Neidio i'r prif gynnwy

O 18 Mehefin bydd cyfyngiadau cyflymder 50 milltir yr awr ynghyd â mesurau eraill yn cael eu cyflwyno mewn pum lleoliad ar ffyrdd Cymru er mwyn gwella ansawdd aer ac achub bywydau.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y mesurau yw lleihau lefelau nitrogen deuocsid lle gwelwyd bod allyriadau'n mynd y tu hwnt i derfynau cyfreithlon.

Mae ansawdd aer gwael yn cyfrannu at oddeutu 2,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae'n effeithio'n arbennig ar grwpiau agored i niwed. Gall nwyon fel nitrogen deuocsid waethygu symptomau pobl sydd â chlefydau ar eu hysgyfaint, ac mae pobl sy'n eu hanadlu i mewn am gyfnod byr yn fwy tebygol o ddioddef o glefydau cardiofasgwlaidd ac wynebu morbidrwydd anadlol.

Caiff y terfynau cyflymder dros dro o 50 milltir yr awr eu cyflwyno ar ddarnau bach o ffyrdd, sef rhwng 1.4km a 5.9km, yn y pum lleoliad canlynol:

• yr A494 yng Nglannau Dyfrdwy
• yr A483 yn Wrecsam
• yr M4 rhwng Cyffordd 41 a 42 (Port Talbot)
• yr M4 rhwng Cyffordd 25 a 26 (Casnewydd)
• yr A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd

Bydd y mesurau eraill yn cynnwys gosod rhagor o arwyddion er mwyn esmwytho llif y traffig. Mae disgwyl i'r mesurau wella ansawdd aer ar unwaith, a gallai'r allyriadau fod 18% yn is yn y pum lleoliad.

Mae'r dystiolaeth yn dangos bod allyriadau nitrogen deuocsid ar eu hisaf pan fydd cerbydau ysgafn, sef y rhai sy'n cyfrannu fwyaf at yr allyriadau, yn teithio ar gyflymder o rhwng 40 a 50 milltir yr awr. Mae disgwyl i'r terfynau cyflymder hefyd esmwytho llif y traffig wrth i gerbydau deithio ar gyflymder mwy cyson.

Mae'r cyfyngiadau cyflymder dros dro yn rhan o gyfres o gamau gweithredu sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwella ansawdd aer yng Nghymru. Maent yn cynnwys Cronfa Ansawdd Aer newydd gwerth £20 miliwn, Fframwaith Parth Aer Glân ynghyd â gwefan newydd Ansawdd Aer sy'n cynnwys data lleol ynghylch lefelau llygredd aer.

Dywedodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn:

"Rwy' wedi ymrwymo i geisio lleihau llygredd aer yng Nghymru er mwyn creu dyfodol mwy iach i'n cymunedau a gwarchod ein hamgylchedd naturiol. Mae lefelau presennol y nitrogen deuocsid yn mynd y tu hwnt i'r terfyn cyfreithlon yn y pum lleoliad felly mae angen i ni gymryd camau cyn gynted â phosibl.

"Rydym wedi ymchwilio i'r holl fesurau posibl ar gyfer lleihau lefelau nitrogen deuocsid. Mae'n hastudiaethau cychwynnol yn dangos mai terfynau cyflymder 50 milltir yr awr ddylai fod fwyaf effeithiol i wella'r ansawdd aer ymhob lleoliad. Gall y camau rydym yn eu cymryd i wella ansawdd aer yng Nghymru ein helpu i sicrhau'r amodau cywir ar gyfer gwell iechyd a llesiant."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

“Rwy am weld Llywodraeth y DU yn cymryd mesurau pendant sy’n mynd i’r afael â gwreiddyn y broblem.  Mae hi wedi’n rhwystro ni rhag dilyn y trywydd roeddem am ei ddilyn ac mae’n bryd iddi hi nawr dorchi llewys a defnyddio er lles pobl Cymru y pwerau mae wedi’u gochel mor hir.”

“Gwreiddyn y broblem yw allyriadau cerbydau, ond Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am safonau cerbydau a mesurau cyllidol fel y Doll ar Gerbydau a’r Dreth ar Geir Cwmni.  Er inni erfyn dro ar ôl tro, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod datganoli’r pwerau a fyddai’n caniatáu inni wella’r safonau a defnyddio trethi i wella allyriadau.”

Bydd ymgynghoriad ar gynlluniau i leihau crynodiadau o nitrogen deuocsid, fel rhan o gynllun ehangach y DU i fynd i'r afael â chrynodiadau NO2 wrth ymyl y ffordd, yn parhau hyd 19 Mehefin.