Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyflwyniad Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd gan Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â Chwricwlwm i Gymru, wedi helpu cymuned ysgol i ddatblygu arferion iach a helpu i fynd i’r afael â gwastraff bwyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Lansiodd Ysgol Gynradd Llandeilo gynllun ‘Bocs Bwyd Llandeilo’ – prosiect cymunedol sy’n cynnwys casglu bwyd dros ben gan fusnesau lleol a rhoddion cymunedol, gyda’r nod o gael gwared â rhwystrau economaidd i rieni.

Defnyddir y cynnyrch mewn gwersi coginio yn yr ysgol, gan ddileu'r angen i deuluoedd brynu cynhwysion, tra'n helpu i leihau gwastraff bwyd.

Dywedodd Lynne Williams sy’n arwain y fenter coginio yn yr ysgol:

Ein nod o fewn y gegin, ac yn ystod ein sesiynau coginio, yw datblygu ‘Llythrennedd Bwyd’ ein disgyblion a’n cymunedau ehangach.

Rydym yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu, plannu, tyfu, cynaeafu, ac yna goginio'r bwydydd y maent yn eu tyfu. Rydym hefyd yn cynnig y cynnyrch hwn i deuluoedd goginio ag ef fel rhan o'n menter Bocs Bwyd Llandeilo.

Ym mis Medi 2022, dechreuodd Cymru ar raglen Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd - rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae dros 15 miliwn o brydau eisoes wedi'u gweini drwy'r rhaglen, a fydd yn cael ei chyflwyno i bob plentyn ysgol gynradd a dros 6,000 o ddisgyblion oed meithrin erbyn diwedd 2024.

Dros yr un cyfnod, dechreuodd pob ysgol gynradd a gynhelir addysgu’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn eu hystafelloedd dosbarth. Daeth hyn â newid ffocws; annog dysgwyr i ddatblygu profiadau a sgiliau, yn ogystal â'u gwybodaeth.

Yn Ysgol Gynradd Llandeilo, croesawyd y newidiadau hyn ym mywyd yr ysgol o ddydd i ddydd fel cyfle enfawr i greu newid.

Gan gydnabod gwerth cinio maethlon ac iach yn yr ysgol, roedd Llandeilo’n awyddus i hyrwyddo Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd i’w cymuned ysgol, yn enwedig y teuluoedd hynny a oedd wedi bod yn darparu pecynnau bwyd yn y gorffennol – yn aml ar draul pocedi’r rhieni.

Dywedodd Karen Towns, Pennaeth Llandeilo, bod ei thîm wedi dechrau ar yr orchwyl o hyrwyddo prydau ysgol am ddim - cynnal sgyrsiau gyda rhieni, rhannu gwybodaeth am y bwydydd y byddai'r plant yn eu bwyta, a gweithio i adnabod unrhyw rwystrau i'w derbyn.

Meddai: 

Trwy ddatblygu Bocs Bwyd Llandeilo, rhandir yr ysgol (Y Nyth) a’r gegin ysgol (Y Cegin), mae gennym ddealltwriaeth ddyfnach a chysylltiadau gyda’n teuluoedd o fewn yr ysgol.

“Mae teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael gofal a’u bod yn bwysig ac yn gwerthfawrogi bod eu lles a’u hamgylchiadau personol yn cael eu cefnogi.

I ddechrau, roedd llawer o rieni’n bryderus am y broses o gyflwyno Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd, gan nodi dewisiadau bwyd, sŵn adeg amser cinio ac alergeddau fel rhai o’r rhwystrau i hawlio’r cynllun newydd hwn.

Er mwyn mynd i'r afael â rhai o bryderon cychwynnol rhieni, trefnodd yr ysgol sesiynau blasu, a sefydlwyd ‘Y Cwtch' ar gyfer plant sydd angen lle tawelach yn ystod amser cinio. Hwyluswyd cyfarfodydd rhwng staff arlwyo’r ysgol a rhieni hefyd, er mwyn mynd i'r afael â phryderon am fwydlenni.

Dywedodd un dysgwr Blwyddyn 5:

“Dwi’n hoffi’r bwydlenni oherwydd wedyn ry’n ni’n gwybod beth sydd i ginio bob dydd. Ry’n ni'n cael yr holl wahanol grwpiau bwyd a gwahanol bethau sy’n rhoi egni i ni.”

Ochr yn ochr â Bocs Bwyd Llandeilo, mae gan yr ysgol randir ar y safle lle gall plant helpu i dyfu a chynaeafu llysiau i'w defnyddio mewn gwersi coginio. Cynhelir y rhain ar draws pob grŵp blwyddyn, a chânt eu cynnal yng nghegin newydd sbon yr ysgol, ar arddull ‘Bake Off’.

Mae'r meithrin perthynas hwn wedi helpu i gynyddu'r nifer sy'n cael Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd yn yr ysgol. Roedd gwella mynediad at brydau ysgol am ddim yn golygu adeiladu cysylltiad gwirioneddol rhwng yr ysgol a theuluoedd.

Gan edrych i'r dyfodol, nod yr ysgol yw parhau i gefnogi dysgwyr a'u teuluoedd trwy addysg bwyd er mwyn sefydlu arferion iach yn ei chymuned, ac yn y nifer sy'n derbyn Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd.