Neidio i'r prif gynnwy

Mae bil brys wedi cael ei gyflwyno gerbron y Senedd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau y gall etholiad nesaf y Senedd ddigwydd yn ddiogel, er gwaetha’r ffaith bod pandemig y coronafeirws yn parhau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yn cyflwyno cyfres o fesurau i’w gwneud yn haws i’r rheini sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig fwrw pleidlais.

Byddai hefyd yn osgoi bwlch estynedig pan na fyddai’r Senedd yn gallu cyfarfod i ystyried deddfwriaeth sy’n gysylltiedig â lledaeniad y coronafeirws.

Cynnal yr etholiad ar 6 Mai 2021, fel y bwriadwyd yn wreiddiol, yw polisi Llywodraeth Cymru, os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu i hynny ddigwydd. Fodd bynnag, mae polisi Llywodraeth Cymru hefyd yn caniatáu i’r diwrnod pleidleisio gael ei ohirio os bydd y pandemig yn golygu bod y bygythiad i iechyd y cyhoedd a chynnal yr etholiad mor ddifrifol fel na fydd yn ddiogel ei gynnal ar yr adeg honno. Gofynnwyd i weinyddwyr etholiadol barhau â’r paratoadau ar gyfer cynnal yr etholiad ar 6 Mai.

Mae’r Bil yn darparu fel y gall:

  • Pleidleisiwr wneud cais am bleidlais frys drwy ddirprwy pan, yn ystod y cyfnod cyn y bleidlais, na fydd y pleidleisiwr neu ei ddirprwy a enwebwyd eisoes yn gallu cymryd rhan mwyach yn bersonol ar ddiwrnod y bleidlais am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws, er enghraifft os bydd angen iddynt hunanynysu
  • Y Senedd barhau i eistedd am hyd at saith niwrnod calendr cyn yr etholiad (yn hytrach na chael ei diddymu 21 o ddiwrnodau gwaith cyn yr etholiad fel y gwneir fel arfer). Bydd hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru ac Aelodau’r Senedd barhau i ymdrin â deddfwriaeth sy’n gysylltiedig â’r pandemig COVID ac yn caniatáu i etholiad gael ei ohirio os bydd angen yn ystod y mis olaf cyn i’r bleidlais gael ei chynnal
  • Etholiad y Senedd gael ei ohirio am hyd at 6 mis, hyd at ddyddiad nad yw’n hwyrach na 5 Tachwedd 2021, os oes angen am resymau sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd. Y Llywydd fyddai’n cynnig gohirio a phennu dyddiad newydd ar gyfer yr etholiad a byddai angen i ddwy ran o dair o holl Aelodau’r Senedd gytuno i wneud hynny

Bydd y Bil yn gymwys i etholiad cyffredinol arferol y Senedd yn 2021 yn unig ac nid i etholiadau’r Senedd a gynhelir wedi hynny.

Mae’r Bil hefyd yn galluogi i is-etholiadau llywodraeth leol gael eu gohirio y tu hwnt i 6 Mai 2021 os oes angen, hyd at ddyddiad nad yw’n hwyrach na 5 Tachwedd 2021.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

Mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith ar bob agwedd ar ein bywydau dros y flwyddyn a aeth heibio. Mae teuluoedd ym mhob cwr o Gymru wedi colli anwyliaid i’r feirws, ac mae llawer mwy wedi dioddef ac yn dal i ddioddef. O ystyried natur anwadal y feirws, mae tipyn o ansicrwydd beth fydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd erbyn mis Mai. Dyna pam mae’n rhaid inni weithredu nawr ac ymateb i’r risg bosibl i’r etholiad sy’n deillio o’r pandemig.

Sicrhau y gellir parhau â’r etholiad a’i gynnal mewn modd sydd mor ddiogel â phosibl yw ein blaenoriaeth. Bydd y Bil rydyn ni’n ei gyflwyno heddiw yn helpu i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu arfer eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio mewn etholiad, ond eu bod yn gallu gwneud hynny yn ddiogel hefyd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi’r ymdrechion arbennig sy’n cael eu gwneud gan y staff sy’n cynnal ein hetholiad i sicrhau bod modd gwneud hynny yn ddiogel.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n ymroddedig i gynnal etholiad y Senedd ar 6 Mai, fel y cynlluniwyd. Ond, o dan y gweithdrefnau arferol, ni fyddai yna unrhyw Aelodau o’r Senedd sydd â phwerau cyfreithiol i wneud penderfyniadau, er enghraifft mewn perthynas â deddfwriaeth sy’n gysylltiedig â’r pandemig COVID, am gyfnod o bron i fis cyn y diwrnod pleidleisio. O ystyried yr amgylchiadau digynsail hyn, mae’r Bil yn caniatáu i’r Senedd barhau wedi’i chyfansoddi tan saith niwrnod gwaith cyn i’r bleidlais gael ei chynnal. 

Mae’r Bil hefyd yn darparu pŵer wrth gefn i ohirio’r etholiad am hyd at 6 mis, os bydd cyffredinrwydd y feirws yn agosach at yr amser yn golygu na ellid cynnal yr etholiad yn ddiogel. Dim ond os bydd dwy ran o dair o holl Aelodau’r Senedd yn cytuno y gellir gwneud penderfyniad o’r fath – byddai pob Aelod yn cael chwarae ei ran yn y penderfyniad terfynol felly.

Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) ar SENEDD.CYMRU