Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Ortho Clinical Diagnostics (Ortho) yn derbyn hyd at £960,000 o gyllid busnes gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn helpu i greu bron i 50 o swyddi newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y buddsoddiad yn helpu'r cwmni i gystadlu ar lwyfan y byd, drwy gynyddu'r gallu i gynhyrchu ar y safle ym Mhencoed.

Mae Ortho yn arwain y byd yn y maes diagnosteg in vitro, gan gyflenwi technolegau soffistigedig sy’n profi ar gyfer amrywiol afiechydon, cyflyrau a sylweddau, neu sy’n cael eu defnyddio i sicrhau bod pobl sy’n derbyn trallwysiadau gwaed yn cael gwaed priodol ac addas ar eu cyfer. Mae'r cwmni'n gwasanaethu ysbytai, banciau gwaed a labordai mewn dros 125 o wledydd a thiriogaethau.

Wrth i'r galw gan gwsmeriaid gynyddu, yn arbennig yn Tsieina, mae Ortho wedi ehangu'r gwaith cynhyrchu yn sylweddol ac yn bwriadu ychwanegu llinell gynhyrchu arall yn 2018 ac o bosib un arall eto erbyn 2020.

Mae sector Gwyddorau Bywyd Cymru, y mae Ortho yn rhan bwysig ohono, yn cynnwys tua 350 o gwmnïau sy'n cyflogi 11,000 o bobl. Sefydlodd Llywodraeth Cymru yr Hwb Gwyddorau Bywyd yn 2014 er mwyn cefnogi'r sector ac annog cydweithio rhwng prifysgolion, academyddion, cwmnïau preifat a buddsoddwyr.

Wrth siarad cyn ymweliad â'r cwmni, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

"Mae sector gwyddorau bywyd deinamig Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth - ac rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r cyllid hwn a fydd yn helpu i greu bron i 50 o swyddi newydd."

Dywedodd Paul Hales, Uwch Gyfarwyddwr gydag Ortho:

"Yma yn Ortho, ein bwriad yw gwella ac achub bywydau drwy ddiagnosteg. Mae sicrhau cyflenwad diogel a chyson o gynnyrch o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer hynny, ac rydym yn falch iawn o fedru ehangu ein gallu i gynhyrchu er mwyn diwallu'r galw cynyddol am ein cynnyrch.  Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru."