Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw pwrpas y cyllid

Mae £2m o gyllid ar gael i awdurdodau lleol i helpu i gefnogi ysgolion drwy ddarparu cyfleoedd cyfoethogi i ddysgwyr. 

Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau cymdeithasol, diwylliannol, creadigol a chorfforol y tu allan i'r cyd-destun dysgu ffurfiol, gan gynnwys chwarae. Gallai hyn fod yn ystod y diwrnod ysgol a bob pen iddo, a (neu) yn ystod gwyliau ysgol.

Darperir y cyllid i alluogi ysgolion i:

  • ddarparu cyfres o weithgareddau a chyfleoedd i ddysgwyr sydd wedi'u cofrestru yn yr ysgol, sy'n briodol i'w hoedran
  • cefnogi gweithgareddau sy'n annog dysgwyr i fynychu'r ysgol ac sy'n mynd i'r afael â dadrithiad a (neu) ymddieithrio
  • cefnogi gweithgareddau sy'n hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac emosiynol drwy gynnig mwy o fynediad at brofiadau creadigol, diwylliannol a chwaraeon yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys cyfleoedd i chwarae
  • cefnogi mynediad cyfartal i ddysgwyr, gallai hyn olygu teilwra neu gynyddu rhai gwasanaethau i fynd i'r afael ag anfanteision cynhenid neu i sicrhau bod gweithgareddau yn gynhwysol ac ar gael i bob dysgwr yn yr ysgol
  • cefnogi darpariaeth yn ystod y diwrnod ysgol a bob pen iddo, a (neu) yn ystod gwyliau ysgol, fel y bo'n briodol
  • helpu ysgolion i fod yn ganolfannau i'w cymunedau, nid dim ond yn lleoliadau addysg
  • cefnogi partneriaethau â chyrff gwirfoddoli, elusennau lleol, grwpiau ffydd a sefydliadau cymunedol, a sicrhau y gall cymunedau ffynnu fel canolfannau cymdeithasol, hamdden, chwaraeon a diwylliant
  • cyllido mentrau presennol neu fentrau newydd (gall amrywiaeth o ddarparwyr mewnol neu drydydd parti ddarparu'r mentrau hyn)
  • gwrthbwyso unrhyw gostau blaenorol (o fewn yr amserlen a nodir yn y canllawiau) y mae ysgolion wedi'u hysgwyddo wrth gynnig darpariaeth debyg
  • prynu defnyddiau traul, talu partneriaid cyflawni trydydd parti a chefnogi partneriaid cyflawni sy'n gweithio yn yr ysgol

Gall awdurdodau lleol benderfynu sut i ddefnyddio'r cyllid yn unol â'r meysydd gweithgareddau hyn a darperir y cyllid drwy Grant Addysg Awdurdodau Lleol.

Partneriaid cyflawni

Efallai y bydd ysgolion a lleoliadau yn dymuno gweithio gyda phartneriaid cyflawni, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • awdurdodau lleol
  • darparwyr addysg
  • darparwyr gweithgareddau diwylliannol, (er enghraifft, drama, cerddoriaeth, celf)
  • gwasanaethau ieuenctid
  • darparwyr gofal plant a gwaith chwarae
  • gwasanaethau teuluol
  • darparwyr chwaraeon a hamdden

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni yma: Ysgolion.CyfoethogiAcYmgysylltu@llyw.cymru.