Cyflog Byw Real i Weithwyr Gofal Cymdeithasol: gwerthuso prosesau (crynodeb)
Mae'r adroddiad yn nodi canfyddiadau gwerthusiad proses a gynhaliwyd fel rhan o werthusiad o bolisi Llywodraeth Cymru i ariannu'r cyflog byw gwirioneddol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Comisiynodd Llywodraeth Cymru Cordis Bright i gynnal gwerthusiad annibynnol o'i hymrwymiad polisi i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r gwerthusiad hwn yn cynnwys datblygu Damcaniaeth Newid, gwerthusiad proses, a gwerthusiad effaith.
Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau’r gwerthusiad proses ar gyfer y polisi Cyflog Byw Gwirioneddol, asesu ei weithrediad, ei effeithiolrwydd a’i effaith gynnar, a darparu casgliadau ac argymhellion ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol.
Y Cyflog Byw Gwirioneddol
Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn gyfradd cyflog fesul awr a bennir gan y Comisiwn Cyflog Byw. Mae'n wahanol i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, yr isafswm cyflog a orfodir gan Lywodraeth Prydain ar gyfer pobl ifanc 21 oed a hŷn, ac mae'n bodoli i adlewyrchu costau byw yn well.
Roedd talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yn ymrwymiad allweddol yn y Rhaglen Lywodraethu 2021-26. Mae hefyd mewn ymateb i'r angen a gydnabyddir yn eang i dalu gweithwyr gofal cymdeithasol yn well ac mae'n cyd-fynd ag agenda bolisi ehangach yng Nghymru sy'n ymwneud â gwaith teg.
Addawodd Llywodraeth Cymru ddarparu'r adnoddau ariannol ychwanegol a oedd eu hangen er mwyn sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn derbyn o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol o fis Ebrill 2022 ymlaen, gyda'r ymrwymiad cyllid ychwanegol hwn wedi'i fwriadu i dalu'r gwahaniaeth rhwng yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Roedd y cyllid hefyd yn cynnwys cyfraniad tuag at y gost o gynnal gwahaniaethau cyflog rhwng gweithwyr gofal cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol.
Mae'r polisi yn berthnasol i bob gweithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig mewn cartrefi gofal a gofal cartref ar draws gwasanaethau oedolion a phlant, a gweithwyr gofal cartref cofrestredig mewn lleoliadau byw â chymorth. Mae'r polisi hefyd yn berthnasol i bob cynorthwyydd personol a ariennir trwy daliadau uniongyrchol awdurdodau lleol.
Nodau
Nod y gwerthusiad proses oedd adolygu sut mae'r polisi Cyflog Byw Gwirioneddol wedi'i roi ar waith, effeithiolrwydd gweithredu'r Cyflog Byw Gwirioneddol, a nodi ffactorau sydd wedi helpu neu rwystro ei effeithiolrwydd, yn ogystal â chanlyniadau anfwriadol posibl (cadarnhaol neu negyddol).
Amcanion y gwerthusiad proses oedd:
- asesu effeithiolrwydd y polisi Cyflog Byw Gwirioneddol i gyrraedd gwahanol fathau o weithwyr gofal cymdeithasol cymwys
- ystyried cysondeb mecanweithiau cyflawni'r polisi ar draws awdurdodau lleol (ALlau) a byrddau iechyd (BI)
- nodi meysydd arferion da
- nodi canlyniadau anfwriadol y polisi
- argymell gwelliannau ar gyfer rheoli a gweithredu'r Cyflog Byw Gwirioneddol
Archwiliodd y gwerthusiad proses weithrediad y polisi yn ystod blwyddyn gyntaf y polisi, Ebrill 2022 – Mawrth 2023, ac o ail flwyddyn i drydedd flwyddyn y polisi o Ebrill 2023 i Fehefin 2024, pan ddaeth casglu data ar gyfer y gwerthusiad hwn i ben.
Methodoleg
Casglwyd data gwerthuso proses rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 2024, a defnyddiwyd dulliau cymysg gyda chynrychiolaeth eang o grwpiau rhanddeiliaid allweddol yn y sector gofal cymdeithasol o bob cwr o Gymru, gan gynnwys:
- cyfweliadau ag 11 o randdeiliaid strategol cenedlaethol; roedd meysydd trafodaeth allweddol yn cynnwys cynnydd o ran rhoi’r polisi ar waith hyd yn hyn, gan gynnwys pa mor effeithiol y mae cynnydd wedi bod, ac unrhyw ffactorau sydd wedi galluogi neu rwystro cynnydd
- pedwar gweithdy rhanbarthol gyda 21 o gomisiynwyr gofal o awdurdodau lleol a byrddau iechyd; roedd y meysydd trafodaeth allweddol yn cynnwys sut mae'r polisi yn cael ei weithredu, a beth yw'r effeithiau disgwyliedig a'r canlyniadau annisgwyl i weithwyr gofal cymdeithasol a'r system yn ehangach
- pedwar gweithdy rhanbarthol gyda chynrychiolwyr o 19 darparwr gofal; roedd y meysydd allweddol i'w trafod yn cynnwys sut cafodd costau’r polisi eu nodi a’u cyfrifo, y cyllid ar gyfer y polisi, newidiadau y bu'n rhaid i'r sefydliad eu gwneud ac effaith y polisi
- arolwg ar-lein gyda derbynwyr taliadau uniongyrchol, sy'n defnyddio eu taliad i ariannu cynorthwyydd personol; roedd pynciau cwestiynau allweddol yn cynnwys ymwybyddiaeth o'r polisi, faint o dâl roedd eu cynorthwyydd personol yn ei gael ac a oedd hyn wedi cael ei gynyddu oherwydd y polisi, a pha effaith mae'r polisi wedi'i chael
- data a dogfennau gweithredu’r polisi, gan gynnwys data o ffurflenni monitro a data a dynnwyd o hysbysebion swyddi
Dadansoddwyd y dystiolaeth ansoddol a gasglwyd trwy gyfweliadau a gweithdai gyda rhanddeiliaid mewn ffordd thematig i nodi themâu allweddol, elfennau cyffredin, a gwahaniaethau mewn ymatebion. Dadansoddwyd data a gasglwyd trwy'r arolwg derbynwyr taliadau uniongyrchol yn Excel. Dadansoddwyd ymatebion testun agored yn thematig. Dadansoddwyd data a gasglwyd o'r data hysbysebion swyddi hefyd yn Excel.
Canfyddiadau allweddol
Gweithredu'r polisi Cyflog Byw Gwirioneddol
Gweithredwyd y polisi Cyflog Byw Gwirioneddol yn fras fel y cynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru, comisiynwyr a darparwyr. Roedd cyflwyno'r polisi yn cyd-fynd â Damcaniaeth Newid y polisi, gyda'r rhan fwyaf o randdeiliaid yn dangos dealltwriaeth gyffredin o weithredu’r polisi.
Mae'r mwyafrif o'r cyllid ar gyfer y Cyflog Byw Gwirioneddol yn debygol iawn o fod wedi cyrraedd y grŵp targed o weithwyr gofal cymdeithasol fel y bwriadwyd.
Effeithiolrwydd gweithredu'r polisi
Yn seiliedig ar fewnwelediadau’r comisiynydd a'r darparwyr ac adolygiad o hysbysebion swyddi, mae'r mwyafrif o weithwyr gofal cymdeithasol cymwys yn debygol o fod yn derbyn Cyflog Byw Gwirioneddol erbyn hyn. I'r perwyl hwn, mae'r polisi wedi'i gyflwyno'n llwyddiannus i raddau helaeth.
Mae cyfran o weithwyr gofal cymdeithasol a chynorthwywyr personol yn parhau i gael eu talu yn is na'r Cyflog Byw Gwirioneddol. Nid yw'n glir hefyd a yw'r polisi hwn wedi cael effaith ar weithwyr gofal cymdeithasol mewn gwasanaethau nad ydynt yn derbyn arian cyhoeddus, fel gweithwyr gofal cartref preifat, neu weithwyr mewn cartrefi gofal a ariennir yn gyfan gwbl breifat.
Nid yw'n hysbys faint o weithwyr gofal cymdeithasol ychwanegol sy'n derbyn taliadau uwch na chyn i'r polisi gael ei gyflwyno, oherwydd nid oedd yn glir faint o weithwyr gofal cymdeithasol a oedd yn derbyn Cyflog Byw Gwirioneddol cyn i'r polisi gael ei gyflwyno. Mae diffyg data manwl ar gael hefyd am dalu Cyflog Byw Gwirioneddol i unigolion.
Roedd yna gymysgedd o bethau yn hwyluso ac yn atal gweithredu'r polisi. Ansawdd y berthynas rhwng darparwyr a chomisiynwyr oedd yr hwylusydd pwysicaf, tra bod cyllid annigonol i dalu costau gofal ehangach nad ydynt yn Gyflog Byw Gwirioneddol yn cael ei ystyried fel y rhwystr mwyaf.
Roedd rhanddeiliaid a oedd yn pryderu nad oes digon o gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw cyllid ar gyfer y Cyflog Byw Gwirioneddol wedi'i glustnodi. O ganlyniad, mae perygl y gall y cyllid hwn gael ei wario ar flaenoriaethau eraill gan awdurdodau lleol a/neu ddarparwyr gofal cymdeithasol. Nid oes trywydd archwilio uniongyrchol ynglŷn â sut mae arian a fwriedir i dalu am y Cyflog Byw Gwirioneddol wedi'i ddyrannu.
Effeithiau cynnar a chanlyniadau annisgwyl
Mae rhywfaint o dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg i awgrymu bod yna effeithiau cadarnhaol ar weithwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys mwy o gyflog, a gwell boddhad a morâl, fel y bwriadwyd gan y polisi.
Fodd bynnag, roedd rhanddeiliaid yn fwy gofalus ynghylch maint yr effaith ar y sector gofal ehangach o ran recriwtio neu gadw'r staff gorau, er gwaethaf llond llaw o enghreifftiau cadarnhaol o gynnydd posibl yn y meysydd hyn.
Fel rhan o gam nesaf y gwerthusiad hwn, cynhelir gwerthusiad effaith sy'n edrych ar effaith talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd hyn yn archwilio'n fanylach effeithiau cynnar a chanlyniadau anfwriadol y polisi, gan gynnwys trwy ymgynghori â gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig a chynorthwywyr personol nad ydynt wedi ymgynghori â nhw eto.
Dylid ystyried y canfyddiadau hyn dros dro a'u trin â gofal ychwanegol. Bydd gwerthusiad effaith ar gyfer polisi Cyflog Byw Gwirioneddol yn cael ei gynnal o hydref 2024, a disgwylir i'r adroddiad erbyn haf 2025.
Argymhellion
Daeth pedwar argymhelliad yn sgil yr adroddiad gyda'r bwriad o wella’r ffordd o reoli a gweithredu'r Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae'r gwelliannau a'r camau gweithredu a nodir isod yn seiliedig ar farn ac awgrymiadau rhanddeiliaid a'n dadansoddiad a'n dehongliad ni ohonynt.
Nid oes disgwyl i bawb gytuno â'r holl awgrymiadau gwella, ond bwriad y camau arfaethedig yw cefnogi gweithredu'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn fwy effeithiol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol i gyflawni'r nodau polisïau a fwriadwyd.
Bydd yr argymhellion hyn yn gofyn am fewnbwn yr holl randdeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd y GIG, a darparwyr er mwyn iddynt gael eu cyflawni'n llwyddiannus.
Yr argymhellion
Ystyried sut rydych chi'n cyfathrebu amseriad y codiadau Cyflog Byw Gwirioneddol er mwyn rhoi hyder i bobl ynghylch pryd y bydd codiad cyflog yn dod a beth fydd y codiad. Gellid gwella cyfathrebu am amseriad y codiad Cyflog Byw Gwirioneddol er mwyn cyfleu'n glir y bydd y gyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol newydd yn cael ei gweithredu o’r mis Ebrill canlynol. Pe bai'n bosibl gwneud darpariaethau ar gyfer codiad cyflog canol blwyddyn ar yr adeg y cyhoeddir y gyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol ddiweddaraf, byddai hyn yn debygol o helpu i gynnal ewyllys da ymhlith y gweithlu ac atal y demtasiwn i weithwyr gofal symud at gyflogwyr sydd â'r gallu i dalu'r codiad yn gyflymach na'r sector gofal. Lle nad yw hyn yn bosibl, bydd mwy o ffocws ar gyfathrebu'r amserlen ar gyfer codiadau yn bwysig.
Ystyried dichonoldeb clustnodi cyllid penodol ar gyfer talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol a'r costau cysylltiedig, er mwyn gwella tryloywder ac atebolrwydd. Os nad yw hyn yn ymarferol, gallai Llywodraeth Cymru fod yn fwy eglur gydag awdurdodau lleol ynghylch pa gyllid sydd wedi'i fwriadu ar gyfer y Cyflog Byw Gwirioneddol o fewn y Grant Cynnal Refeniw heb ei neilltuo. Mae'n debygol bod yna faich gweinyddol a chostau trafodion yn gysylltiedig â chyllid wedi’i glustnodi. Fodd bynnag, efallai mai dyma'r dull mwyaf effeithiol i sicrhau bod cyllid a fwriedir i dalu Cyflog Byw Gwirioneddol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hyn. Os nad yw clustnodi yn ymarferol, yn enwedig gyda'r mecanweithiau cyllido presennol, yna ystyriwch esbonio'n benodol pa arian y mae pob awdurdod lleol wedi'i dderbyn fel rhan o’r Grant Cynnal Refeniw sydd wedi'i fwriadu ar gyfer y Cyflog Byw Gwirioneddol, er mwyn eu cyfarwyddo'n well i ddefnyddio'r cyllid fel y bwriadwyd. Rydym yn cydnabod y bydd darparwyr ac awdurdodau lleol yn parhau i allu gwneud dewisiadau gwahanol i’w gilydd.
Adolygu'r dulliau o fonitro gweithrediad polisi y Cyflog Byw Gwirioneddol, gan gynnwys defnyddio casgliadau data presennol am y gweithlu i fonitro lefelau cyflog gwirioneddol a phrofiadau pobl o'u cyflog. Ar hyn o bryd ni ellir dweud yn sicr faint o weithwyr gofal cymdeithasol cymwys sy'n derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol. Byddai ystyriaeth bellach o sut mae tâl y gweithlu yn cael ei gasglu yn helpu i fonitro gweithrediad y polisi hwn yn barhaus.
Gwella tryloywder a chyfathrebu ynghylch cyfrifo'r cyllid ar gyfer y polisi Cyflog Byw Gwirioneddol a'r hyn y mae'n ei gynnwys. Byddai mwy o dryloywder a chyfathrebu cliriach ynghylch sut y cyrhaeddwyd y ffigur hwn yn rhoi dealltwriaeth gliriach i ddarparwyr o bwrpas y cyllid (h.y. llenwi’r bwlch rhwng yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Gwirioneddol, a gwahaniaethau). Bydd hefyd yn ei gwneud hi'n haws i lunwyr polisi, comisiynwyr a darparwyr nodi a yw cyllid yn ddigonol a deall pa ddarparwyr a ddylai fod yn cyfrannu eu hunain.
Yn ogystal â'r argymhellion hyn, gwahoddir llunwyr polisi i ystyried yn ehangach y risgiau sy'n gysylltiedig â'r ymrwymiad i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol, pan nad oes gan Lywodraeth Cymru y modd i reoli costau'r polisi.
Mae perygl, pe bai Llywodraeth Cymru, comisiynwyr neu ddarparwyr o'r farn bod y Cyflog Byw Gwirioneddol yn mynd yn anfforddiadwy, bod disgwyliadau wedi cael eu codi ar draws y gweithlu a gallai unrhyw symudiad i dalu llai na’r Cyflog Byw Gwirioneddol danseilio canlyniadau arfaethedig y polisi.
Mae'r risg y bydd y polisi yn cael ei ystyried yn anfforddiadwy yn arbennig o acíwt oherwydd cyfuniad o chwyddiant uchel a phrinder cyllid. Mae'r gwerthusiad hwn eisoes wedi nodi sefydliadau sy'n ystyried a yw’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn fforddiadwy ai peidio.
Byddwn yn edrych ymhellach ar effeithiau a chanlyniadau annisgwyl ar gyfer gofal a ariennir yn breifat fel rhan o'r gwerthusiad effaith y bydd Cordis Bright yn ei gynnal o hydref 2024, a bydd yr adroddiad ar gael o haf 2025.
Manylion cyswllt
Awduron yr Adroddiad: Dr Lucy Webster, Joshua Butt, Stella Butler, Tom Noon, a Colin Horswell (Cordis Bright)
Safbwyntiau’r ymchwilwyr yw’r rhai a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid ydynt o reidrwydd yn rhai Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:
Tîm Dadansoddi ac Arloesi
Swyddfa Genedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: TimDadansoddiacArloesi@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 102/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-527-5
