Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn gweithio'n agos gyda chyflenwyr fframwaith halen craig mewn perthynas â'r heriau presennol a achosir gan brinder gyrwyr cludo nwyddau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae prinder gyrwyr yn cael effaith ar ystod eang o sectorau busnes, ac rydym yn gweithio i nodi effeithiau posibl ar ddosbarthu halen craig i gwsmeriaid y gaeaf hwn. 

Mae cyflenwyr ein fframwaith yn rhagweld y byddant yn gallu bodloni gofynion cwsmeriaid hysbys eleni, ond mae amseroedd dosbarthu wedi codi.

Dylai cwsmeriaid sy'n dymuno archebu drwy ein fframwaith gysylltu â chyflenwyr cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod eu gofynion yn cael eu cynnwys yng ngwaith cynllunio’r cyflenwyr, ac yn helpu i sicrhau bod archebion yn cael eu dosbarthu erbyn yr amser gofynnol.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru