Diweddariad i'r Isafswm Cyflog Amaethyddol o 1 Ebrill 2026
Mae cyfraddau Isafswm Cyflog Amaethyddol fel arfer yn cael eu diweddaru bob blwyddyn gan Banel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (y Panel). Mae gwaith recriwtio ar gyfer Cadeirydd newydd yn dal i fynd rhagddo, sy'n golygu nad yw'r Panel wedi gallu cytuno ar Orchymyn Cyflogau Amaethyddol newydd ar gyfer 2026 eto.
O ganlyniad, o 1 Ebrill 2026 ymlaen, bydd y cyfraddau isafswm cyflog a nodir yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2025 yn parhau i fod yn gymwys, ac eithrio pan fo newidiadau i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (NMW) neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol (NLW) yn eu disodli.
Cyfraddau Isafswm Cyflog Amaethyddol o 1 Ebrill 2026
Oherwydd y cynnydd i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a'r Cyflog Byw Cenedlaethol, yr cyfraddau tâl isaf fesul awr ar gyfer gweithwyr amaethyddol o 1 Ebrill 2026 fydd:
| Gradd | Cyfradd tâl fesul awr o 1 Ebrill 2026 ymlaen |
|---|---|
| Gradd A1 (16 – 17 oed) | £8.00* |
| Gradd A2 (18 – 20 oed) | £10.85* |
| Gradd A3 (21+ oed) | £12.71* |
| Gradd B1 (16 – 17 oed) | £8.00* |
| Gradd B2 (18 – 20 oed) | £10.85* |
| Gradd B3 (21+ oed) | £12.71* |
| Gradd C – Gweithiwr Amaethyddol Uwch | £13.48 |
| Gradd D – Uwch-weithiwr Amaethyddol | £14.79 |
| Gradd E – Rheolwr Amaethyddol | £16.23 |
| Prentis Blwyddyn 1 | £8.00* |
| Prentis Blwyddyn 2 a’r tu hwnt (16 – 17 oed) | £8.00* |
| Prentis Blwyddyn 2 a’r tu hwnt (18 – 20 oed) | £10.85* |
| Prentis Blwyddyn 2+ (21+) | £12.71* |
* Mae'r cyfraddau hyn yn cynyddu oherwydd eu bod bellach yn cael eu disodli gan yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol.
Gan mai isafswm cyfraddau yw’r rhain, gall unrhyw godiadau cyflog blynyddol wedi'u cynllunio neu ddisgwyliedig ddigwydd o'r dyddiad hwn yn wirfoddol. Bydd cyfraddau Isafswm Cyflog Amaethyddol newydd yn cael eu hystyried cyn gynted ag y bydd yn bosibl gwneud hynny. Mae'n bosibl y gallai Gorchymyn Cyflogau yn y dyfodol ystyried taliadau ôl-ddyddiedig ar gyfer gweithwyr amaethyddol.
Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru unwaith y bydd Gorchymyn Cyflog newydd yn cael ei gymeradwyo.
