Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cadarnhau cyflwyniad Model Llysoedd sy’n Canolbwyntio ar Blant ledled Cymru a Lloegr.
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cadarnhau cyflwyniad Model Llysoedd sy’n Canolbwyntio ar Blant ledled Cymru a Lloegr, yn dilyn llwyddiant cryf y peilot Braenaru. Mae’r penderfyniad hwn yn garreg filltir bwysig wrth wella’r ffordd y mae’r system gyfiawnder teuluol yn cefnogi plant a theuluoedd.
Mae Cymru wedi chwarae rôl allweddol wrth siapio’r dull hwn, gyda llysoedd yma ymhlith y cyntaf yn y DU i fabwysiadu’r model. O ganlyniad i’r cyfranogiad cynnar ac eang hwn, mae pob llys teulu yng Nghymru eisoes yn gweithredu’r model sy’n Canolbwyntio ar Blant.
O fis Mawrth 2026, bydd yr enw Braenaru yn dod i ben. Bydd yr holl lysoedd Braenaru yn cael eu hadnabod o hyn ymlaen fel Llysoedd sy’n Canolbwyntio ar Blant, gan adlewyrchu nad peilot mohono bellach ond y ffordd genedlaethol newydd o weithio ar gyfer achosion gyfraith breifat sy’n ymwneud â phlant.
Mae’r Model sy’n Canolbwyntio ar Blant yn dod â’r llysoedd, Cafcass Cymru, awdurdodau lleol, arbenigwyr trais domestig a phartneriaid eraill at ei gilydd i sicrhau bod diogelwch, cyfranogiad a lles plant wrth galon pob achos. Mae tystiolaeth gynnar o ardaloedd gan gynnwys Cymru yn dangos gwneud penderfyniadau’n gyflymach, asesu risg cryfach a gwell cefnogaeth i blant a theuluoedd.
Fel rhan o’r cyflwyno cenedlaethol, mae Llywodraeth DU hefyd wedi cyhoeddi’r wyth ardal llys nesaf yn Lloegr a fydd yn mabwysiadu’r model yn ystod 2026–27. Rydym yn croesawu’r ehangu hwn a’r gydnabyddiaeth y mae’n ei rhoi i’r gwaith arloesol a gyflawnwyd yng Nghymru hyd yma. Mae’r symud at yr enw newydd, Llysoedd sy’n Canolbwyntio ar Blant, yn gam pwysig wrth sicrhau eglurder a chysondeb i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol ar draws y ddwy wlad.
Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid ledled Cymru i gefnogi gweithrediad y model a sicrhau bod lleisiau plant yn parhau i fod yn ganolog i wneud penderfyniadau.
