Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Rwy'n falch iawn o gyflwyno Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) a'i ddogfennaeth ategol i'r Senedd heddiw.
Mae ein dyletswydd a'n hymrwymiad i'r amgylchedd yn glir ac yn ddiwyro. Mae'r darn allweddol hwn o ddeddfwriaeth yn adlewyrchu'r ymrwymiad hwn ac yn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur brys.
Mae'r Bil hwn yn sefydlu fframwaith cadarn ar gyfer llywodraethiant amgylcheddol yng Nghymru, wedi'i seilio ar egwyddorion amgylcheddol a gydnabyddir yn rhyngwladol. Yr egwyddorion hyn yw'r egwyddor o atal, yr egwyddor rhagofalus, cywiro y ffynhonnell, a'r egwyddor mai y llygrydd sy'n talu. Bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru a CNC gymhwyso'r egwyddorion hyn wrth lunio polisi sy'n effeithio ar yr amgylchedd. Caiff hyn ei gefnogi ymhellach gan ddyletswydd i integreiddio diogelu'r amgylchedd wrth lunio polisïau o'r fath. Er mwyn gwella cydlyniant y dull newydd hwn ar draws y sector cyhoeddus, bydd rhai awdurdodau cyhoeddus sy'n ymgymryd ag asesiad amgylcheddol strategol hefyd yn destun dyletswydd i ddefnyddio'r egwyddorion ac integreiddio diogelu'r amgylchedd. Drwy sefydlu'r egwyddorion hyn yng nghyfraith Cymru, mae diogelu'r amgylchedd wedi'i ymgorffori ar draws pob maes o lunio polisïau a phenderfyniadau sy'n destun asesiad amgylcheddol strategol.
Mae sefydlu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, ("yr OEGW") yn elfen allweddol o'r Bil. Bydd y corff statudol hwn yn darparu goruchwyliaeth strategol o gyfraith yr amgylchedd, gan gynnwys mynd i'r afael ag unrhyw ddiffyg cydymffurfio gan awdurdodau cyhoeddus penodol. Bydd hefyd yn sicrhau bod cyfraith amgylcheddol yn effeithiol ac yn addas i'r diben trwy fonitro, adrodd a gorfodi cydymffurfiaeth â chyfraith amgylcheddol. Bydd gorfodi yn mynd yn fwy dwys, gan adlewyrchu'r angen i weithio ar y cyd ag awdurdodau cyhoeddus i leihau difrod amgylcheddol.
Mae'r Bil yn cydnabod dirywiad brawychus bioamrywiaeth ac yn ceisio atal a gwrthdroi'r duedd hon. Mae'r Bil yn cyflwyno fframwaith gosod targedau sy'n cynnwys gofynion i werthuso, monitro ac adrodd ar gynnydd. Bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi cynlluniau manwl sy'n amlinellu'r camau y maent yn bwriadu eu cymryd i gyrraedd y targedau, gan sicrhau tryloywder ac atebolrwydd. Bydd adroddiadau gwerthuso rheolaidd yn asesu effaith ac effeithiolrwydd polisïau, gan ddarparu sail ar gyfer gwelliant parhaus.
Bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod rheoliadau drafft gerbron y Senedd sy'n gosod targedau sy'n canolbwyntio ar leihau'r risg o ddifodiant rhywogaethau brodorol; rheoli ecosystemau yn effeithiol; lleihau llygredd; ac ansawdd y dystiolaeth i lywio penderfyniadau sy'n ymwneud â bioamrywiaeth, mynediad at y dystiolaeth honno a'r defnydd a'r cymhwysiad ohoni.
Wrth osod targedau, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y bydd bodloni y targedau yn cyfrannau at atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, yn enwedig drwy sicrhau bod mwy o rywogaethau brodorol, gwella cydnerthedd ecosystemau neu gynyddu amrywiaeth enetig.
Mae'r Bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gymryd camau i hyrwyddo ymwybyddiaeth yng Nghymru o bwysigrwydd bioamrywiaeth a'r bygythiadau y mae'n ei hwynebu. Bydd annog newid cadarnhaol yn hanfodol ar gyfer llwyddiant ein hamcanion amgylcheddol.
Mae Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymdrech i ddiogelu a gwella'r amgylchedd ac mae'n dyst i'n hymrwymiad i ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r Bil hwn, gan sicrhau ein bod yn parhau i weithredu'n benderfynol i amddiffyn lles ein cenedl a'n planed.
Mae copi o'r Bil a'i ddogfennau ategol ar gael yma. Byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mehefin 2025. Edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau'r Senedd yn ystod eu hystyriaeth o Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) yn ystod y misoedd i ddod.
