Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Comisiynwyd yr adolygiad hwn gan yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau ar ran Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i adolygu'r ffordd y cyflwynir Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhaglenni Prentisiaeth.

Crynodeb o'r prif gasgliadau

Mae cyflwyno Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn prentisiaethau yn rhan bwysig o wella sgiliau craidd dysgwyr na lwyddodd i ffynnu, o bosib, mewn lleoliad addysgol y tro cyntaf. Yr her sy’n codi i ddarparwyr yw sut orau i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol dysgwyr, gan ddefnyddio dewis clir dysgwyr i ddysgu trwy eu cyd-destun galwedigaethol, wrth eu paratoi ar yr un pryd ar gyfer asesiad allanol nad yw’n gysylltiedig â’u cefndir galwedigaethol yn aml. Barn Estyn yw bod addysgu a dysgu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol ar brentisiaethau wedi’u gogwyddo’n annefnyddiol tuag at baratoi ar gyfer asesiadau allanol.

Mae tri phrif ffactor yn cyfrannu at hyn: yr amserlenni byr sydd gan brentisiaid i gwblhau eu cymwysterau SHC, yr her ddysgu sylweddol y mae dysgwyr yn aml yn ei hwynebu wrth ddatblygu’r medrau sydd eu hangen ar gyfer eu hasesiadau SHC, a model asesu ar gyfer cymwysterau SHC sy’n generig i raddau helaeth ac yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr gymhwyso medrau mewn cyd-destunau nad ydynt yn gysylltiedig â’u cefndir galwedigaethol yn aml.

Mae hyn yn achosi cyfyng gyngor i ddarparwyr: sut orau i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol dysgwyr, gan ddefnyddio dewis clir dysgwyr i ddysgu trwy eu cyd-destun galwedigaethol, wrth eu paratoi ar yr un pryd ar gyfer asesiad allanol, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr gymhwyso medrau mewn cyd-destunau nad ydynt wedi’u cysylltu â’u cefndir galwedigaethol yn aml. 

Mae darparwyr wedi datblygu ystod o fodelau cyflwyno sy’n effeithiol wrth alluogi dysgwyr i gwblhau eu hasesiadau SHC. Caiff y modelau y mae darparwyr yn eu defnyddio i gyflwyno cymwysterau SHC mewn rhaglenni prentisiaeth eu categoreiddio yn ôl chwe chategori eang gan amlinellu eu manteision a’u hanfanteision.

Roedd gan y rhan fwyaf o ddysgwyr ddealltwriaeth gadarn o’u cryfderau a’u gwendidau mewn medrau llythrennedd, rhifedd a digidol ac roedd llawer ohonynt yn glir ynghylch eu cynnydd a’r hyn roedd angen iddynt ei wella. Crybwyllodd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn ein hymweliadau ac yn yr holiadur ar-lein eu bod yn cael cymorth ac adborth defnyddiol gan eu tiwtoriaid neu aseswyr, a oedd yn eu helpu i ddeall yr hyn roedd angen iddynt ei wneud i wella a’r camau gweithredu roedd angen iddynt eu cwblhau i wneud hynny. Yn y sesiynau a arsylwyd, gwnaeth mwyafrif y dysgwyr gynnydd cyson o ran datblygu’r medrau yr ymdriniwyd â nhw yn y sesiwn honno.

Fodd bynnag, nodwyd tri maes, yn gysylltiedig â’r ffocws cul ar asesu, lle’r oedd ansawdd dysgu yn peri pryder. Y cyntaf yw gallu dysgwyr i gofio’r medrau maent wedi’u datblygu. Caiff hyn ei grynhoi gan sylw un dysgwr: ‘Rydw i’n ei gofio ar gyfer y prawf ac yna’n ei anghofio ar unwaith.’ Yr ail yw bod dysgu’n canolbwyntio’n bennaf ar baratoi ar gyfer tasgau asesu allanol, gan leihau’r medrau sy’n cael eu dysgu i ‘bethau sydd eu hangen i lwyddo yn y prawf’, yn hytrach na ‘medrau defnyddiol a fydd yn fy helpu yn fy mywyd gwaith neu fywyd ehangach’. Y trydydd yw i ba raddau y gall dysgwyr gymhwyso’r medrau maent wedi’u dysgu i’w helpu yn eu swyddi gwaith neu eu bywydau ehangach. Mae hyn yn golygu nad yw dysgwyr yn datblygu’r medrau a fyddai’n fwyaf defnyddiol iddynt yn eu gwaith neu eu bywydau ehangach i’r graddau llawnaf y gallent.

Er bod darparwyr yn effeithiol o ran galluogi dysgwyr i ennill y cymwysterau SHC sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu fframwaith, nid yw dysgwyr sydd eisoes wedi ennill y cymwysterau SHC gofynnol neu sydd wedi’u heithrio trwy brocsi yn parhau i ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd neu ddigidol yn gyson.

Fe wnaeth darparwyr grybwyll nad yw methu ennill y cymwysterau SHC sy’n ofynnol gan eu fframweithiau bellach yn achos sylweddol pam nad yw dysgwyr yn cwblhau eu fframwaith cyffredinol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol neu rwystrau eraill rhag dysgu, fel y rhai nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf yn ei chael hi’n anodd ennill eu cymwysterau SHC, ac mae hyn yn rhwystr iddynt rhag cyflawni llwyddiant cyffredinol yn eu fframwaith.

Ychydig iawn o brentisiaid sy’n cyflawni asesiadau ar gyfer cymwysterau SHC yn ddwyieithog neu yn Gymraeg. At ei gilydd, nid yw darparwyr yn gweithio mewn partneriaeth yn ddigon da i gynorthwyo dysgwyr sy’n dymuno astudio eu cymwysterau SHC yn ddwyieithog neu yn Gymraeg.

Argymhellion

Llywodraeth Cymru

Dylai Llywodraeth Cymru:

Argymhelliad 1

Gydweithio â Cymwysterau Cymru a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i adolygu’r defnydd o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn prentisiaethau.

Argymhelliad 2

Adnewyddu Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) ac adnoddau.

Argymhelliad 3

Trwy gydweithio â phartneriaid, datblygu cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol i wella dealltwriaeth ymarferwyr o’r addysgeg a’r gallu i gyflwyno medrau hanfodol.

Ymateb i argymhellion 1 i 3

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhellion hyn fel y nodir yn adroddiad adolygiad thematig Estyn.

Bydd Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Cymwysterau Cymru a'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, pan fydd wedi'i sefydlu, i adolygu'r defnydd o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn prentisiaethau. Mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi cychwyn adolygiad o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru a fydd yn cael ei gwblhau ym mis Medi 2024. Pwrpas yr adolygiad yw casglu tystiolaeth ar effeithiolrwydd cyffredinol cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ac asesu i ba raddau y mae'r cynnwys a'r trefniadau asesu yn y cymwysterau yn ddilys, yn ddibynadwy, yn hylaw ac yn ddeniadol. Yr uchelgais yw canfod pa newidiadau sydd eu hangen ar y cymwysterau yn y dyfodol i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion yr holl randdeiliaid yn llawnach. Bydd swyddogion yn parhau i weithio ochr yn ochr â Cymwysterau Cymru i asesu'r effaith ar y rhaglenni prentisiaethau. 

O ran argymhelliad 2 mae Llywodraeth Cymru wedi contractio Tribal Limited i ddatblygu a darparu Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru. Yn ystod y contract presennol, mae Tribal yn datblygu'r fersiwn nesaf o WEST (WEST 2.0), a fydd yn cael ei ryddhau yn ystod 2024.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cefnogi datblygiad proffesiynol y gweithlu ôl-16. Mae swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid ar draws y sector i ddarparu cyfleoedd i staff ddatblygu eu sgiliau. Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu offer i gefnogi'r defnydd o'r safonau proffesiynol a bydd yn parhau i weithio gyda'r sector i ddatblygu addysgeg ar draws y gweithlu ôl-16.

Darparwyr prentisiaethau dysgu yn y gwaith

Dylai darparwyr prentisiaethau dysgu yn y gwaith:

Argymhelliad 4

Ddatblygu ymagweddau gweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau: 

  • y caiff dysgwyr gyfleoedd ystyrlon i astudio ac ymgymryd ag asesiadau’n ddwyieithog neu trwy gyfrwng y Gymraeg
  • y caiff anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr eu nodi a’u gwerthuso’n brydlon a’u cefnogi’n briodol

Argymhelliad 5

Sicrhau bod dysgwyr sydd eisoes wedi ennill y cymwysterau SHC gofynnol neu sydd wedi’u heithrio trwy brocsi yn parhau i ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol.

Argymhelliad 6

Cynnig dysgu proffesiynol sy’n datblygu addysgeg tiwtoriaid ac aseswyr i gyflwyno medrau hanfodol.

Ymateb i argymhellion 4 i 6

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi argymhellion 4 i 6 ar gyfer darparwyr prentisiaethau fel y nodir yn adroddiad adolygiad thematig Estyn.

Bydd Llywodraeth Cymru, gyda darparwyr prentisiaethau, yn cytuno ar gamau gweithredu ymarferol y gellid eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater o ddysgwyr yn cael cyfleoedd ystyrlon i astudio ac ymgymryd ag asesiadau’n ddwyieithog neu trwy gyfrwng y Gymraeg ac y caiff anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr eu nodi a’u gwerthuso’n brydlon a'u cefnogi'n briodol.

Bydd yr argymhellion sy'n codi o'r adolygiad hwn yn llywio'r cynllun gweithredu. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi'r gwaith cydweithredol gan y sector addysg bellach i ddatblygu adnoddau, dysgu proffesiynol ac ymchwil i sicrhau dull cyson o ddatblygu addysgeg tiwtoriaid ac aseswyr i ddarparu sgiliau hanfodol. 

Yn ogystal, bydd y cynllun gweithredu yn ystyried cymorth i ddysgwyr sydd eisoes wedi ennill y cymwysterau SHC gofynnol neu sydd wedi'u heithrio trwy brocsi er mwyn parhau i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol.

Darparwyr arweiniol

Dylai darparwyr arweiniol:

Argymhelliad 7

Sicrhau bod hunanwerthuso’n myfyrio ar effeithiolrwydd y modelau cyflwyno sy’n cael eu defnyddio ar draws partneriaid ac isgontractwyr y darparwr ac yn cymryd camau i leihau’r anfanteision posibl a nodir yn yr adroddiad hwn.

Ymateb i argymhelliad 7

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi argymhelliad 7 ar gyfer darparwyr arweiniol fel y nodir yn adroddiad adolygiad thematig Estyn.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr arweiniol i sicrhau bod prosesau hunanwerthuso yn ystyried effeithiolrwydd y modelau cyflawni. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy brosesau rheoli contractau a monitro presennol. Lle nodir diffygion, bydd swyddogion yn gweithio gyda'r contractwyr arweiniol i unioni problemau er mwyn sicrhau dull mwy cyson ac effeithiol o gyflawni. 

Manylion cyhoeddi