Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Bil newydd gan Lywodraeth Cymru sy’n gwahardd codi ffioedd yn y sector rhentu preifat yn ei gwneud hi'n symlach ac yn decach i denantiaid, dywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru):

  • yn sicrhau na chodir tâl ar denantiaid am ymweliadau yng nghwmni rhywun, am dderbyn rhestr eiddo, am lofnodi contract, neu am adnewyddu tenantiaeth
  • yn caniatáu i asiantiaid gosod eiddo a landlordiaid godi tâl mewn perthynas â rhent, blaendaliadau sicrwydd, blaendaliadau cadw, neu pan fydd tenant yn torri amodau contract yn unig
  • yn darparu pŵer gwneud rheoliadau i gyfyngu ar lefel y blaendaliadau sicrwydd
  • yn rhoi cap ar flaendaliadau cadw i gadw eiddo cyn llofnodi'r contract rhentu i'r hyn a fydd gyfwerth ag wythnos o rent a chreu darpariaethau i sicrhau y gwneir yr ad-daliad yn brydlon
  • chreu proses orfodi glir, syml a chadarn ar gyfer achosion o droseddu.

Bydd y broses orfodi yn caniatáu i hysbysiadau cosb benodedig gael eu dyroddi i unrhyw un lle bo taliad gwaharddedig yn ofynnol; os na chaiff cosbau eu talu, gall Awdurdodau Tai Lleol erlyn troseddau drwy'r Llys Ynadon. Gall euogfarn am drosedd arwain at ddirwy heb gyfyngiad a chaiff hynny ei ystyried gan Rentu Doeth Cymru wrth ystyried a ddylid caniatáu neu adnewyddu trwydded ai peidio.

Dywedodd Rebecca Evans:

"Yn y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n rhentu yng Nghymru. Mae'r sector rhentu preifat yn gyfrifol bellach am 15% o'r holl dai. 

"Mae'r Bil hwn yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud yng Nghymru drwy'r Ddeddf Tai a'r Ddeddf Rhentu Cartrefi i sicrhau y gall y bobl hynny sydd am rentu yn y sector preifat ddisgwyl safonau uchel, triniaeth deg a thryloywder.

"Mae'r ffioedd a godir gan asiantiaid gosod eiddo yn aml yn rhwystr sylweddol i nifer o denantiaid, yn arbennig y rhai hynny sydd ar incwm is. 

"Bydd y Bil yn golygu na fydd tenantiaid mwyach yn gorfod wynebu ffioedd sylweddol ymlaen llaw pan fyddant yn dechrau rhentu. Yn y rhan fwyaf o achosion, y cyfan fydd angen iddynt ei dalu fydd eu rhent misol a blaendal sicrwydd. 

"Ni chodir tâl mwyach ar denantiaid am ymweliadau yng nghwmni rhywun, am dderbyn rhestr eiddo neu am lofnodi contract. Ni chodir tâl arnynt mwyach am adnewyddu tenantiaeth. Ac ni chodir tâl arnynt mwyach pan fyddant yn symud allan o'r eiddo.

"Rydw i am i'r broses o rentu fod yn ddewis positif sydd ar gael yn hawdd i bobl a bydd y Bil hwn yn sicrhau y bydd costau rhentu yn fwy rhesymol, yn fwy fforddiadwy ac yn fwy tryloyw o hyn ymlaen."