Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pobl ifanc yng Nghymru yn cael cynnig brechiad Meningococol B (Men B) am y tro cyntaf yn hydref 2026, fel rhan o raglen sydd ar gael am gyfnod cyfyngedig o amser.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno fel mesur rhagofalus yn dilyn yr achosion digynsail o Men B, yn bennaf ymhlith myfyrwyr Prifysgol Caint, ym mis Mawrth 2026 a chlystyrau eraill mwy diweddar mewn rhannau eraill o’r DU.

Men B yw'r achos mwyaf cyffredin o glefyd meningococol ymledol yn y DU, a gall achosi llid yr ymennydd a sepsis, y ddau ohonynt yn gallu peryglu bywyd.

Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl ifanc yn wynebu risg uwch o ddal Men B, a bod risgiau penodol yn gysylltiedig â lleoliadau addysg uwch oherwydd lefelau uchel o gymysgu cymdeithasol agos.

Bydd y brechiadau'n cael eu rhoi rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2026 a byddant ar gael i bawb sy'n 17 ac 18 oed ar hyn o bryd (a anwyd rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008), yn ogystal ag unrhyw un rhwng 18 a 25 oed a fydd yn mynd i mewn i addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf yn hydref 2026, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol.

Bydd y brechlyn yn cael ei gynnig mewn rhaglen dau ddos. Bydd unigolion 17 i 18 oed yn cael llythyr gwahoddiad gan eu bwrdd iechyd o 6 Gorffennaf yn rhoi manylion am sut i gael eu brechlyn. Bydd angen i unigolion 18 i 25 oed a fydd yn mynd i addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf yr hydref hwn, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol, gysylltu â'u bwrdd iechyd ar ôl 20 Gorffennaf i gael rhagor o wybodaeth.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, Nerys Evans:

Mae Meningococol B yn glefyd prin ond hynod ddifrifol sy'n gallu datblygu'n gyflym a dinistrio bywydau ifanc. Yn dilyn achosion diweddar ar draws y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n bendant i sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn cael cynnig yr amddiffyniad ychwanegol hwn ac rwy'n annog pawb sy'n gymwys i fanteisio ar y cynnig o frechlyn.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver:

Mae hwn yn frechlyn diogel ac effeithiol a fydd yn cynnig amddiffyniad pwysig i'r rhai sy'n ei gael. Gyda'r flwyddyn academaidd newydd yn agosáu, mae'n hanfodol bod pobl ifanc cymwys yn dod ymlaen i gael y ddau ddos cyn gynted ag y bydd y rhaglen yn agor. Rwy'n annog pawb sy'n gymwys i gymryd camau ar unwaith.

Dywedodd Dr Chris Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

Mae pobl ifanc sy'n mynd i'r brifysgol am y tro cyntaf mewn mwy o berygl o gael Llid yr Ymennydd B, gan eu bod yn cymysgu â grwpiau newydd o bobl wrth fwynhau eu hamgylchedd newydd. Bydd cael dau ddos o'r brechiad hwn, yn ddelfrydol cyn iddynt fynd i'r brifysgol, yn rhoi'r amddiffyniad gorau iddyn nhw rhag yr haint hwn, a all achosi salwch mor ddifrifol.