Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi y bydd staff iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen yng Nghymru sy’n asymptomatig yn cael eu profi yn rheolaidd. Bydd y profion yn cael eu cyflwyno’r mis hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd dyfeisiau ar gyfer cynnal prawf llif unffordd yn cael eu darparu i bob aelod o staff iechyd a gofal cymdeithasol , er mwyn iddynt gael eu profi ddwywaith yr wythnos.

Dywedodd Mr Gething:

Rwy’n falch o gyhoeddi y byddwn ni nawr yn cyflwyno rhaglen o brofion rheolaidd ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen sy’n asymptomatig yn ogystal â staff eraill sy’n dod i gysylltiad â chleifion a rhai sy’n derbyn gofal cymdeithasol. Mae hyn yn adeiladu ar brofion asymptomatig ar gyfer gweithwyr cartrefi gofal ag ar gyfer gweithwyr iechyd fel rhan o reoli brigiadau o achosion.

Bydd hyn yn cael ei wneud gan ddefnyddio profion llif unffordd. Drwy brofi fel hyn mae modd cael canlyniadau o fewn 30 munud a gall unigolion gynnal y prawf arnyn nhw eu hunain. Er bod profion llif unffordd ychydig yn llai sensitif wrth ddod o hyd i COVID-19 na phrofion labordai RT-PCR, mae gwybodaeth wyddonol yn dangos y bydd profi yn fwy aml yn sicrhau bydd y profion yr un mor gywir â phrofion RT-PCR.

Mae’n hanfodol bod pob un yn deall na all profi ar ei ben ei hun gael gwared ar y risgiau sy’n gysylltiedig â COVID-19 a dylai’r profion gael eu cynnal ochr yn ochr â dilyn mesurau eraill ar gyfer rheoli heintiau, fel defnyddio cyfarpar diogelu personol, cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo yn ofalus.

Diogelu staff a chleifion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wrth wraidd ein hymateb i COVID ac mae’n elfen allweddol o’n strategaeth Profi Olrhain Diogelu.

Bydd y rhaglen profi newydd ar gael ar gyfer:

  • staff clinigol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd) a’r rheini sy’n gweithio mewn grwpiau risg uchel fel staff haematoleg sy’n gweithio gyda chleifion sydd wedi cael trawsblaniad neu sy’n disgwyl triniaeth
  • staff anghlinigol gan gynnwys porthorion, staff glanhau, staff arlwyo a gwirfoddolwyr
  • gweithwyr gofal cymdeithasol, yn cynnwys gofal cartref, archwilwyr cartrefi gofal a lleoliadau gofal eraill

Dywedodd Mr Gething:

Byddwn yn dechrau cyflwyno’r rhaglen i’r grwpiau hyn o 14 Rhagfyr. Byddwn yn dechrau gyda’r rheini sy’n gweithio mewn gwasanaethau lle mae cryn berygl y gellid trosglwyddo’r haint, ac yn ei chyflwyno mewn lleoliadau lle nad oes cymaint o berygl ym mis Ionawr. Byddwn hefyd yn cyflwyno profion rheolaidd i staff asymptomatig sy’n gweithio mewn unedau cleifion mewnol mewn hosbisau a’r rheini sy’n darparu gwasanaethau hosbis yn y cartref.