Cyflog Byw Go Iawn ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol: asesiad effaith (crynodeb)
Mae'r adroddiad yn egluro'r canfyddiadau o werthusiad effaith a gynhaliwyd fel rhan o werthusiad o bolisi Llywodraeth Cymru i ariannu cyflog byw gwirioneddol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Cafodd cwmni Cordis Bright ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad annibynnol o'i hymrwymiad polisi i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Roedd y gwerthusiad hwn yn cynnwys datblygu Theori Newid, gwerthusiad o broses, a gwerthusiad o effaith.
Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau o'r Gwerthusiad o Effaith o’r polisi Cyflog Byw Gwirioneddol, gan asesu effaith y Cyflog Byw Gwirioneddol ar weithwyr gofal cymdeithasol a nodi effaith y polisi ar draws grwpiau gwahanol o randdeiliaid a'r gweithlu yn ei gyfanrwydd.
Ar y cyfan, mae'r polisi wedi cyflawni ei nod canolog o ymestyn y cyflog byw i fwy o weithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru, gydag 84% o'r gweithwyr a arolygwyd yn dweud eu bod yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol. Cryn gamp mewn cyfnod o gostau cynyddol a chyfyngiadau o ran adnoddau, ac roedd y mwyafrif o randdeiliaid yn ei ystyried fel y "peth iawn i'w wneud”. Fodd bynnag, dywedodd tua 16% o'r gweithwyr a holwyd eu bod nhw'n derbyn llai na'r Cyflog Byw Gwirioneddol, gan ddangos bod cynnydd i'w wneud o hyd ar ei gwmpas.
Mae'n bwysig nodi nad bwriad y polisi Cyflog Byw Gwirioneddol oedd datrys holl heriau'r gweithlu ar ei ben ei hun, ac mae ei gyfraniad penodol yn anodd ei ddatgysylltu oddi wrth ffactorau eraill, megis pwysau'r farchnad lafur, heriau costau byw, a materion cyllid strwythurol. Er bod y polisi wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol, er braidd yn gyfyngedig, at ganlyniadau fel morâl a chadw gweithwyr, mae'r effeithiau hyn wedi'u cyfyngu gan rymoedd gwrthbwyso cryf.
Nodau
Nod y Gwerthusiad o Effaith oedd gwerthuso effaith talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, nodi a yw taliad y Cyflog Byw Gwirioneddol wedi arwain at ganlyniadau bwriadol neu anfwriadol ac argymell gwelliannau ar gyfer y dyfodol ar gyfer talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol.
Bu'r gwerthusiad hwn yn archwilio'r effaith ers i'r polisi ddod i rym ym mis Ebrill 2022, a chasglwyd data rhwng mis Tachwedd 2024 a mis Chwefror 2025.
Methodoleg
Defnyddiwyd dull cymysg i archwilio effaith y polisi Cyflog Byw Gwirioneddol ar draws pob math o ofal cymdeithasol a rhanbarthau yng Nghymru, gan gynnwys:
- cyfweliadau gydag wyth o randdeiliaid strategol cenedlaethol
- cyfweliadau gyda 21 o gomisiynwyr gofal cymdeithasol
- cyfweliadau gyda 23 o ddarparwyr gofal a gweithdy gyda 10 o ddarparwyr gofal mewn fforwm darparwyr
- dau weithdy rhanbarthol gyda saith gweithiwr gofal cymdeithasol a chyfweliadau unigol gyda thri chynorthwyydd personol a dau weithiwr gofal cymdeithasol
- arolwg ar-lein gyda gweithwyr gofal cymdeithasol a chynorthwywyr personol, a gafodd ei gwblhau gan 2,364 o bobl
- arolwg ar-lein gyda derbynwyr Taliadau Uniongyrchol, sy'n defnyddio eu taliadau i gyflogi cynorthwywyr personol, wedi'i gwblhau gan 276
Prif ganfyddiadau
Effaith y Polisi Cyflog Byw Gwirioneddol
Roedd y polisi Cyflog Byw Gwirioneddol yn gosod nod uchelgeisiol o ymestyn y Cyflog Byw Gwirioneddol i bob gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r gwerthusiad hwn yn canfod bod y polisi wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at gyrraedd y nod hwnnw, gan gyflawni newid amlwg o safbwynt cydraddoldeb o ran cyflogau ar draws y gweithlu mewn cyfnod o her ddigynsail i'r sector.
Yn bwysicach fyth, mae'r rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol bellach yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae data'r arolwg yn dangos bod 84% o'r ymatebwyr yn dweud eu bod nhw'n derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol, cynnydd mawr o ran cwmpas. Mae hyn yn cymharu'n ffafriol â Lloegr, lle amcangyfrifwyd mai dim ond 52% o weithwyr gofal cymdeithasol oedolion oedd yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol ym mis Rhagfyr 2024 (Skills for Care, 2025).
Yn ôl tystiolaeth, mae’r polisi wedi cyfrannu at wella lles ariannol rhai gweithwyr gofal cymdeithasol. Roedd derbynwyr y Cyflog Byw Gwirioneddol yn llai tebygol o ddweud eu bod mewn caledi ariannol. Er bod llawer o weithwyr yn dal i wynebu pwysau ariannol, mae'r gwerthusiad yn awgrymu y byddai lefelau caledi wedi bod yn uwch heb y polisi hwn, yn enwedig o gofio'r argyfwng costau byw ehangach.
Mae'r polisi hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar forâl a chanfyddiadau o gael eu gwerthfawrogi, yn enwedig yn ystod camau cychwynnol y gweithredu. Yn ogystal â’r codiad cyflog felly, mae hyn yn awgrymu bod y Cyflog Byw Gwirioneddol hefyd wedi anfon neges bwysig o gydnabyddiaeth i weithwyr gofal. Fodd bynnag, nid yw'r enillion hyn wedi cael eu cynnal yn gyffredinol ac mae'n ymddangos eu bod wedi erydu dros amser dan bwysau system ehangach.
O'r cychwyn cyntaf, roedd rhanddeiliaid yn glir nad oedd disgwyl i'r polisi hwn ddatrys heriau sylweddol y gweithlu o ran recriwtio, cadw staff a sefydlogrwydd, ond rhagwelwyd y gallai wneud cyfraniad cadarnhaol i'r heriau hirsefydlog hyn.
Mae arwyddion o welliannau cymedrol mewn lefelau cadw staff, yn enwedig ymhlith gweithwyr ar lefel mynediad, a allai adlewyrchu mwy o sefydlogrwydd a chydnabyddiaeth ariannol. Fodd bynnag, dim ond effaith gyfyngedig y mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn ei chael ar recriwtio, sy'n parhau i gael ei ddylanwadu gan amodau'r farchnad lafur allanol a chyfleoedd cystadleuol mewn sectorau fel y GIG, manwerthu a lletygarwch. Mae dilyniant gyrfa hefyd yn parhau’n gyfyngedig ar y naw, gyda rhai strwythurau cyflog gwastad yn ei gwneud hi'n anoddach i ddarparwyr wahaniaethu rhwng rolau rheng flaen a rolau goruchwylio. Mae'n debyg bod hyn o ganlyniad i'r Cyflog Byw Cenedlaethol sy'n prysur dyfu, ond cyfrannodd y Cyflog Byw Gwirioneddol at yr her hon hefyd.
Er bod y dystiolaeth o effaith gadarnhaol yn gymedrol, awgrymodd rhanddeiliaid y byddent wedi disgwyl canlyniadau gwaeth pe na bai'r Cyflog Byw Gwirioneddol ar waith.
Yn bwysig, nid yw'r polisi Cyflog Byw Gwirioneddol wedi cyrraedd pob rhan o'r gweithlu eto. Mae'r gwerthusiad yn tynnu sylw y ffaith fod lefelau is weithwyr gofal o gefndiroedd Du neu Asiaidd, cynorthwywyr personol, a'r rhai sy'n gweithio ym maes gwasanaethau plant a theuluoedd, yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae hyn yn awgrymu bod angen cymryd camau penodol i sicrhau mwy o chwarae teg wrth gyflwyno’r polisi.
Daeth rhai canlyniadau anfwriadol i'r amlwg hefyd. Dywedodd lleiafrif o weithwyr eu bod wedi gweld llai o welliannau fel tâl goramser a thaliadau bonws, ac eraill yn dweud bod amodau a thelerau wedi dirywio. Mae darparwyr gofal wedi wynebu straen ariannol, gyda rhai yn tynnu ar gronfeydd wrth gefn neu'n lleihau buddsoddiad mewn meysydd fel hyfforddiant, cynnal a chadw a datblygu gwasanaethau er mwyn bodloni costau cyflog a chostau gweithredol cynyddol. Dywedodd comisiynwyr fod pwysau cyllido'r Cyflog Byw Gwirioneddol wedi cael sgileffaith ar gyllidebau cyngor ehangach, gyda rhai yn ailgyfeirio adnoddau o wasanaethau ataliol neu'n oedi recriwtio. Mae dulliau cyllido anghyson a phroblemau gydag amseru a gorfodi'r polisi Cyflog Byw Gwirioneddol wedi arwain at berthynas heriol ar adegau rhwng comisiynwyr a darparwyr.
I bobl sy'n dibynnu ar ofal, mae'r effaith yn ymddangos yn gymysg. Mewn rhai achosion, gallai'r polisi fod wedi helpu i gefnogi parhad gofal, er mai cyfyngedig yw'r dystiolaeth o welliannau mewn ansawdd yn gyffredinol. Ymhlith derbynwyr Taliadau Uniongyrchol, dywedodd lleiafrif fod ansawdd y gofal wedi gwella. Ond mewn rhai ardaloedd, mae mynediad a fforddiadwyedd wedi gwaethygu oherwydd costau cynyddol, ffioedd ychwanegol, neu lai o oriau gofal.
Yn gyffredinol, er bod polisi'r Cyflog Byw Gwirioneddol wedi gwneud cynnydd sylweddol drwy godi cyflogau a chefnogi sefydlogrwydd ariannol, mae ei effaith wedi'i gyfyngu gan ffactorau allanol, ac mae'n rhaid deall ei rôl fel un rhan o set ehangach o ddiwygiadau'r gweithlu.
Deall effaith y polisi Cyflog Byw Gwirioneddol
Cyflwynwyd y polisi Cyflog Byw Gwirioneddol ar y rhagdybiaeth y byddai cyflog gwell yn cyfrannu at lefelau gwell o recriwtio a chadw staff, ynghyd â chanfyddiadau gwell o werth ar draws gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, nid oedd disgwyl erioed i'r polisi fynd i'r afael â'r heriau hyn ar ei ben ei hun, ac mae'n rhaid ystyried ei gyfraniad yng nghyd-destun pwysau ehangach y system a'r farchnad lafur.
Mae tystiolaeth werthuso yn awgrymu bod y canlyniadau hyn wedi dechrau dod i'r amlwg mewn rhai meysydd, er bod y cynnydd yn gymysg ac wedi'i ddylanwadu gan ystod o ffactorau allanol y tu hwnt i reolaeth y polisi, yn enwedig ar lefel sector.
Mae'n bwysig ystyried y polisi Cyflog Byw Gwirioneddol o fewn cyd-destun ehangach newid system. Mae gweithredu'r polisi wedi cyd-fynd â datblygiadau eraill fel cofrestru'r gweithlu, newidiadau i’r polisi mewnfudo, yr argyfwng costau byw a'r galw cynyddol am ofal - sydd oll wedi siapio sut mae'r polisi wedi'i gyflwyno a'i brofi.
Mae amodau'r farchnad lafur wedi esblygu'n sylweddol ers lansio'r polisi. Mae codiadau cyflog mewn sectorau cyflog isel eraill, gan gynnwys manwerthu, lletygarwch a'r GIG, ochr yn ochr â chwyddiant uchel, wedi lleihau nodweddion unigryw y Cyflog Byw Gwirioneddol. Gyda’r bwlch yn lleihau rhwng y Cyflog Byw Cenedlaethol a'r Cyflog Byw Gwirioneddol, sydd bellach yn ddim ond 39c ym mis Mai 2025, mae’n debyg y bydd hi'n anoddach i'r Cyflog Byw Gwirioneddol barhau i fod yn ysgogiad cryf ar gyfer cadw a denu staff.
Mae'r polisi hefyd wedi cael effeithiau y tu hwnt i'w gwmpas gwreiddiol. Er enghraifft, mae wedi creu pwysau i godi cyflogau staff nad ydynt yn staff gofal. Er bod modd ystyried hyn fel cam cadarnhaol o ran tegwch, mae wedi ychwanegu straen ariannol ac, mewn rhai achosion, dryswch i gyflogwyr. Mae gwasanaethau ataliol, nad oeddent wedi'u cynnwys yn y Polisi Cyflog Byw Gwirioneddol, wedi dod yn anoddach i'w staffio'n gynaliadwy, sy'n awgrymu pwysigrwydd dull gweithlu mwy cydgysylltiedig.
Mae heriau strwythurol a chyd-destunol ehangach yn parhau i gyfyngu ar effaith bosibl y polisi. Mae'r rhain yn cynnwys galw cynyddol am ofal, tanariannu hirdymor a diffyg buddsoddiad parhaus yn natblygiad y gweithlu. Heb ddiwygiadau cyfochrog, megis amodau a thelerau gwell a llwybr gyrfa cliriach, go brin y bydd y Cyflog Byw Gwirioneddol yn cyflawni newid trawsnewidiol ar ei ben ei hun.
Mae rhanddeiliaid yn gweld y Cyflog Byw Gwirioneddol fel llinell sylfaen gadarnhaol a symbolaidd ar gyfer tâl ym maes gofal cymdeithasol, ond nid fel strategaeth hirdymor ddigonol. Mae consensws cynyddol y bydd y manteision a gyflawnwyd hyd yma yn darparu sylfaen werthfawr. Fodd bynnag, bydd angen buddsoddiad strwythurol hirdymor, cysondeb gwell rhwng strategaethau'r gweithlu a chyllido, a dull mwy strategol o gynllunio a datblygu'r gweithlu, er mwyn gwireddu potensial y polisi yn llawn.
Argymhellion
Mae'r polisi Cyflog Byw Gwirioneddol wedi'i weithredu'n llwyddiannus ac wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at wella cyflogau gweithwyr gofal cymdeithasol a’r gydnabyddiaeth a roddir iddynt. Mae wedi gosod sylfaen gadarn ar gyfer diwygio a buddsoddiad pellach. Er mwyn adeiladu ar y llwyddiant hwn, mae'r gwerthusiad yn argymell pedwar cam gweithredu pwysig i gynyddu cyrhaeddiad, cysondeb ac effaith hirdymor y polisi Cyflog Byw Gwirioneddol.
Y pedwar argymhelliad o'r Gwerthusiad Effaith
Ailfframio cyflogau ym maes gofal cymdeithasol i adlewyrchu cystadleuaeth yn y farchnad lafur, gan adeiladu ar yr Cyflog Byw Gwirioneddol a'r fframwaith cyflog a dilyniant sy'n datblygu, gyda'r nod hirdymor o gyflawni a chynnal cydraddoldeb o ran cyflogau â rolau cyfatebol yn y GIG. Dylai Llywodraeth Cymru adeiladu ar lwyddiant y Cyflog Byw Gwirioneddol drwy integreiddio dull tymor hwy o feincnodi cyflogau o fewn y fframwaith cyflog a dilyniant a'r cytundeb cyflog teg arfaethedig. O ran uchelgais, dylid sicrhau bod cyflogau gofal cymdeithasol yn adlewyrchu cymaryddion yn y farchnad lafur, yn enwedig rolau Band 3 y GIG, sy'n adlewyrchu’n fwy cywir gyfrifoldebau llawer o weithwyr gofal. Byddai hyn yn cefnogi recriwtio, yn cadw staff ac yn sicrhau bod gofal cymdeithasol yn cael ei gweld fel gyrfa werthfawr a chynaliadwy. Mae rhanddeiliaid yn cydnabod bod angen buddsoddiad, cydweithio ac amser i wireddu'r uchelgais hon, ond credant fod hynny'n hanfodol i sicrhau dyfodol y gweithlu.
Cau'r bwlch cwmpas: Nodi a mynd i'r afael â'r achosion o beidio â thalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i'r 16% sy'n weddill o'r gweithlu, gyda chamau gweithredu penodol ar gyfer y grwpiau sydd wedi'u heffeithio fwyaf gan hyn.
Gwella'r broses fonitro a gorfodi: Ailgyflwyno dull monitro cyflogau cadarn a chyson trwy reoli contractau, gyda disgwyliadau a mecanweithiau cliriach i sicrhau cydymffurfiaeth.
Olrhain cynnydd a rhannu'r hyn a ddysgwyd: Cynnal a chyhoeddi adolygiad blynyddol o gwmpas ac effaith y Cyflog Byw Gwirioneddol, wedi'i lywio gan ymgysylltiad ar draws y sector, i gefnogi tryloywder a gwelliant parhaus.
Manylion cyswllt
Awduron yr Adroddiad: Dr Lucy Webster, Joshua Butt, Samyukta Srinivasan, Dr Alice McDowell, Caitlin de Souza, Tom Noon (Cordis Bright)
Safbwyntiau’r ymchwilwyr yw’r rhai a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid ydynt o reidrwydd yn rhai Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:
Tîm Dadansoddi ac Arloesi
Swyddfa Genedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: TimDadansoddiacArloesi@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 103/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-586-2
