'r anghenion, ac ar atgynhyrchu. Lle mae cynhyrchydd hefyd yn cyflenwi trydan ar y safle neu drwy wifren breifat, mae hyn yn lleihau ymhellach yr hyblygrwydd sydd ar gael ar gyfer cyflenwad a eithrir rhag trwydded i drydydd partïon. Mae rhai modelau hefyd yn dibynnu ar amodau penodol ar y safle, megis bod yn gysylltiedig â'r un Pwynt Cyflenwi ar y Grid neu'r un Brif Is-orsaf. Mewn achosion eraill, gallai strwythurau cyfreithiol cymhleth fod yn ofynnol, a all wneud atgynhyrchu'n anodd.

Mae risgiau masnachol hefyd yn berthnasol. Mae trefniadau LES fel arfer yn dibynnu ar Gytundebau Prynu Ynni (PPAs), sy'n cario risgiau parti i gontract safonol megis peidio â chyflenwi'r cyfeintiau cytunedig, taliadau hwyr, neu ansolfedd.

Mae gwaith cyfateb gofalus rhwng y capasiti cynhyrchu a galw'r defnyddwyr yn hanfodol. Os yw swm y trydan a gynhyrchir yn sylweddol fwy na'r galw, gall y cynhyrchydd golli refeniw am na ellir gwerthu'r trydan dros ben dan yr eithriad. Os yw'r galw'n fwy na swm y trydan a gynhyrchir, mae'n bosibl na fydd y defnyddwyr yn arbed costau fel y disgwylid. Mae'r cydbwysedd hwn yn hanfodol ar gyfer hyfywedd ariannol.

Yn olaf, mae LES yn gofyn am waith gweinyddu manwl gywir a pharhaus. Yn aml, cyfryngwyr trwyddedig sy'n rheoli tasgau hanfodol megis cofrestru mesuryddion a gwahanu biliau. Os na chaiff y tasgau hyn eu cyflawni'n gywir, gall gwallau setlo ddigwydd, gan arwain at waith bilio anghywir a cholli buddion ariannol. Mae cynllunio cadarn a monitro parhaus yn hanfodol i reoli'r risgiau hyn.

10. Y camau nesaf

Os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio trefniant Cyflenwad a Eithrir rhag Trwydded (LES) ar gyfer eich sefydliad neu eich cymuned, gallwch:

  • Ystyried cyfleoedd lleol: Nodwch unrhyw waith cynhyrchu adnewyddadwy cyfagos a allai gyflenwi trydan dan eithriad. Mae agosrwydd yn bwysig i rai modelau LES, yn enwedig y rhai sy'n defnyddio rheolau Safle Cymhleth. 
  • Adolygu eich defnydd o drydan: Gwiriwch fod eich proffil galw yn ddigon mawr a chyson i gefnogi trefniant hirdymor ac yn ffitio o fewn terfynau eithriadau (e.e. Dosbarth A: 5 MW ar unrhyw adeg, a dim mwy na 2.5 MW i gwsmeriaid domestig). 
  • Deall yr opsiynau o ran y model: Ystyriwch p'un ai PPA syml a Eithrir rhag Trwydded, cynllun tariff lleol, neu fodel masnachu cymheiriaid i gymheiriaid sy'n gweddu orau i'ch amcanion. 
  • Siarad â'r bobl gywir yn gynnar: Cysylltwch â chynhyrchwyr posibl, cyflenwyr trwyddedig, ac unrhyw gyfryngwyr a all helpu gyda mesuryddion, y gwaith bilio, a chydymffurfedd: Who’s my electricity network operator? Energy Networks Association (ENA)
  • Archwilio opsiynau ariannu: Chwiliwch am grantiau neu gymorth ariannol a allai helpu gyda'r costau ymlaen llaw, megis mesuryddion neu gyngor cyfreithiol: Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru Cyllid Grant / Canfyddwr cyllid | Busnes Cymru / Cyllido Cymru
  • Cael cyngor arbenigol: Mae rheolau LES yn gymhleth, ac mae cydymffurfedd yn dibynnu ar hunanasesiad. Gofynnwch am arweiniad cyfreithiol a masnachol arbenigol cyn lansio cynllun. I gael canllawiau wedi'u teilwra a chymorth ymarferol, cysylltwch ag Ynni Cymru: ynnicymru@localpartnerships.gov.uk

11. Casgliad

Mae Cyflenwad a Eithrir rhag Trwydded yn cynnig ffordd ymarferol o wneud prosiectau ynni lleol yn fwy fforddiadwy, yn wydn, ac yn werthfawr yn strategol. Er y gall y rheolau ymddangos yn gymhleth, mae modelau profedig a diweddariadau diweddar i'r Cod Cydbwyso a Setlo yn golygu ei bod hi bellach yn haws nag erioed manteisio ar yr eithriadau hyn. Mae sefydlu cynllun cydymffurfiol yn dal i olygu llywio rheoliadau cymhleth y farchnad drydan, felly argymhellir yn gryf y dylid sicrhau cyngor arbenigol. Gyda'r cynllunio a'r partneriaethau cywir, gall LES ddatgloi arbedion ariannol go iawn, cefnogi'r broses o gynhyrchu ynni adnewyddadwy, a chadw gwerth o fewn eich sefydliad neu eich prosiect.

Bwriedir i'r canllaw hwn fod yn fan cychwyn ac yn gyflwyniad i'r hanfodion, nid yn llawlyfr gweithredu cyflawn. Ewch ati i'w ddefnyddio i ddeall y pethau sylfaenol, i archwilio opsiynau ymarferol, ac i ddechrau llunio ateb lleol ar gyfer ynni sy'n gweithio i'ch prosiect chi.

I gael cyngor wedi'i deilwra, cymorth ymarferol, neu help i wireddu eich syniadau, cysylltwch ag Ynni Cymru.