Neidio i'r prif gynnwys

Trosolwg ar gyfraith hawliau dynol sy’n ymwneud â Chymru a’r DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg o hawliau dynol

‘Hawliau dynol’ yw’r term a ddefnyddir i gyfeirio at hawliau a rhyddid sylfaenol penodol sydd mor bwysig fel eu bod wedi’u diogelu’n arbennig o dan y gyfraith. Y Confensiwn ar Ddiogelu Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol, neu’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, yw’r cytuniad rhyngwladol sy’n gwarchod hawliau dynol yn Ewrop. Roedd y Deyrnas Unedig gyda’r cyntaf i ymrwymo i’r Confensiwn pan ddaeth i rym ym 1953. Roedd unrhyw un a deimlai bod eraill wedi torri ei hawliau dynol o dan y Confensiwn yn gallu gwneud cais i Lys Hawliau Dynol Ewrop i gynnal ei hawliau.

Gweler y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ar on ehcr.coe.int.

Cafodd yr hawliau dynol hynny eu hymgorffori’n uniongyrchol yng nghyfraith y DU gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 (Deddf 1998). Drwy hynny mae pobl yn gallu mynnu eu hawliau dynol yn llysoedd y DU, yn hytrach na gorfod mynd gerbron Llys Hawliau Dynol Ewrop.

Gweler Deddf Hawliau Dynol 1998 ar wefan deddfwriaeth.gov.uk.

Mae’r DU wedi cytuno i’r mwyafrif, ond nid y cyfan, o’r hawliau dynol sydd wedi’u diogelu o dan y Confensiwn. Mae Deddf 1998 yn ymgorffori yng nghyfraith y DU dim ond yr hawliau hynny y mae’r DU wedi ymrwymo iddynt. Gelwir yr hawliau hyn yn ‘hawliau’r Confensiwn’. Cyfeirir atynt fel rheol yn ôl Erthygl berthnasol y Confensiwn, sef:

  • Yr hawl i fywyd (Erthygl 2)
  • Yr hawl i beidio â bod yn destun artaith, neu driniaeth neu gosb annynol neu ddiraddiol (Erthygl 3)
  • Yr hawl i beidio â chael eich cadw mewn caethwasiaeth neu gaethwasanaeth, neu i beidio â gorfod cyflawni llafur dan orfod neu orfodol (Erthygl 4)
  • Yr hawl i ryddid a diogelwch personol (Erthygl 5)
  • Yr hawl i gael treial teg, a chael eich tybio’n ddieuog hyd oni phrofir chi’n euog (Erthygl 6)
  • Yr hawl i beidio â chael eich cosbi ac eithrio yn unol â’r gyfraith droseddol (Erthygl 7)
  • Yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol (Erthygl 8)
  • Yr hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd (Erthygl 9)
  • Yr hawl i ryddid mynegiant (Erthygl 10)
  • Yr hawl i fod yn rhydd i ymgynnull yn heddychlon a bod yn rhydd i ymgysylltu ag eraill (Erthygl 11)
  • Yr hawl i briodi a sefydlu teulu (Erthygl 12)
  • Yr hawl i fod yn rhydd rhag gwahaniaethu o ran Hawliau’r Confensiwn ar unrhyw sail: mae hyn yn cynnwys rhyw, hil, lliw, iaith, crefydd, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, cysylltiad â lleiafrif cenedlaethol, eiddo, genedigaeth neu statws arall (Erthygl 14)
  • Yr hawl i feddu ar eiddo yn heddychlon (Erthygl 1, Protocol 1)
  • Yr hawl i addysg (Erthygl 2, Protocol 1)
  • Yr hawl i etholiadau rhydd (Erthygl 3, Protocol 1)
  • Yr hawl i beidio â chael cosb marwolaeth (Erthygl 1, Protocol 13)

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus barchu a diogelu’r hawliau hyn ym mhopeth a wnânt. Os byddant yn methu â gwneud hynny, gallant gael eu herio gan y llysoedd.

Mae’r mwyafrif o hawliau’r Confensiwn, o’u natur, yn perthyn i bobl yn unig. Ond nid yw hyn yn wir am bob un. Yn arbennig, mae’r hawl i feddu ar eiddo yn heddychlon yn berthnasol i bersonau naturiol (bodau dynol) a phersonau cyfreithiol (fel cwmnïau) fel ei gilydd.

Mae rhai o hawliau’r Confensiwn yn gwbl ddiamod (annhoradwy) – fel yr hawl i beidio â chael cosb marwolaeth. Gall hawliau eraill y Confensiwn gael eu trechu o dan amgylchiadau penodol. Er enghraifft, nid yw’r hawl i ryddid a diogelwch personol yn cael ei thorri pan fo rhywun wedi’i garcharu’n gyfreithlon am gyflawni trosedd. Hefyd, gall yr hawl i ryddid mynegiant fod yn destun cyfyngiadau er budd diogelwch gwladol neu ddiogelwch y cyhoedd.

Gall y DU ‘rhanddirymu’ rhai, ond nid y cyfan, o hawliau’r Confensiwn adeg rhyfel neu argyfwng cyhoeddus arall. Ystyr hynny yw eu datgymhwyso mewn amgylchiadau penodol. Nid oes rhanddirymiadau mewn grym ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae’r DU wedi defnyddio’r dull hwn yn y gorffennol i greu pwerau uwch o ran arestio a chadw’n gaeth y rhai sydd o dan amheuaeth o fod yn derfysgwyr. Fe wnaeth hynny mewn ymateb i’r sefyllfa o argyfwng ar ôl ymosodiad terfysgol 9/11 yn Efrog Newydd.

Mae Deddf 1998 yn sicrhau bod hawliau’r Confensiwn yn uniongyrchol gymwys a gorfodol yn y DU fel a ganlyn.

Rhaid i lys neu dribiwnlys sy’n penderfynu ar hawliau’r Confensiwn ystyried unrhyw benderfyniadau perthnasol gan Lys Hawliau Dynol Ewrop.

Cyhyd ag y bo modd, rhaid i ddeddfwriaeth y DU gael ei darllen a’i chymhwyso mewn ffordd sy’n gydnaws â hawliau’r Confensiwn. Os nad yw hyn yn bosibl, gall llys wneud datganiad anghydnawsedd. Yn dilyn datganiad o’r fath, gall unrhyw Weinidog y Goron wneud gorchymyn sy’n diwygio’r ddeddfwriaeth os yw’n ystyried bod rhesymau grymus. Diben hyn fyddai sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gydnaws â hawliau’r Confensiwn.

Mae’n anghyfreithlon i awdurdod cyhoeddus weithredu mewn ffordd sy’n anghydnaws â hawliau’r Confensiwn. Dyna’r sefyllfa oni bai bod geiriad y ddeddfwriaeth sylfaenol yn golygu na all weithredu’n wahanol, ac oni bai bod rhaid iddo weithredu felly er mwyn rhoi deddfwriaeth anghydnaws mewn grym.

Hawliau dynol yn y Gymru ôl-ddatganoledig

Mae unrhyw ddarpariaeth yn un o Ddeddfau neu Fesurau’r Senedd sy’n anghydnaws â hawliau’r Confensiwn y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Felly, byddai darpariaeth o’r fath yn annilys a heb rym. (Gweler adran 108A(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a’r cyfyngiad yn adran 108A(2)(e) o’r Ddeddf honno.)

Nid oes gan Weinidogion Cymru rym i wneud, cadarnhau na chymeradwyo unrhyw is-ddeddfwriaeth, neu i wneud unrhyw weithred arall, i’r graddau y mae’n anghydnaws â hawliau’r Confensiwn. (Gweler adran 81 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.) Felly, wrth arfer eu swyddogaethau, ni chaiff Gweinidogion Cymru dorri hawliau’r Confensiwn.

Offerynnau hawliau dynol rhyngwladol eraill

Mae’r Deyrnas Unedig wedi cadarnhau nifer o offerynnau hawliau dynol rhyngwladol eraill. Maent yn cynnwys:

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Artaith a Thriniaethau neu Gosbau Creulon, Annynol neu Ddiraddiol Eraill 
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

Yng Nghymru, cafodd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ei gynnwys fel rhan annatod o gyfraith ddatganoledig Cymru drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae’r Mesur hwn yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, wrth arfer eu swyddogaethau, roi sylw dyledus i’r canlynol:

  • gofynion Rhan 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
  • erthyglau 1 i 7 o’r Protocol Dewisol i’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ar dynnu plant i mewn i wrthdaro arfog, ac eithrio erthygl 6(2)
  • erthyglau 1 i 10 o’r Protocol Dewisol i’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ar werthu plant, puteindra plant a phornograffi plant

Ymhlith pethau eraill, mae hyn yn golygu bod rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r hawliau hyn wrth lunio’r Biliau y maent yn eu cyflwyno i’r Senedd. Rhaid iddynt wneud hynny hefyd wrth lunio is-ddeddfwriaeth.

Mae’r Senedd hefyd wedi gwneud darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol rhoi sylw dyledus i offerynnau hawliau dynol rhyngwladol mewn amgylchiadau penodol. Enghraifft yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (gweler adrannau 7 ac 8 o’r Ddeddf honno).