Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu i wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol. Yn ystod ein trafodaethau a’n sgyrsiau lu â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (pobl ethnig leiafrifol fel byrfodd) ac eraill, dywedwyd wrthym fod angen inni fabwysiadu dull gweithredu gwrth-hiliol.

Yn ystod 2020 a 2021, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft. Rydym bellach yn cyhoeddi’r cynllun terfynol, sy’n amlinellu’r hyn y byddwn yn ei wneud.

Rydym wedi cryfhau’r cynllun ac wedi’i ailenwi, sef “Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol” (y cynllun). Drwy ymgysylltu â chymunedau a dadansoddi’r ymatebion i’n hymgynghoriad, daeth yn amlwg bod angen dull gweithredu gwrth-hiliol.

Er mwyn mabwysiadu dull gweithredu gwrth-hiliol, mae angen inni ystyried sut mae hiliaeth yn rhan o’n polisïau, ein rheolau a’n rheoliadau ffurfiol ac anffurfiol, a’r ffyrdd rydym yn gweithio yn gyffredinol. Yn y cyflwyniad hwn, byddwn yn defnyddio’r term ‘polisïau’ i gyfleu hynny’n gryno, ac mae’r rhain fel arfer yn cael eu llunio gan y Llywodraeth ac yn effeithio ar fywydau pob un ohonom.

Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn mynd ati fel mater o flaenoriaeth i ystyried ei pholisïau ei hun ym mhob maes, gan gynnwys iechyd, addysg, cyflogaeth, tai a llawer mwy er mwyn sicrhau eu bod yn wrth-hiliol. Mae hyn yn gam uchelgeisiol.

Nod y ddogfen hon yw cyflwyno’r cynllun manwl a gyhoeddwyd gennym.

Ar y cerflun a godwyd yn ddiweddar yng Nghaerdydd o Betty Campbell, athrawes ac ymgyrchydd cymunedol, llawn gweledigaeth, ceir y geiriau:

“Roedden ni’n esiampl dda i weddill y byd o sut y gallwn gyd-fyw beth bynnag yw eich gwreiddiau neu liw eich croen.”

Yn anffodus, mae llawer o bobl, gan gynnwys llawer a anwyd yma, yn dal i wynebu hiliaeth. Felly, mae gweledigaeth Betty Campbell o Gymru sy’n dangos i’r byd sut mae cyd-fyw, yn nod y mae’n rhaid inni barhau i ymgyrraedd ato. Yn y cynllun hwn, rydym yn amlinellu ei huchelgais o’r newydd i sicrhau bod Cymru yn esiampl i eraill. Ond rydym hefyd yn cydnabod bod gennym lawer i’w wneud o hyd.

Rydym am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r genhedlaeth hon o bobl ethnig leiafrifol, yn ogystal â chenedlaethau’r dyfodol. Rydym am iddynt ffynnu, a pharhau i helpu i wneud Cymru yn genedl wyrddach, gryfach a thecach. Rydym am sicrhau bod Cymru yn genedl lle mae pawb yn ffynnu ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Yn y ddogfen hon, sy’n ategu’r cynllun manylach, rydym yn esbonio’r canlynol:

  • pam rydym yn gwneud y gwaith hwn
  • beth rydym am ei gyflawni erbyn 2030, a sut y byddwn yn gwneud hynny
  • beth yw hiliaeth, a beth yw gwrth-hiliaeth
  • sut mae gwrth-hiliaeth yn wahanol i ymdrechion blaenorol i fynd i’r afael â hiliaeth
  • beth sy’n wahanol am y cynllun hwn, ac enghreifftiau o’r camau rydym yn eu cymryd
  • sut y byddwn yn sicrhau nad yw’r cynllun hwn yn methu
  • beth yw’r her i bob un ohonom

Yn y cynllun manwl hwn rydym wedi gwrando ar yr hyn a ddywedwyd wrthym ac wedi sicrhau bod y camau gweithredu’n rhoi mwy o ffocws ar wrth-hiliaeth. Rydym yn benderfynol o wneud gwahaniaeth.

Mae pobl am weld camau gweithredu a newid, a hynny’n gwbl briodol. Dywedodd pawb wrthym nad oeddent am i gamau gweithredu gymryd blynyddoedd i’w cyflawni, neu fethu â gwella eu bywydau. Mae angen inni osgoi’r ‘bwlch gweithredu’, fel y’i gelwir yn aml.

Mae’r cynllun yn nodi gweledigaeth ar gyfer 2030. Gwyddom y bydd angen inni gymryd camau bob blwyddyn tan hynny. Mae’r fersiwn gyhoeddedig gyntaf hon o’r cynllun yn nodi’r hyn y byddwn yn ei wneud rhwng mis Mehefin 2022 a mis Mehefin 2024. Bwriadwn adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd ym mhob cyfnod o ddwy flynedd cyn inni ddatblygu gwaith ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.

Lluniwyd y cynllun ar y cyd ag ystod eang o gymunedau a sefydliadau ledled y wlad, gan gydnabod bod angen i’r nodau a’r camau gweithredu gael eu llunio ar y cyd â phobl ethnig leiafrifol. Gwnaethom sicrhau bod gwerthfawrogi profiadau bywyd pobl yn un o’r gwerthoedd allweddol sy’n sail i’r cynllun.

Rydym yn cydnabod nad oedd yr un term y gallem gytuno arno i ddisgrifio natur amrywiol grwpiau o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Roedd yr adborth a gafwyd gan bobl o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn gryfach; roeddent yn teimlo nad oedd y term yn berthnasol iddynt nac yn eu cynnwys o gwbl. Fodd bynnag, cytunwyd na ddylid defnyddio’r acronym ‘BAME’. Felly, rydym wedi penderfynu parhau i ddefnyddio’r term pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn llawn, a ‘pobl ethnig leiafrifol’ fel byrfodd.

Gall y termau hyn fod yn ddefnyddiol wrth drafod hiliaeth tuag at ran o gymdeithas. Fodd bynnag, yn y gweithle neu wrth ddarparu neu gael gwasanaeth, mae’n bwysig rhoi cyfle i bobl fynegi eu hunaniaeth yn y ffordd a ddewisant.

Rydym am gydnabod a diolch i’r bobl ethnig leiafrifol hynny a gyfrannodd yn hael at y gwaith o lunio’r cynllun hwn drwy rannu eu harweinyddiaeth a’u profiadau bywyd. Dim ond drwy gydnabod eu gwaith, eu poen a’u profiadau bywyd y gallwn symud ymlaen.

Anelir y ddogfen hon at y rhai sy’n wynebu neu’n gweld hiliaeth. Rydym yn cynnwys y rhai â threftadaeth gymysg neu “hil gymysg”, fel y dymuna rhai gael eu hadnabod. Erbyn hyn, mae pobl â threftadaeth gymysg yn un o’n grwpiau mwyaf yn y boblogaeth. Nid ydynt yn wynebu llai o hiliaeth na phobl ethnig leiafrifol eraill. Maent hefyd yn rhan o’n cenhedlaeth nesaf o bobl ifanc a fydd yn cydweithio â ni ac yn ein helpu i lywio’r gwaith hwn.

Rydym hefyd yn anelu’r cynllun hwn at sefydliadau, arweinwyr a phobl â grym. Mae pobl mewn rolau arwain yn aml yn perthyn i gymunedau mwyafrifol gwyn; pobl sydd, ers degawdau, wedi meddu ar yr awdurdod i wneud polisïau (cyfreithiau ysgrifenedig, rheolau, prosesau, rheoliadau, ac ati). Yn gyffredinol, nid yw’r polisïau hyn wedi rhoi digon o sylw i’r effaith andwyol y gallant ei chael ar bobl ethnig leiafrifol, gan arwain at anghyfiawnder hanesyddol.

Yn wir, dros amser, mae canfyddiadau negyddol o bobl ethnig leiafrifol wedi dod yn rhan mor annatod o’r ffyrdd hyn o weithio nes eu bod yn anodd eu hadnabod a’u gwrthdroi heb flaengaredd ac ymdrech benodol.

Drwy gyhoeddi’r cynllun hwn, rydym yn cydnabod mai prin yw’r sefydliadau sy’n cynnwys niferoedd sylweddol o bobl ethnig leiafrifol mewn rolau arwain. Rhaid i gymaint o’r cyfrifoldeb i newid meddylfryd, gan fynd i’r afael â’r hiliaeth sydd wedi ymwreiddio mewn strwythurau a systemau, gael ei ysgwyddo gan bobl Wyn.

Byddwn yn dibynnu ar y sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector a ariannwn i fod yn gynghreiriaid allweddol yn y gwaith hwn.

Byddwn yn gofyn iddynt roi’r cynllun ar waith ag arweinyddiaeth, ymrwymiad a brwdfrydedd.

Yn wir, fel y dywedwyd yn aml:

“…seize the time” and “if you are not part of the solution, you are part of the problem.”

(Black Panthers, dyfynwyd yn y 1960au).

Pam rydym yn mabwysiadu dull gweithredu gwahanol?

Yn y cynllun drafft, esboniwyd ein bod am lunio math gwahanol o gynllun:

  • un a oedd yn seiliedig ar brofiadau bywyd cymunedau ethnig lleiafrifol
  • un a oedd wedi’i ddylunio’n rhannol ganddyn nhw
  • un a oedd yn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol hiliaeth, o ran y ffordd rydym yn arwain, yn rheoli ac yn gweithio gydag eraill i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Soniodd pobl ethnig leiafrifol wrthym am yr anawsterau sy’n gysylltiedig â herio ymddygiad hiliol, gan nodi eu bod yn teimlo’n ddiymadferth ac yn rhwystredig oherwydd diffyg arweiniad, cymorth a’r sianeli priodol i unioni cam.

Teimlai llawer fod diffyg tryloywder ynghylch cwynion am hiliaeth a gwahaniaethu yn cyfrannu at ddiwylliant hiliol mewn rhai gwasanaethau cyhoeddus. Teimlent fod angen i’r camau a gymerwn adlewyrchu blaenoriaethau a phrofiadau go iawn pobl.

Roeddent yn pryderu nad oedd deddfwriaeth sy’n bodoli eisoes, er enghraifft Deddf Cydraddoldeb 2010 na phwerau eraill yn ddigonol neu nad oeddent yn cael eu defnyddio’n gywir i ddwyn y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus i gyfrif.

Er eu bod yn croesawu’r uchelgais yn y cynllun drafft, teimlai llawer ei fod yn cynnwys gormod o nodau a chamau gweithredu. Hefyd, nid oedd yn nodi erbyn pryd y byddai pethau’n cael eu cyflawni, na pha effaith y byddent yn ei chael. Roedd pobl yn pryderu y byddai ymrwymiadau, ymhen amser, yn gwanhau neu na fyddent yn cael eu cyflawni. Teimlai eraill fod gormod o jargon a thermau polisi.

Rydym wedi ymateb drwy sicrhau bod y cynllun terfynol yn symlach, yn fwy penodol, ac yn gliriach. Bydd grŵp o arbenigwyr allanol annibynnol a phobl o gymunedau ethnig lleiafrifol bellach yn ein dwyn i gyfrif.

Bydd y cynllun manwl yn cynnwys ein hymateb llawn i’r adborth gan bobl. Byddwn yn canolbwyntio ar y camau gweithredu sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf cadarnhaol i fywydau pobl. Ni fyddwn yn ceisio ‘unioni problem’ pobl ethnig leiafrifol. Yn lle hynny, byddwn yn newid y systemau, y polisïau, y prosesau a’r ffyrdd o weithio sydd, yn rhy aml, wedi methu â chynnwys pobl ethnig leiafrifol ac, yn waeth na hynny, sydd wedi eu niweidio.

Drwy gynnwys pobl mewn ffordd wahanol, cafwyd gwell dealltwriaeth o’r effaith y byddai ein cynllun drafft yn ei chael ar bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Roedd hyn o gymorth i ni edrych ar yr effeithiau mewn ffordd integredig a byddwn yn parhau i asesu’r effaith drwy Asesiadau Effaith Integredig.

Beth rydym am ei gyflawni erbyn 2030, a sut y byddwn yn gwneud hynny?

Y weledigaeth

Lluniwyd datganiad o’r hyn yr hoffem ei gyflawni erbyn 2030. Bydd hwn yn ein helpu i sicrhau ein bod i gyd ar yr un trywydd, ac yn anelu at gyflawni’r un nod. Rydym i gyd yn gytûn ynghylch pwysigrwydd sicrhau newid hirdymor cynaliadwy, gan ddechrau nawr.

Yn eu hymatebion i’r ymgynghoriad, roedd pobl yn fodlon ar y cyfan ar y Weledigaeth a awgrymwyd, sef creu ‘Cymru sy’n wrth-hiliol’.

Ond rydym yn cytuno â’r rhai a ddywedodd fod yr wyth neu naw mlynedd nesaf yn gyfnod byr iawn i wrthdroi degawdau o hiliaeth, felly mae’r weledigaeth yn un hirdymor, hyd at 2030 a thu hwnt. Bydd yn helpu pob un ohonom i ganolbwyntio ar yr hyn rydym am ei gyflawni. Byddai’n naïf meddwl y gallwn ddileu hiliaeth yn gyfan gwbl yng Nghymru; ond gallwn ddechrau creu diwylliant dim goddefgarwch tuag at hiliaeth a newid ein systemau a’n sefydliadau i fynd ati i ddileu hiliaeth.

Y ‘diben’

Diben y gwaith hwn, neu’r rheswm dros ei wneud, yw sicrhau newid mesuradwy i fywydau pobl ethnig leiafrifol drwy fynd i’r afael â hiliaeth.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, rydym wedi sicrhau nad rhywbeth i Lywodraeth Cymru yn unig yw’r cynllun hwn. Mae’n rhywbeth i bob gwasanaeth cyhoeddus, a sector arall ym mha le bynnag y gallwn ddylanwadu arnynt. Felly, mae’n rhaid iddo fod yn ymdrech ar y cyd, gan y sefydliadau rydym yn eu hariannu neu y gallwn ddylanwadu arnynt, i wneud gwahaniaeth ystyrlon “ar y cyd” i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol drwy fynd i’r afael â hiliaeth.

Byddwn yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am olrhain a yw’r camau gweithredu yn y cynllun yn cael eu rhoi ar waith ym mhob sector, a sut. Byddwn yn gofyn am dystiolaeth o gynnydd. Os na allwn gyflawni’r camau gweithredu a addawyd, byddwn yn esbonio pam y gwnaethom fethu.

Y gwerthoedd

Image removed.Roeddech hefyd yn fodlon ar y tri gwerth a ddatblygwyd ar gyfer y cynllun drafft, sef:

  • agored a thryloyw
  • seiliedig ar hawliau
  • rhoi profiad bywyd wrth wraidd popeth a wnawn

Beth yw hiliaeth, a beth yw dull gweithredu gwrth-hiliol?

Rydym wedi datblygu gweledigaeth sy’n ymwneud â gwrth-hiliaeth. Yma, rydym yn esbonio beth mae hynny’n ei olygu, a sut mae’n wahanol i ddulliau gweithredu blaenorol.

Mae llawer o genedlaethau o bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ac eraill nad ydynt bob amser yn cael eu hystyried yn bobl ethnig leiafrifol, fel pobl o gymunedau Sipsiwn Romani, Teithwyr Gwyddelig a Roma, pobl Iddewig a rhieni a phlant â threftadaeth gymysg, wedi wynebu hiliaeth yn eu bywydau pob dydd.

Mae hiliaeth i’w gweld bob dydd yn y cyfryngau. Fodd bynnag, mae llai o sôn amdani mewn sgyrsiau pob dydd heblaw, wrth gwrs, ymhlith pobl ethnig leiafrifol. Nhw sy’n dioddef llai o gyfleoedd mewn bywyd a chyfleoedd cyflogaeth, microymosodiadau wrth gael gwasanaethau, a gwahaniaethu mewn ysgolion a sefydliadau addysgol eraill.

Dywed y rhan fwyaf o bobl ethnig leiafrifol mai’r cyfan y maent ei eisiau yw gwasanaethau teg a chael eu trin yr un fath â dinasyddion eraill, ond nid felly y mae yn aml. Er enghraifft, gall yr heddlu symud eu cartrefi symudol o fannau aros traddodiadol lle maent wedi parcio eu carafannau. Gallant gael eu stopio a’u chwilio’n rheolaidd, dim ond am eu bod yn ddynion ifanc Affricanaidd-Caribïaidd. Neu gall eu plant wynebu ymddygiad hiliol mewn ysgolion.

Mae pobl ethnig leiafrifol wedi hen arfer â byw gyda realiti hiliaeth. Mae llawer o sefydliadau ethnig lleiafrifol ymrwymedig, yn y trydydd sector yn arbennig, wedi bod yn galw am newid ers tro. Ond yn sgil llofruddiaeth George Floyd ac effaith gynyddol COVID-19 ar grwpiau ethnig lleiafrifol, daeth hiliaeth yn rhan o’r sgwrs ym mhob cartref, swyddfa a sefydliad. Fel cenedl, rydym wedi dechrau cael trafodaethau anodd, am y ffordd rydym yn diffinio ein hanes, yr hyn rydym yn ei wneud am henebion sy’n dathlu caethwasiaeth, a’r hyn y dylem ei addysgu i’r genhedlaeth nesaf, a sut. Mae’r digwyddiadau hyn wedi annog pobl o bob cymuned i leisio eu barn am yr enghreifftiau hyn o anghyfiawnder, a rhai blaenorol.

Fel cymdeithas, rydym wedi dechrau trafod grym, ‘braint pobl Wyn’ ac, yn fwy diweddar, bod yn ‘gynghreiriad’ neu’n ‘dramgwyddwr’. Rydym yn dechrau trafod pwy sy’n gyfrifol am newid, a’r angen i bobl sydd â grym a dylanwad weithredu nawr.

Mae hiliaeth yn tarfu ar y rhan fwyaf o bobl. Ond y bobl hynny sy’n arwain, ac sydd â grym, sydd â’r cyfrifoldeb mwyaf i wneud rhywbeth yn ei gylch. Rydym yn cytuno bod angen inni wneud rhywbeth gwahanol, oherwydd nid yw gwneud yr un peth ag o’r blaen yn debygol o sicrhau canlyniad gwahanol.

Ers sawl degawd, mae pobl wedi ceisio canfod sut y gallwn fynd i’r afael â hiliaeth a’i heffaith, a hyd yn oed ei hatal. Yn ystod degawdau cynnar y frwydr yn erbyn hiliaeth, y gred gyffredin oedd y gellid dileu hiliaeth pe bai pob person ethnig lleiafrifol yn “integreiddio” â chymdeithas brif ffrwd, h.y. yn dod yn fwy gorllewinol, yn dysgu’r brif iaith (ac yn colli ei ddiwylliant, ei acen a’i iaith) ac yn ymddwyn yn debycach i’r mwyafrif. Fodd bynnag, nid arweiniodd hyn at agweddau mwy cadarnhaol tuag at bobl ethnig leiafrifol. Roeddent yn dal i wynebu canlyniadau gwaeth.

Gwelwyd wedyn yr hyn a elwid yn gyffredin yn “amlddiwylliannaeth”. Y gred oedd y byddai problem hiliaeth yn diflannu pe bai lleiafrifoedd ethnig yn rhannu eu diwylliannau a’u traddodiadau, a phe bai’r gymdeithas brif ffrwd yn gwneud yr un peth. Cafodd y dull hwn o rannu’r hyn a elwir yn aml yn “saris, samosas a drymiau dur” ei ystumio, a gwelwyd mai pobl ethnig leiafrifol yn bennaf oedd yn rhannu eu diwylliannau, er mwyn plesio a chael eu cynnwys mewn fforymau gwneud penderfyniadau. Unwaith eto, ni fu’r dull hwn o roi terfyn ar hiliaeth yn llwyddiannus!

Bu’r dull mwyaf diweddar o sicrhau “cydraddoldeb hil” yn fwy llwyddiannus, gan ei fod yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Ond unwaith eto, cyfyngedig fu ei effaith. Y ddadl oedd y byddai rhoi cyfle cyfartal i bobl ethnig leiafrifol a grwpiau gwarchodedig eraill gyflawni’r hyn y gallai pobl yn y gymdeithas brif ffrwd ei gyflawni, yn “cydraddoli” y ras i ymuno a llwyddo.

Er enghraifft, gallai pobl ethnig leiafrifol fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi a datblygu fel rhan o’r camau gweithredu cadarnhaol a ganiatawyd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Fodd bynnag, roedd y rhai a oedd yn llwyddo drwy gael rhyw fath o gyfle cyfartal i ymuno â sefydliadau, yn aml yn methu yn fuan wedi hynny. Nid oedd y polisïau, er enghraifft ar gyfer camu ymlaen, mentora, nawdd a’r angen i gael rhwydweithiau anffurfiol, yn ystyried pobl ethnig leiafrifol, ac felly roeddent yn gwahaniaethu yn eu herbyn.

Ffocws pob un o’r tri dull gweithredu oedd sut y gellid “unioni problem” pobl ethnig leiafrifol. Nid oedd dim un ohonynt yn ystyried yr anghydbwysedd grym hanesyddol rhwng cymunedau Gwyn ac ethnig lleiafrifol. At hynny, nid oeddent yn ystyried sut mae hiliaeth wedi’i hymgorffori ym mholisïau, prosesau ac arferion gweithio sefydliadau, er mwyn sicrhau bod y mwyafrif (Gwyn) yn cadw grym a dylanwad. Mae etifeddiaeth hiliaeth yn parhau.

Mae dull gweithredu arall, “amrywiaeth a chynhwysiant” wedi methu hefyd. Nid oedd y ffocws hwn ar gynnwys pobl o gefndiroedd gwahanol, fel menywod, LHDTC+ a phobl anabl er enghraifft, mewn trafodaethau ac wrth rannu barn, a thrwy hynny roi lle iddynt “o amgylch y bwrdd” yn ystyried anghydbwysedd grym ychwaith. Prin oedd gwerth eu cyfranogiad a chawsant eu siomi gan ganlyniadau eu cyfraniadau a’u hymdrechion. Er eu bod wedi’u cynnwys, nid oedd ganddynt yr awdurdod i gyflawni newidiadau gwirioneddol; y mwyafrif oedd â’r grym o hyd. Parhaodd y mwyafrif hwn, sef pobl Wyn mewn rolau arwain yn bennaf, i wneud polisïau a phenderfyniadau nad oeddent yn ystyried anghenion na buddiannau pobl ethnig leiafrifol.

Mae gwrth-hiliaeth yn ymwneud â newid systemau, polisïau a phrosesau sydd wedi cynnwys agwedd negyddol at bobl ethnig leiafrifol. Dim ond drwy ddull gweithredu gwrth-hiliol y gellir mynd i’r afael â’r rhagfarnau negyddol hyn. Nid ‘unioni problem’ pobl ethnig leiafrifol, fel unigolion neu grwpiau, yw’r ateb.

Yn aml, y systemau ar gyfer camu ymlaen, ac ar gyfer dewis pwy a gaiff ei fentora, ei hyfforddi neu ei noddi, sy’n gwneud cam â phobl. Wrth ddarparu

gwasanaethau, y dull gweithredu lliwddall sydd, yn aml, yn gweithio yn erbyn pobl ethnig leiafrifol.

Yn aml, tybir mai ‘darparu’r un peth i bawb’ fydd y gwasanaeth mwyaf priodol. Ond mewn gwirionedd, drwy ystyried gwahaniaethau pobl (e.e. iaith, anghenion deietegol, gwisg, ac ati) y ceir gwasanaeth mwy sensitif, hygyrch ac effeithiol. Yn aml mae’r dull gweithredu lliwddall yn golygu bod pobl ethnig leiafrifol yn ei chael hi’n anodd cael swyddi, camu ymlaen, neu gael gwasanaethau sy’n addas i’w hanghenion.

I ni, mae gwrth-hiliaeth yn ymwneud â mynd ati’n rhagweithiol i nodi a dileu polisïau, systemau, strwythurau a phrosesau sy’n arwain at ganlyniadau gwahanol iawn i grwpiau ethnig lleiafrifol.

Mae’n golygu bod angen inni gydnabod, hyd yn oed os na chredwn ein bod yn ‘hiliol’, drwy anwybyddu hiliaeth, y gallwn ganiatáu iddi barhau.

Gwyddom y gall stereoteipiau negyddol am bobl ethnig leiafrifol ddechrau mor gynnar â phedair oed. Felly, hyd yn oed yn ddiarwybod, gallwn gael ein cyflyru i arddel stereoteipiau negyddol. A phan fydd pobl mewn swyddi dylanwadol, gall y stereoteipiau hyn gael effaith fawr ar y penderfyniadau y byddant yn eu gwneud, ac felly ar bobl ethnig leiafrifol.

Drwy fabwysiadu dull gweithredu gwrth-hiliol, rydym yn dewis cymryd camau gweithredu radical, yn hytrach na’r ‘camau bach’ a gymerwyd yn y gorffennol. Wrth gwrs, bydd yr union gamau gweithredu a gymerir yn amrywio rhwng meysydd polisi gwahanol, ac mae hyn wedi’i adlewyrchu yn y cynllun.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn ymrwymo i wneud rhywbeth gwahanol ynghylch hiliaeth ym mhob un o’r meysydd y mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth neu ddylanwad drostynt.

Cyn cyhoeddi’r cynllun hwn, roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi derbyn argymhellion grŵp cynghori’r Prif Weinidog ar effaith anghymesur COVID-19 ar leiafrifoedd ethnig. Daeth adroddiad yr Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol i’r casgliad fod hiliaeth systemig a diwylliannol wedi chwarae rôl allweddol yn effeithiau anghymesur COVID-19.

Hefyd, derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion yr Athro Charlotte Williams ynghylch yr angen i gynnwys hanes caethwasiaeth a threfedigaethedd yn y cwricwlwm i ysgolion, a’u rhoi ar waith. Roedd y Prif Weinidog hefyd wedi comisiynu Gaynor Legall i arwain adolygiad o enwau strydoedd a henebion sy’n gysylltiedig â chaethwasiaeth a threfedigaethedd, er mwyn gweld beth y gellid ei wneud i ailgydbwyso, esbonio a dehongli’r hyn a oedd y tu ôl i’r enwau, y cerfluniau a’r marciau hynny mewn gwirionedd.

Bydd hyn yn sicrhau y bydd y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol yn dysgu am ein hanes i gyd. Wrth dderbyn yr argymhellion hyn, rydym yn cydnabod bod hiliaeth sefydliadol yn bodoli, a bod yn rhaid inni wneud rhywbeth gwahanol i’w dileu.

Fodd bynnag, rhaid inni fod yn wyliadwrus, ac yn effro i natur ddinistriol hiliaeth. Gall hiliaeth newid dros amser. Yn y gorffennol, roedd yn aml yn cael ei mynegi mewn ffyrdd amlwg ac agored. Erbyn hyn, mae’n aml yn fwy cynnil. Ond nid yw hynny’n golygu ei bod yn cael effaith lai ar fywydau pobl.

Felly, beth sy’n wahanol am y cynllun hwn?

Wrth ail-lunio’r cynllun hwn, rydym wedi ceisio nodi’r hyn y byddwn yn ei wneud mewn ffordd symlach.

Rydym wedi gwneud ymdrechion cadarnhaol i gynnwys profiadau bywyd ac arbenigedd arbenigwyr â chi i lunio pob cam. Mae hyn wedi bod yn ffordd ddefnyddiol iawn o’n dwyn ein hunain i gyfrif. Byddwn yn parhau i gydweithio â chi wrth inni roi’r cynllun ar waith, ac wrth nodi’r camau nesaf ar ôl mis Mehefin 2024.

Rydym hefyd wedi ystyried sut y gall sawl anfantais, er enghraifft drwy hil a rhywedd, neu hil ac anabledd, waethygu anfantais a gwahaniaethu. Er enghraifft, gall hiliaeth gael mwy o effaith ar fenywod wrth gael gwasanaethau iechyd. Un enghraifft yw gwasanaethau mamolaeth, lle gwyddom y gall gwasanaethau amhriodol arwain at ganlyniadau gwaeth nid yn unig i famau ethnig lleiafrifol, ond hefyd i’w plant.

O ran y Nodau a’r camau gweithredu yn y cynllun, y prif newid yw ein bod bellach wedi dewis canolbwyntio ar chwe maes lle mae hiliaeth yn effeithio ar bobl ethnig leiafrifol, a lle rydym am wneud gwahaniaeth mesuradwy. Maent wedi’u rhestru isod.

Fodd bynnag, rydym am ddechrau drwy gydnabod cryfderau pobl ethnig leiafrifol, o ran arwain, a goroesi hiliaeth. O genhedlaeth Windrush, i wydnwch y ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd ein glannau dros y blynyddoedd a hyd heddiw, gwyddom fod pobl wedi goroesi cryn galedi a thrawma.

Rydym am adeiladu ar gryfderau, arweinyddiaeth a gwydnwch aruthrol pobl ethnig leiafrifol. Rydym yn ymrwymo i gefnogi sefydliadau ethnig lleiafrifol sy’n galluogi ac yn grymuso pobl i oroesi a ffynnu. Rydym hefyd yn ymrwymo i ddatblygu’r arweinyddiaeth sylweddol mewn cymunedau ethnig lleiafrifol, ar bob lefel. Byddwn yn ymgysylltu â’r arweinwyr hyn yn rheolaidd wrth inni fwrw ymlaen â’r gwaith hwn a gwaith arall. Mae rhai camau uniongyrchol y mae angen inni eu cymryd nawr, yn enwedig o ystyried yr argyfwng costau byw a’r effaith amghymesur debygol ar weithwyr a phobl ethnig leiafrifol.

Rydym hefyd yn gwerthfawrogi cefnogaeth a chyfraniad yr Unedau Llafur a TUC Cymru. Rydym hefyd yn canmol sefydliadau fel Cymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd yng Nghymru ac, yn fwy diweddar, Cymdeithas Cymru ar gyfer Meddygon o Dras Affricanaidd a Charibïaidd, sy’n denu meddygon a nyrsys y mae dirfawr eu hangen o dde-ddwyrain Asia ac Affrica, yn y drefn honno.

Mae’r mudiad Ethnic Minority Women in Welsh Healthcare a llawer o fentrau mentora a datblygu eraill hefyd yn grymuso ac yn cefnogi darpar arweinwyr sy’n dod i Gymru neu sy’n codi ymhlith y gweithluoedd sy’n bodoli eisoes yng Nghymru, ac yn cynnig cymorth parhaus. Ni fyddai llawer o’n gwasanaethau allweddol, fel ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn bosibl heb y bobl ethnig leiafrifol sy’n gweithio ynddynt.

Mae ein hymdrech ddiweddar i gartrefu ffoaduriaid o Affganistan a phobl o Wcráin yn dangos sut y gall y Llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus, y sector preifat a dinasyddion cyffredin gamu i’r adwy i ddiwallu anghenion pobl mewn argyfwng ar ôl iddynt gyrraedd yma. Rydym yn genedl noddfa, a dylem barhau felly.

Fel y nodwyd uchod, er mwyn llywio ein gwaith, rydym wedi dewis canolbwyntio ar chwe ffordd y gall pobl wynebu hiliaeth.

Set:

  1. Eich profiad o hiliaeth mewn bywyd pob dydd.
  2. Eich profiad o hiliaeth wrth ddefnyddio gwasanaethau.
  3. Eich profiad o hiliaeth wrth fod yn rhan o’r gweithle.
  4. Eich profiad o hiliaeth wrth gael swyddi a chyfleoedd.
  5. Eich profiad o hiliaeth pan nad oes gennych fodelau rôl gweladwy mewn swyddi dylanwadol.
  6. Eich profiad o hiliaeth fel ffoadur neu geisiwr lloches.

1. Eich profiad o hiliaeth mewn bywyd pob dydd

Yn ystod sawl un o’r trafodaethau â chymunedau ethnig lleiafrifol, clywsom eich bod wedi wynebu hiliaeth gan ddieithriaid ac, yn waeth na hynny, gan y rhai a ddylai fod yn gofalu amdanoch ac yn eich cefnogi, yn ystod eich bywyd pob dydd.

Dyma ddwy enghraifft o’r hyn a ddywedwyd:

“Un tro, roeddwn i ar y bws … roeddwn i’n edrych i lawr ar fy ffôn a sylwais i ddim arno (hen ddyn) ... Dywedodd menyw wrtha i am godi a gadael iddo eistedd. Yna dechreuodd ddweud – “Mae’r bobl yma mor anghwrtais ... does gan y mewnfudwyr yma ddim cwrteisi ... mi fentra i does gennych chi ddim pasbort hyd yn oed ... does gennych chi ddim cwrteisi. Yna dechreuodd y fenyw ladd ar Fwslemiaid. Roeddwn i am amddiffyn fy hun, ond doedd mam ddim am greu helynt. Dywedodd neb arall ddim byd, arhosodd pawb yn dawel.”

Women Connect First, Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat a Sefydliad Henna

"Na, dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw adroddiadau da yn y papurau newydd ar wahân i’r rhai am sêr y byd chwaraeon. Rydyn ni bob amser yn cael ein portreadu fel pobl ddrwg, ond dydyn ni ddim” a “Rwy’n cadw oddi ar Facebook a gwefannau eraill oherwydd cyn gynted ag y byddwch chi’n clywed am Deithwyr eraill, bydd Facebook yn llawn o negeseuon hiliol.”

Travelling Ahead (TGP Cymru)

Mae hiliaeth mewn bywyd pob dydd yn rhywbeth cyfarwydd. Er enghraifft, gwyddom fod pobl sy’n ystyried eu hunain yn Ddu neu’n Ddu Prydeinig yn fwy tebygol o gael eu stopio a’u chwilio na phobl o grŵp ethnig Gwyn (yn seiliedig ar ethnigrwydd wedi’i hunangofnodi). Mae’r cynllun manwl yn cynnwys manylion llawn yr ystadegau hyn ac ystadegau eraill.

Cawsom hefyd ein herio, a hynny’n gwbl briodol, am ddiffyg eglurder a gwelededd yn y cynllun drafft ynghylch achosion o hiliaeth yn erbyn pobl Iddewig a phobl Islamaidd. Rydym am bwysleisio ein bod yn cynnwys y grwpiau hyn, a’r hiliaeth a wynebir ganddynt, wrth fynd i’r afael â hiliaeth.

Mae pobl o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr hefyd yn cael eu gwthio i ymylon cymdeithas ac yn wynebu hiliaeth. Cyfyngir ar eu dewisiadau mewn bywyd a gwrthodir llety diwylliannol briodol iddynt.

Yn y cynllun manwl llawn, rydym yn ymrwymo i amrywiaeth eang o gamau gweithredu ym meysydd Iechyd, Addysg, Gofal Cymdeithasol ac ati. Ond dyma ddwy enghraifft o’r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd:

Gweithred 1

Byddwn yn cymryd nifer o gamau i fynd i’r afael â hiliaeth drwy feithrin cymunedau cydlynol ac integredig. Er enghraifft, byddwn yn mynd i’r afael ag Islamoffobia drwy wneud y canlynol:

  • gweithio gyda grwpiau ffydd, arweinwyr cymunedol a phartneriaid ym maes cydraddoldeb i ystyried mabwysiadu diffiniad o Islamoffobia
  • prif ffrydio’r gwaith o fynd i’r afael ag Islamoffobia yn ein hyfforddiant ar wrth-hiliaeth a’n prosesau llunio polisi
  • sicrhau bod ymgyrch ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’ yn tynnu sylw at y niwed a achosir gan gasineb a chulni crefyddol

Gweithred 2

Er mwyn cydnabod bod angen llety diogel a diwylliannol briodol ar unigolion er mwyn iddynt ffynnu mewn rhannau eraill o’u bywydau, ac er mwyn mynd i’r afael â’r prinder safleoedd a’r llety o ansawdd gwael sydd ar gael i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru, bydd Llywodraeth Cymru, ymhlith pethau eraill, yn gwneud y canlynol:

  • comisiynu rhaglen beilot tair blynedd i ddarparu cyngor annibynnol dibynadwy i’r rhai sy’n awyddus i ddatblygu safleoedd preifat
  • adolygu’r polisi cyllido presennol ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr ac asesu ei effeithiolrwydd
  • ailddrafftio’r Canllawiau ar Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr er mwyn sicrhau y caiff anghenion cymunedau o ran dyluniad a lleoliad eu hadlewyrchu’n well ynddynt

2. Eich profiad o hiliaeth wrth ddefnyddio gwasanaethau

Clywsom hefyd nad yw pobl ethnig leiafrifol yn aml yn cael gwasanaeth priodol na sensitif wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd, cymdeithasol, addysg neu wasanaethau eraill y mae ganddynt yr hawl i’w cael. Maent yn aml yn teimlo na allant gwyno, neu’n teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu os byddant yn gwneud hynny! Mae’r profiad yn arbennig o anodd i fenywod a phlant ethnig lleiafrifol, ac i bobl o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr.

Dyma ddwy enghraifft o’r hyn a ddywedwyd wrthym:

“Cefais brofiad trawmatig iawn wrth roi genedigaeth, a bu bron i mi golli fy ail fab gan ei fod wedi stopio anadlu – pan ddywedais wrth y fydwraig, dywedodd hi wrtha i am beidio â phoeni a’i fod “yn lliw hyfryd” ac eto, doedd e’ ddim yn anadlu. Heblaw fy mod wedi dadlau drosto ac yn gwbl effro, fyddai e’ ddim yma heddiw. Dim ond crafu’r wyneb yw hyn.”

Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil Gogledd Cymru

“Roeddwn i’n blentyn hyderus yn mynd i mewn, ond pan ddes i allan, roedd holl waith fy rhieni wedi cael ei ddadwneud. Cymerais seibiant hir wedi hynny.”

Women Connect First, Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat a Sefydliad Henna

Drwy ein camau gweithredu ym maes iechyd, byddwn yn mynd i’r afael â llawer o’r anghydraddoldebau a wynebir o ran y gwasanaethau a ddarperir, y profiad o weithio yn y sector Iechyd a’r gwelliannau i lesiant sydd eu hangen yn fawr ar bob un ohonom i ffynnu a chadw’n iach. Isod ceir enghraifft o’r hyn y byddwn yn ei wneud mewn perthynas â phrofiadau negyddol iawn llawer o fenywod a babanod ethnig lleiafrifol.

Ym maes Addysg, clywsom fod llawer o fyfyrwyr a’r rhai sy’n cefnogi plant ac oedolion ifanc ethnic lleiafrifol, ar bob lefel o addysg (ysgolion, addysg bellach ac addysg uwch) yn wynebu hiliaeth o ran y ffordd y cânt eu trin a’r ffordd y caiff eu cynnydd academaidd ei asesu. Er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn, rydym wedi nodi nifer o gamau gweithredu yn y cynllun diwygiedig.

Yn y cynllun manwl llawn, rydym yn ymrwymo i amrywiaeth eang o gamau gweithredu ym meysydd Iechyd, Addysg, Gofal Cymdeithasol a meysydd gwasanaeth eraill. Isod rydym yn rhannu dwy enghraifft o’r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd:

Gweithred 1

Er mwyn nodi a chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol rhag cael mynediad teg i wasanaethau gofal iechyd, erbyn 2030, byddwn yn gwneud y canlynol.

Sicrhau y bydd y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol, wedi’i dylunio a’i datblygu ar y cyd â chymunedau ethnig lleiafrifol a rhanddeiliaid, yn manylu ar newidiadau penodol i wasanaethau mamolaeth a fydd yn gwella canlyniadau a phrofiadau menywod a theuluoedd o gymunedau ethnig lleiafrifol sy’n wynebu anghydraddoldebau iechyd, ac yn eu rhoi ar waith.

Gweithred 2

Er mwyn gwella profiadau dysgwyr ac athrawon Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn ysgolion, byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i ddigwyddiadau hiliol ac achosion o aflonyddu mewn ysgolion a cholegau gael eu cofnodi drwy’r canlynol:

  • prosesau casglu data cryfach
  • dadansoddi sut yr ymdriniwyd â digwyddiadau/ y camau a gymerwyd
  • nodi/cofnodi a fu datrysiad llwyddiannus i’r dioddefwr

3. Eich profiad o fod yn rhan o’r gweithle

Er bod nifer mawr o bobl ethnig leiafrifol yn ein gweithluoedd, mae llawer ohonoch wedi cael eich cam-drin yn hiliol yn eich bywydau proffesiynol. Gall hyn gynnwys hiliaeth gan gleientiaid neu gwsmeriaid rydych yn eu helpu neu’n eu trin,

neu hiliaeth gan reolwyr neu gydweithwyr. Mae rhai’n poeni bod rheolau ynghylch dyrchafu neu, yn amlach, ragfarnau cudd yn gwahaniaethu yn eu herbyn ac yn golygu na fyddant yn llwyddo, er eu bod yn gymwysedig ac yn brofiadol iawn.

Dyma ddwy enghraifft o’r hyn a ddywedwyd wrthym:

“Rwyf wedi wynebu microymosodiadau yn y gwaith ac wedi cael fy nhrin yn wahanol i’m cydweithwyr hefyd”...”Roedden nhw’n dweud fy mod yn rhy hyderus ac yn gofyn gormod o gwestiynau. Ond roedd hi’n amlwg mai’r ffaith fy mod yn Ddu oedd y rheswm dros hynny.”

Y Fforwm Ieuenctid Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol Cenedlaethol

"Mae bron 60% o’r ymatebwyr a gymerodd ran yn ein harolwg yn gweithio yn y sector cyhoeddus, er enghraifft yn y GIG, cynghorau, ac ati, ac mae ein harolwg wedi dangos bod 68% o’r ymatebwyr yn fwy na thebyg wedi wynebu hiliaeth yn eu gweithle. Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr yn poeni am effaith hiliaeth yn eu gweithle ac roedd bron 40% yn anghytuno eu bod yn cael cyfle cyfartal gan eu cyflogwr i gamu ymlaen yn eu gyrfa/cael dyrchafiad yn eu gweithle.”

Cymdeithas Ddiwylliannol Hindŵ Cymru

Yn y cynllun manwl llawn, rydym yn ymrwymo i amrywiaeth eang o gamau gweithredu ym meysydd Iechyd, Addysg, Gofal Cymdeithasol ac ati. Ond dyma ddwy enghraifft o blith nifer o’r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd:

Gweithred 1

Er mwyn mynd i’r afael â’r profiad gwael o fod yn rhan o’r gweithlu iechyd, bydd Llywodraeth Cymru yn gwella ansawdd data ar y gweithlu ac yn cyflwyno Safon Cydraddoldeb Hil ar gyfer y Gweithlu erbyn mis Medi 2023, er mwyn rhoi sylfaen dystiolaeth i sicrhau newid strwythurol sydd wedi’i dargedu a’i fesur. Caiff hyn ei ategu gan newid diwylliannol, drwy ymyriadau wedi’u targedu yn lleol ac yn genedlaethol, a ddatblygir drwy bartneriaeth gymdeithasol.

Gweithred 2

Fel sefydliad, byddwn ni yn Llywodraeth Cymru yn mynd ati i sicrhau newid sylweddol mewn diwylliant, gan gynnwys newid ymddygiad, yn y sefydliad, tuag at werthoedd ac ymddygiadau gwrth-hiliol. Un enghraifft o gam gweithredu y byddwn yn ei gymryd yw y byddwn yn ceisio cymorth gan ymgynghorwyr arbenigol â phrofiad bywyd priodol a phrofiad o weithio’n effeithiol mewn llywodraeth, i adolygu polisïau, gweithdrefnau ac arferion Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru (o ymuno i ymadael) er mwyn sicrhau eu bod yn amlwg yn wrth-hiliol.

4. Eich profiad o gael swyddi a chyfleoedd

I lawer o gymunedau ethnig lleiafrifol, cyn COVID-19 ac ers hynny, mae’r profiad o wynebu hiliaeth wrth wneud cais am swyddi wedi bod yn heriol iawn. Mae wedi bod yn heriol oherwydd gall rhai sefydliadau wahaniaethu’n fwriadol neu’n anfwriadol drwy ddilyn rheolau cyfrwys, neu rai nad ydynt mor gyfrwys, sy’n eithrio pobl ar bob lefel mynediad. Hefyd, teimlwyd nad oedd rhai mentrau cymorth fel y cynlluniau prentisiaeth ac entrepreneuriaeth yn diwallu eich anghenion. Gall y broblem hon fod yn waeth i bobl ifanc a menywod.

Mater mwy difrifol byth yw’r ffaith bod gwahaniaeth rhwng cyflog pobl ethnig leiafrifol a chyflog eu cymheiriaid am wneud swyddi tebyg. Mae hyn yn annerbyniol.

Dyma ddwy enghraifft o’r hyn a ddywedwyd wrthym:

”Nid yw rhai aelodau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn gallu cael swyddi yn y sector gwasanaethau, yn enwedig yn y sector cyhoeddus, er enghraifft mewn cynghorau, y Cynulliad, ac ati. O ganlyniad i’r sefyllfa hon, mae llawer o bobl ethnig leiafrifol sydd wedi graddio (o’r Brifysgol) ym Mangladesh, India, Pacistan, yn gyrru tacsis neu’n gweithio mewn swyddi â chyflog isel. Mewn un achos, roedd person o’r India â gradd MBA o brifysgol yn y DU wedi cael ei wrthod gan gyflogwr yng Nghaerdydd oherwydd ei acen.”

KIRAN.

“Roedd rhai honiadau nad oedd cyflogau’n ddigonol a bod cyfranogwyr yn gwneud gwaith y tu hwnt i’w dyletswyddau. “Nid yw’r cyflog yn briodol i’r llwyth gwaith”. “Mae swyddi sy’n talu’n dda yn brin iawn os ydych yn berson Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, heb gyfleoedd”, “Rwyf wedi cael fy nhrin yn deg, ond nid yw cyflogau bob amser yn gymesur i’r swydd rwy’n ei gwneud.”

Y Fforwm Ieuenctid Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol Cenedlaethol

Unwaith eto, yn y cynllun manwl llawn, rydym yn ymrwymo i gymryd amrywiaeth eang o gamau gweithredu o ran ein gwaith ym maes cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth. Rydym hefyd yn cynnwys yr hyn y byddwn yn ei wneud i sicrhau bod gwaith yn decach i bawb. Dyma ddwy enghraifft o’r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd:

Gweithred 1

Er mwyn sicrhau bod holl raglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn cynnig amgylchedd diogel, cadarnhaol a chynhwysol i bob aelod o staff a myfyriwr, lle yr eir i’r afael ag achosion o aflonyddu a gwahaniaethu, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • adolygu’r camau gweithredu a gymerir o ran gwrth-hiliaeth yng ngweithlu ein darparwyr dysgu a’n sefydliadau cyflawni ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau cyflogadwyedd
  • cyflwyno rhaglen o hyfforddiant ar wrth-hiliaeth i bob un o’n darparwyr a’n sefydliadau cyflawni

Gweithred 2

Cyflawni ein Carreg Filltir Genedlaethol i ddileu’r bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd erbyn 2050. Yn y tymor byr byddwn yn cynnwys data ar gyflogau a chyflogaeth pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wrth fesur canlyniadau gwaith teg, ac yn symud ymlaen â’n cynlluniau i adolygu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Lle roeddent yn gobeithio meithrin neu ddefnyddio eu sgiliau entrepreneuraidd, teimlai llawer o bobl ethnig leiafrifol yn aml na allent gael y cyngor cywir, neu fod darparwyr yn anwybyddu eu hanghenion, yn amharod i gynnig cyfleoedd, neu’n tybio y byddai eu teuluoedd yn rhoi cymorth ariannol iddynt.

5. Eich profiad o ddiffyg modelau rôl gweladwy mewn swyddi dylanwadol

Rydym wedi gwneud ymrwymiadau blaenorol i gynyddu amrywiaeth ar lefel byrddau a llywodraeth leol. Er enghraifft y grwpiau sy’n goruchwylio gwaith y sefydliadau a ariannwn, fel Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol ac amrywiaeth o sefydliadau nid er elw (trydydd sector). Er gwaethaf yr ymrwymiadau hynny, nid yw pobl ethnig leiafrifol wedi’u darbwyllo o hyd bod digon wedi newid, nac y bydd digon yn newid.

Roeddech hefyd yn teimlo bod angen i Lywodraeth Cymru ei hun fod yn fodel rôl, fel eich bod yn gweld mwy o gyfleoedd i bobl ethnig leiafrifol gamu ymlaen. Mae prinder ‘pobl fel chi’ amlwg mewn bywyd cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn peri gofid, ac yn atal pobl rhag gwneud cais.

Dyma ddwy enghraifft o’r hyn a ddywedwyd wrthym:

“Mae angen recriwtio pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar bob lefel yn y gweithle, gan gynnwys ar baneli cyfweld. Dylai fod yn ofynnol i bob sefydliad gyflogi pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a mynd i’r adael â’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag camu ymlaen i’r brig. Nid yw hiliaeth yn rhywbeth y gellir ei ddileu drwy gael y polisïau cywir mewn cwmni; mae’n dibynnu ar agwedd a meddylfryd pob unigolyn.”

Cymdeithas Cymuned Ethnig Leiafrifol Castell-nedd Port Talbot (Ymateb i holiadur oedolion)

“Rwy’n credu y dylai fod mwy o bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn swyddi dylanwadol ac mewn gwleidyddiaeth. Mae’r bobl hyn yn ein deall ni go iawn, ac wedi cael yr un profiadau â ni.”

Race Council Cymru, NYF.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen iddi fod yn sefydliad sy’n esiampl i eraill, gan adlewyrchu presenoldeb pobl ethnig leiafrifol ar bob lefel o’r sefydliad. Mae wedi cymryd rhai camau i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae hefyd yn gofyn i sefydliadau a ariennir ganddi yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector wneud yr un peth.

Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd strategaeth i sicrhau mwy o gynrychiolaeth i arweinwyr a chyfranogiad ganddynt mewn fforymau gwneud penderfyniadau, fel byrddau sy’n goruchwylio sefydliadau yn y sector cyhoeddus. Bydd yn sicrhau mwy o gynrychiolaeth i bobl ethnig leiafrifol, gan gynnwys pobl anabl, LHDTC+ a grwpiau gwarchodedig eraill, a chyfranogiad ganddynt.

Yn y cynllun manwl llawn, rydym yn ymrwymo i gymryd amrywiaeth eang o gamau gweithredu i sicrhau mwy o gynrychiolaeth a chyfranogiad mewn fforymau gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth Cymru ac yn yr holl wasanaethau cyhoeddus. Isod rydym yn rhannu dwy enghraifft o’r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd:

Gweithred 1

Er mwyn sicrhau bod gweithlu Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu poblogaeth amrywiol Cymru a bod grwpiau ethnig lleiafrifol yn ei hystyried yn gyflogwr o ddewis, ac er mwyn ennyn eu hyder y byddant yn cael gyrfa werth chweil ac yn gwireddu eu potensial yn llawn, byddwn yn cymryd nifer o gamau gweithredu.

Un o’r rhain fydd datblygu camau gweithredu penodol, gan ddefnyddio dull gweithredu cadarnhaol, i sicrhau bod 20% o’n recriwtiaid yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol erbyn 2026, ar bob lefel o’r sefydliad.

Gweithred 2

Bydd pob un o sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ymrwymo i fod yn rhan o’r Rhaglen i Ddarpar Aelodau Bwrdd, gan sicrhau addysg, mentora a chymorth i gyfranogwyr a fydd yn dod o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Bydd Academi Wales yn gweithio mewn partneriaeth â’r GIG a sefydliadau priodol eraill i ddatblygu a chynnal Rhaglen i Ddarpar Aelodau Bwrdd.

6. Eich profiad o hiliaeth fel ffoadur neu geisiwr lloches

Mae llawer o’r ffoaduriaid a’r mudwyr sy’n dod i Gymru yn bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Fodd bynnag, mae tynged pawb sy’n dod i’n cenedl am noddfa yn bwysig inni.

Gwyddom fod pobl sy’n ceisio noddfa yn aml yn teimlo nad ydynt yn cael cymorth i gyflawni canlyniadau gwell a thecach, ym mhob agwedd ar eu llesiant. Gall fod tensiwn rhwng ceiswyr noddfa a’r gymdeithas ehangach hefyd. Gall mudwyr dan orfod ei chael hi’n anodd cael y cyngor cywir ar yr adeg gywir ac, felly, maent yn wynebu canlyniadau mwy niweidiol.

Gwyddom y gall mudwyr dan orfod integreiddio â chymunedau ac y gall y gymuned ehangach ffynnu, ond mae angen gwneud llawer er mwyn i hyn ddigwydd.

Fodd bynnag, fel y mae’r ymateb i’r argyfwng diweddar yn Wcráin yn ei ddangos – gall dinasyddion unigol, cymunedau, gwasanaethau cyhoeddus a’r Llywodraeth gydweithio fel “Tîm Cymru”, i ymateb i argyfwng lle y bydd angen pob gwasanaeth sylfaenol ar ffoaduriaid.

Gwyddom hefyd y gall mudwyr dan orfod gael profiadau gwahanol iawn yn dibynnu ar eu hethnigrwydd a’u hil, boed hynny yn eu gwlad wreiddiol neu yma pan fyddant yn cyrraedd fel ffoadur. Gallant wynebu mwy o droseddau casineb a hiliaeth.

Dyma ddwy enghraifft o’r hyn a ddywedwyd wrthym:

”Mae’r system fewnfudo yn y DU yn wahaniaethol iawn. Mae ceisio cael gwybod beth sy’n digwydd yn dasg araf ac anodd. Pan fyddwch yn chwilio am ddiogelwch, mae gorfod aros pedair blynedd neu fwy i gael gwybod a allwch aros yn achosi cryn dipyn o straen, ac nid yw’n system deg na dyngarol yn fy marn i.”

Travelling Ahead TGP Cymru.

“Po fwyaf y byddant (ceiswyr lloches) yn byw ar fudd-daliadau, y mwyaf anodd y bydd iddynt gamu ymlaen i gyflogaeth neu hunangyflogaeth. Mae cyflogaeth ystyrlon yn galluogi Syriaid i integreiddio’n well â chymdeithas yn gyffredinol, yn gwella hunan-barch, hyder a chymhelliant ac yn cynnig manteision cadarnhaol i’r teulu cyfan.”

Antur Cymru.

Nid oes gennym bob amser y pŵer i wneud llawer o newidiadau gan ein bod yn cael ein harwain gan y rheolau a bennir gan Lywodraeth y DU; rheolau o ran mynediad, llety a budd-daliadau, ac ati. Fodd bynnag, lle y gallwn gymryd camau, byddwn yn gwneud hynny. Dyma ddwy enghraifft o’r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd:

Gweithred 1

Byddwn yn parhau i fod yn ‘Genedl Noddfa’ drwy roi Cenedl Noddfa: cynllun ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches (2019) ar waith. Ymhlith llawer o gamau gweithredu, byddwn, er enghraifft, yn gwneud y canlynol:

  • sicrhau y gall mudwyr dan orfod sy’n byw yng Nghymru gael y gwasanaethau cyngor ac eiriolaeth sydd eu hangen arnynt, ac y cânt eu cefnogi i integreiddio’n effeithiol â chymunedau
  • sicrhau cynaliadwyedd Hybiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), er mwyn darparu asesiadau cyson o ansawdd uchel o ruglder iaith a chyrsiau iaith priodol
  • sicrhau y caiff ffoaduriaid eu cefnogi er mwyn osgoi cyni a digartrefedd drwy barhau i ariannu prosiect llety ‘Symud Ymlaen’

Gweithred 2

Byddwn hefyd yn sicrhau y caiff cyflogadwyedd mudwyr dan orfod ei gefnogi drwy:

  • codi ymwybyddiaeth o hawliau mudwyr i weithio ymhlith cyflogwyr
  • rhaglenni cyflogaeth ar gyfer sectorau penodol, megis cynllun Meddygon Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru
  • eirioli dros hawl ceiswyr lloches i weithio

Gofalus o ran Data

Yr hyn a ddywedwyd wrthym:

“Pan ddechreuodd fy mab yn yr ysgol, gwnaethon nhw ofyn iddo am ei ethnigrwydd, ond doedd dim opsiwn “Prydeinig Pacistanaidd”. Yn yr ysgol uwchradd, rwy’n teimlo ein bod wedi cael ein trin yn wahanol, er i mi gael fy ngeni ym Mhrydain.”

Women Connect First, Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat a Sefydliad Henna

“Mae angen cael gwared ar y ffurflen monitro cyfle cyfartal. Gall ysgrifennu eich enw, datgan eich ethnigrwydd, gael effaith negyddol o ran recriwtio.”

Race Council Cymru (Abertawe)

Mae casglu a dadansoddi data, gan gynnwys hanesion personol gennych chi, sy’n arbenigwyr drwy brofiad bywyd, yn allweddol i ddeall maint yr anghydraddoldebau a wynebir gan gymunedau ethnig lleiafrifol yng Nghymru. Mae data ar addysg wedi dangos bod plant a phobl ifanc ethnig lleiafrifol yn wynebu achosion o fwlio hiliol a gwahaniaethu ar sail hil mewn ysgolion a sefydliadau addysg uwch.

Mae data ar y farchnad lafur wedi dangos bod ceiswyr gwaith o gefndir ethnig lleiafrifol yn ei chael hi’n anos dod o hyd i waith a’u bod yn fwy tebygol o gael eu dal mewn swyddi anniogel ac ansicr.

Mae data ar ddarpariaeth gwasanaethau wedi dangos bod cymunedau ethnig lleiafrifol yn wynebu rhwystrau wrth geisio cael gwasanaethau gan weithwyr iechyd proffesiynol a darparwyr eraill. Fodd bynnag, gwyddom hefyd fod diffyg data o ansawdd da ar bobl ethnig leiafrifol yng Nghymru, yn enwedig ymhlith pobl mewn cymunedau ethnig lleiafrifol sydd â mwy nag un nodwedd warchodedig. Mae sawl rheswm dros hyn:

  • Maint samplau ethnig lleiafrifol yng Nghymru, sy’n aml yn annigonol i wneud gwaith dadansoddi ystyrlon ar lefel sy’n ddigon manwl i nodi gwahaniaethau rhwng grwpiau ethnig lleiafrifol penodol.
  • Cofnodion anghyflawn neu anghyson o ddata ar ethnigrwydd ymhlith sefydliadau yng Nghymru.
  • Diffyg ymddiriedaeth yn y ffordd y defnyddir data, gan arwain at betruster i ddatgelu statws ethnig, yn enwedig i’r llywodraeth.

Gwyddom fod yn rhaid inni wneud mwy i wella’r ffordd y caiff data ar ethnigrwydd eu casglu a’u cofnodi yng Nghymru, sef pwynt a nodwyd yn glir gennych mewn nifer o’ch ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft. Felly, rydym wedi ymrwymo i sefydlu Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil a fydd yn darparu adnodd dadansoddi a pholisi trawsbynciol i wella’r broses o gasglu a defnyddio tystiolaeth o gydraddoldeb, a’i hargaeledd, a sbarduno newid ar lawr gwlad i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru.

Wrth inni ddatblygu’r cynllun, dywedodd llawer o bobl wrthym nad oedd ganddynt hyder yn y ffordd y byddai’r data a roddwyd ganddynt yn cael eu defnyddio. Rydym yn cydnabod bod angen inni weithio gyda phobl ethnig leiafrifol i ennyn eu hyder yn y ffordd y caiff eu data eu casglu a’u defnyddio.

Ymhlith pethau eraill, bydd hyn yn cynnwys ymchwilio i broblemau sy’n bodoli ers tro mewn perthynas â data ac ymchwil yn Llywodraeth Cymru ac yn y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru, gan gynnig ffyrdd arloesol o ddiwallu’r angen parhaus am dystiolaeth o anghydraddoldebau ac anfantais economaidd- gymdeithasol. Bydd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil yn ceisio gwerthfawrogi eich profiad bywyd yn yr un modd â ffynonellau eraill o dystiolaeth, a bydd yn sicrhau y defnyddir data’n briodol i lywio asesiadau effaith a phrosesau llunio polisi.

Sut y byddwn yn sicrhau nad yw’r cynllun hwn yn methu?

Rydym wedi gwneud rhagor o waith i helpu pobl i’n dwyn i gyfrif, ac i fesur a ydym yn cyflawni’r addewidion yn y cynllun hwn.

Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid o gymunedau ethnig lleiafrifol i ddatblygu ‘canlyniadau’, h.y. sut beth fydd cyflawni ein huchelgais o sicrhau bod ein gwasanaethau a’n gweithlu yn wrth-hiliol.

O dan y canlyniadau hyn mae gennym ‘fesuriadau’ neu ‘ddangosyddion’. Er enghraifft, canrannau’r bobl sy’n fodlon ar wasanaeth a ddarparwyd, neu adroddiadau profiad bywyd ynghylch a yw pobl yn fwy bodlon ar y ffordd yr ymdrinnir â chwynion mewn ysgolion, er enghraifft, nag o’r blaen.

Rydym wedi defnyddio llawer o’ch syniadau a gasglwyd o’r digwyddiadau blaenorol a gynhaliwyd gennym i bennu’r weledigaeth, y diben a ‘sut beth fyddai canlyniad da erbyn 2030’. Rydym wedi defnyddio eich safbwyntiau i benderfynu pa ganlyniadau yr hoffem eu gweld yn y chwe maes a restrir yn y bennod flaenorol. Rydym wedi eu crynhoi yn y cynllun llawn, ar dudalennau 19 i 22.

Yn ogystal â’n helpu i weld a ydym ar y trywydd cywir, bydd y canlyniadau a’r dangosyddion hyn yn helpu cyrff annibynnol allanol i wneud yr un peth hefyd.

Rydym hefyd yn sefydlu ‘Grŵp Atebolrwydd’ annibynnol i oruchwylio’r gwaith hwn. Bydd y grŵp hwn yn cynnwys pobl ethnig leiafrifol sydd â phrofiad a dealltwriaeth ddofn o hiliaeth sefydliadol yn bennaf. Bydd yn cynnwys saith arbenigwr sydd â phrofiad bywyd o hiliaeth, ac arbenigedd mewn meysydd gwahanol, er enghraifft iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, cyflogaeth, ffoaduriaid a hiliaeth. Caiff pob arbenigwr ei recriwtio mewn ffordd agored a thryloyw. Byddwn yn chwilio am amrywiaeth  o arbenigedd, profiadau a safbwyntiau.

Caiff y Grŵp Atebolrwydd annibynnol hwn ei arwain gan yr Athro Emmanuel Ogbonna, o Brifysgol Caerdydd, a Dr Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol yn Llywodraeth Cymru (gwas sifil lefel uchaf Llywodraeth Cymru). Bydd mewn cysylltiad rheolaidd â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Weinidog. Nodir ei rôl fanwl yn y cynllun llawn.

Mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ymrwymo i roi’r flaenoriaeth uchaf i’r gwaith hwn. Fodd bynnag, mae cyfrifoldeb hefyd ar bob arweinydd, ar bob lefel ac ym mhob sefydliad gwahanol, i ymrwymo’n llawn i hyn.

Byddwn hefyd yn sefydlu Grŵp Llywodraeth Cymru mewnol, sef y Grŵp Cymorth a Her Mewnol, a fydd yn llywio gwaith adrannau gwahanol. Ei rôl fydd sicrhau ein bod yn gweithredu mewn ffordd ‘gydgysylltiedig’ a bod yr hyn a gyflawnir gennym yn glir.

Gan ein bod yn gwerthfawrogi’r sgyrsiau a gychwynnwyd gennym â chymunedau ethnig lleiafrifol, byddwn hefyd yn datblygu fforymau lleol ledled Cymru i barhau â’r sgwrs hon.

Yr her o ran arweinyddiaeth

Mae Llywodraeth Cymru am fod yn fodel rôl da o ran y ffordd y bydd yn arwain y gwaith hwn. Rydym am ddefnyddio ein holl rym a dylanwad gyda sefydliadau eraill rydym yn eu hariannu neu’n dylanwadu arnynt i sicrhau newidiadau radical; newidiadau sy’n gwneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl ethnig leiafrifol.

Ein nod yw rhoi neges glir am bwysigrwydd bodloni rhwymedigaethau Deddf Cydraddoldeb 2010. Ond rydym am fynd y tu hwnt i hyn hefyd – bod yn ddewr ac yn radical, a dangos dealltwriaeth ac ymddygiad gwrth-hiliol. Er mwyn sicrhau arweinyddiaeth wirioneddol, mae angen i bobl gymryd rhan mewn sgyrsiau anodd sy’n ystyried profiadau bywyd pobl.

Wrth lansio’r cynllun hwn, ni fyddwn yn osgoi’r sgyrsiau anodd hynny. Wrth inni wneud hyn, byddwn yn parchu ac yn gwerthfawrogi’r arweinyddiaeth a’r doethineb sy’n bodoli mewn cymunedau ethnig lleiafrifol. Rydym am wneud pethau’n wahanol oherwydd gwyddom, drwy wneud yr un peth ag o’r blaen, y byddwn yn gweld yr un canlyniadau eto.

“Trech diwylliant na strategaeth”, ac oni wnawn newidiadau sylweddol i’r ffyrdd rydym yn gwneud pethau nawr, yn ein sefydliadau, yna ni fydd y cynllun hwn yn llwyddo. Bydd angen newid sylweddol o ran diwylliant yn Llywodraeth Cymru ac ym mhob sefydliad yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector er mwyn gwneud pethau’n wahanol. Mae angen inni ateb yr her hon os ydym am newid bywydau’r bobl rydym yn eu gwasanaethu.

Bydd llwyddiant y cynllun hwn hefyd yn dibynnu ar olrhain cynnydd drwy’r amser ac ar wrando ar eich profiadau bywyd. Rydym am symud ymlaen drwy eich cynnwys mewn ffordd agored a thryloyw.

Yma yng Nghymru, rydym yn dechrau drwy ymrwymo i gymryd y camau cyntaf. Oni wnawn hynny, ni fydd dim yn newid. Yn wir, mae angen gweithredu, nid geiriau erbyn hyn.