Neidio i'r prif gynnwy

Bydd profion cywirach a haws eu defnyddio ar gyfer sgrinio am ganser ceg y groth a chanser y coluddyn yn cael eu cyflwyno yng Nghymru, mewn ymgais i arbed mwy o fywydau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar hyn o bryd, mae menywod yn cael eu sgrinio am arwyddion cynnar posib a allai arwain at ganser ceg y groth drwy broses a elwir yn sytoleg - edrych ar gelloedd dan ficrosgop er mwyn gweld unrhyw annormaleddau. Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol,  Rebecca Evans y bydd menywod yn y dyfodol yn cael eu sgrinio am brif achos canser ceg y groth yn lle hynny - sef y feirws papiloma dynol risg uchel (HR-HPV). 
Dan y trefniadau newydd, bydd menywod yn parhau i gael prawf ceg y groth, ond yna bydd y sampl yn cael ei brofi am HR-HPV. 

HR-HPV sy'n achosi bron i 100% o ganser ceg y groth, felly bydd profi am HR-HPV yn achub mwy o fywydau drwy weld y perygl i'r fenyw yn gynharach. Os nad oes gan y fenyw HR-HPV, mae ei siawns o ddatblygu canser ceg y groth o fewn pum mlynedd yn fach iawn, ac yn is na chanlyniad negyddol wrth edrych am annormaleddau mewn celloedd. 

Bydd rhaglen beilot a fydd yn cynnwys tua 20% o fenywod Cymru yn cael ei chyflwyno o fis Ebrill 2017, ac mae disgwyl dechrau'r rhaglen yn llawn yn 2018/19.

Dywedodd y Gweinidog bod gwell prawf sgrinio ar gyfer canser y coluddyn hefyd ar fin cael ei gyflwyno. Mae'r prawf presennol – sy'n profi am waed cudd yn yr ysgarthion (gFOBt) – weithiai’n cael ei weld fel un anodd ac amhleserus. Y rheswm am hynny yw bod angen casglu dau sampl o ysgarthion ar dri diwrnod gwahanol.

Yn y dyfodol, bydd profion imiwnogemegol ysgarthol sylfaenol (FIT) yn cael eu defnyddio yng Nghymru yn lle hynny. Mae FIT yn brawf mwy cywir a fydd yn golygu bod mwy o ganserau yn cael eu canfod. Mae’r prawf newydd yn llawer haws ei gynnal yn y cartref gan mai un sampl yn unig sydd ei angen, felly mae mwy o bobl yn debyg o'i gymryd.

Disgwylir dechrau cyflwyno FIT o fewn y rhaglen ar gyfer sgrinio’r coluddyn yn ystod 2018/19. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans: 

“Mae sgrinio poblogaeth yn helpu i ganfod a oes risg uwch fod cyflwr penodol gan unigolyn sy'n iach yn ôl pob golwg. Mae'n achub bywydau ac yn gwella ansawdd bywyd pobl drwy adnabod risgiau'n gynnar. 

"Er mwyn i’r rhaglenni sgrinio hyn gyrraedd eu potensial llawn, rhaid i nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio gynyddu, a rhaid inni hefyd barhau i fuddsoddi yn y profion mwyaf dibynadwy a chywir. Felly rwy’n falch o gadarnhau y byddwn yn cyflwyno prawf symlach a gwell ar gyfer sgrinio am ganser ceg y groth ac am ganser y coluddyn. 

"Mae'r prawf HPV yn un mwy sensitif a fydd yn caniatáu i'r GIG adnabod y rhai sydd angen triniaeth yn fwy effeithiol nag y gall ar hyn o bryd. Bydd atgyfeiriadau mwy priodol i wasanaethau gofal iechyd, gan arwain at driniaeth gyflymach; a chaiff menywod eu trosglwyddo yn ôl i’r rhaglen sgrinio arferol yn gyflymach, gan osgoi cyfnodau hir o fonitro blynyddol. 

“Mae’r prawf newydd i sgrinio ar gyfer canser y coluddyn yn llawer haws ei gynnal yn y cartref, ac mae cynlluniau peilot yn dangos cynnydd sylweddol yn nifer y defnyddwyr, gan gynnwys grwpiau anodd eu cyrraedd.”