Neidio i'r prif gynnwy

Mae disgwyl i'r cyfleuster parcio cerbydau nwyddau trwm (HGV) sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru ym Mharc Cybi, Caergybi, ailagor ddydd Llun Mai 13, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth Ken Skates wedi cadarnhau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Caewyd y cyfleuster dros dro ddiwedd mis Mawrth oherwydd pwysau cyllidebol, gydag ymrwymiad i weithio'n agos gyda phartneriaid allweddol i ddarparu gwasanaeth costeffeithiol cyn gynted â phosibl.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

Rwy'n falch ein bod yn gallu ailagor y cyfleuster hwn yn dilyn trafodaethau â phartneriaid, a fydd yn darparu ardal am ddim i gerbydau nwyddau trwm stopio cyn neu ar ôl defnyddio porthladd Caergybi.

"Er nad oes gofyniad statudol ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r cyfleuster hwn, gwyddom fod angen lle fel hyn ar gyfer cerbydau nwyddau trwm ers cau Roadking. Mae'n dod â manteision i'r porthladd a'r ardal ehangach.

"Roedd angen i ni ddod o hyd i ffordd gosteffeithiol o ddarparu'r gwasanaeth hwn, y gwyddom ei fod yn cael ei werthfawrogi'n lleol a chan y gyrwyr HGV sy'n ei ddefnyddio.  Mae'n newyddion da bod hyn wedi'i gyflawni erbyn hyn.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddod o hyd i ateb tymor hir ond bydd y cyfleuster hwn ym Mhlot 9, Parc Cybi, yn parhau ar agor tan hynny.

Mae aelod o staff wedi cael ei gadw ar gyfer ailagor a chyflenwyr lleol yn cael eu defnyddio.