Mae cyflwyno'r Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) ger bron y Senedd heddiw yn gam sylweddol ymlaen yn y broses i ddod â rasio milgwn i ben yng Nghymru.
Mae'r Bil wedi'i gyflwyno ar ôl cyswllt helaeth â'r cyhoedd, gan gynnwys deiseb a lofnodwyd gan dros 35,000 o bobl yn galw am ddod â rasio milgwn i ben yng Nghymru.
Yna cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd dros 1,100 o ymatebion, a thystiolaeth am y milgwn sy'n cael eu hanafu ac yn marw wrth rasio.
Os caiff y Bil ei basio, bydd yn creu dwy drosedd newydd:
- gweithredu stadiwm neu leoliad yng Nghymru a chaniatáu’n ymwybodol ei ddefnyddio ar gyfer rasio milgwn, a
- trefnu ras milgwn unrhyw le yng Nghymru.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
"Rydym wedi gwrando ar y cyhoedd, ystyried y dystiolaeth, a chymryd camau pendant i roi blaenoriaeth i les anifeiliaid.
"Yn y Gymru fodern, garedig. nid oes modd cyfiawnhau'r drwg y mae rasio milgwn yn ei achosi."
Mae'r Bil yn cynnig amserlen hyblyg i roi amser i'r rheini sy'n ymwneud â rasio milgwn, eu cymunedau lleol a mudiadau lles allu trefnu diwedd y gamp.
Mae Grŵp Gweithredu, dan gadeiryddiaeth Dr Emily Blackwell, wedi'i sefydlu i helpu pawb yr effeithir arnynt gyda’r trawsnewid.
