Neidio i'r prif gynnwy

Bydd prentisiaid uchelgeisiol ledled Cymru yn gallu elwa ar brentisiaethau adeiladu newydd cyn bo hir, a fydd yn helpu i lenwi'r bylchau sgiliau a nodwyd gan y diwydiant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar ôl siarad â darparwyr prentisiaethau, diwydiant a dysgwyr, bydd llwybrau prentisiaethau Lefel 2 mewn gosod brics, gwaith coed ar safleoedd, sgaffaldio a chynnal a chadw adeiladau ar gael yn nes ymlaen eleni. Mae'r cyrsiau yn cael eu cyflwyno gan y cyllidwr a’r rheoleiddiwr addysg drydyddol, Medr ar ôl cael cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Ers 2022, mae'r fframwaith adeiladu ar gyfer prentisiaid wedi dechrau ar Lefel 3. Mae'r cyrsiau Lefel 2 newydd wedi'u creu mewn cydweithrediad â Cymwysterau Cymru a byddant yn darparu dewis ehangach i ddysgwyr, gan helpu hefyd i ddiwallu gofynion sgiliau'r sector.

Fel rhan o'r Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, ymwelodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant, ag Excel Home Design ym Mhont-y-clun, i gwrdd â phrentisiaid sy'n dysgu eu crefft yn y diwydiant adeiladu ar hyn o bryd.

Cynhaliwyd yr ymweliad gan Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, ac mae'n dilyn y newyddion yn gynharach yr wythnos hon bod Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ei tharged o ddarparu 100,000 o brentisiaethau dros y pedair blynedd diwethaf.

 Dywedodd y Gweinidog:

Mae adeiladu yn sector hanfodol i economi Cymru, gyda gorffennol hir a llwyddiannus o ddefnyddio pŵer prentisiaethau er budd cyflogwyr, dysgwyr a'r dirwedd economaidd-gymdeithasol ehangach. Rydym wedi ymrwymo i gryfhau ei weithlu a'i biblinell sgiliau i fodloni uchelgeisiau adeiladu, tai ac ôl-osod.

Mae galw amlwg am brentisiaethau adeiladu Lefel 2 yng Nghymru, ac mae'r llwybrau newydd a gyhoeddwyd yn brawf bod ein hymrwymiad i brentisiaethau yn parhau'n gadarn. Gall y sector fod yn hyderus bod Cymru'n adeiladu system fodern, hyblyg ar gyfer prentisiaethau sy'n canolbwyntio ar y dyfodol.

Mae adeiladwyr bach fel Excel Home Design yn hyfforddi'r mwyafrif o brentisiaid adeiladu yng Nghymru. Rydym yn gwerthfawrogi'r cyfraniad hwnnw'n fawr, ac roeddwn yn falch iawn o dderbyn gwahoddiad gan Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr i ymweld â nhw a gweld drosom ni ein hunain effaith gadarnhaol prentisiaethau ledled Cymru.

Ychwanegodd James Owen, Prif Swyddog Gweithredol Medr:

Rydym yn falch y bydd y prentisiaethau newydd hyn ar gael i ddiwallu anghenion cyflogwyr a dysgwyr ar gyfer llwybr hygyrch i yrfaoedd cynaliadwy yn y diwydiant adeiladu.

Mae fframweithiau prentisiaethau ymatebol yn allweddol i'n huchelgeisiau i greu system drydyddol hyblyg a chydweithredol lle gall pawb gaffael y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer economi a chymdeithas sy'n newid.

Ychwanegodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru:

Mae Cymwysterau Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Medr i nodi sut y gall y system gymwysterau yn y sector hwn gefnogi'r fframweithiau prentisiaethau newydd.

Bydd yr ystod o gymwysterau yn cael eu diwygio, a byddwn yn gweithio gyda City & Guilds i gyflwyno cymwysterau newydd i gefnogi prentisiaid y dyfodol ym maes gosod brics, gwaith coed ar safleoedd a sgaffaldio.

Dywedodd Ifan Glyn, Cyfarwyddwr FMB Gwledydd y DU a Chyfarwyddwr Cymru:

Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad hwn, gan ei fod yn adlewyrchu pryderon a godwyd gan adeiladwyr bach ledled Cymru. Mae cwmnïau bach, lleol yn hyfforddi'r mwyafrif helaeth o brentisiaid Cymru, felly mae mwy o hyblygrwydd mewn llwybrau prentisiaethau yn gam cadarnhaol tuag at fynd i'r afael â'r prinder sgiliau cynyddol sy'n wynebu'r sector.

Mae arallgyfeirio llwybrau mynediad i'r gweithlu adeiladu hefyd yn cefnogi’r hyn y mae maniffesto Senedd 2026 yn ei alw amdano, felly mae'n braf gweld Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r diwydiant yn y modd hwn.

Dywedodd Russell Everett, Rheolwr Gyfarwyddwr Excel Home Design:

Mae prentisiaethau wedi bod yn hanfodol i'n busnes ac i'r diwydiant adeiladu yn ei gyfanrwydd. Mae'r gallu i hyfforddi pobl ifanc o'r gwaelod i fyny yn golygu y gallwn ddatblygu'r sgiliau penodol sydd eu hangen arnom gan roi sylfaen gadarn iddynt ar gyfer gyrfa werth chweil.

Roedd yn bleser croesawu'r Gweinidog ac arddangos y gwaith gwych y mae ein prentisiaid yn ei wneud. Mae buddsoddi yn eu hyfforddiant yn buddsoddi yn nyfodol adeiladu Cymru, ac rydym yn falch o chwarae ein rhan wrth adeiladu'r biblinell honno o grefftwyr medrus.