Neidio i'r prif gynnwy

Bydd hyfforddiant newydd yn cael ei gyflwyno ar draws GIG Cymru i staff gofal iechyd sy’n wynebu’r cyhoedd er mwyn eu galluogi i gefnogi pobl ag anableddau dysgu sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Dyna gyhoeddiad y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd cam cyntaf Rhaglen Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anableddau Dysgu Paul Ridd ar gyfer staff gofal iechyd, yr hyfforddiant Lefel Sylfaen, yn dechrau ar 1 Ebrill. Bydd yn allweddol i ‘leihau anghydraddoldebau iechyd i bobl ag anableddau dysgu’, ac mae’n un o’r deilliannau allweddol yn rhaglen Gwella Bywydau Anableddau Dysgu Llywodraeth Cymru 2018. Mae’r cam cyntaf, sy’n cael ei hyrwyddo gan Sefydliad Paul Ridd a Mencap Cymru wedi bod yn gydweithrediad rhwng Gwella Cymru ynghyd â Llywodraeth Cymru, Sefydliad Paul Ridd, pobl ag anableddau dysgu, Prifysgol De Cymru, y gwasanaethau iechyd a’r trydydd sector.

Nod yr hyfforddiant yw gwella gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n wynebu pobl ag anableddau dysgu pan fyddant yn ceisio gwasanaethau gofal iechyd. Bydd yn galluogi staff a darparwyr gofal iechyd i ddeall anghenion penodol yr unigolyn a gwneud addasiadau rhesymol a fydd yn diwallu’r anghenion hynny.

I gydnabod y pwysau cyson sy’n wynebu staff gofal iechyd a heriau parhaus y pandemig, bydd yr hyfforddiant lefel sylfaen yn cael ei ddarparu drwy raglen ar-lein. I ategu’r hyfforddiant hwn, bydd Sefydliad Paul Ridd yn parhau i gynnig hyfforddiant ychwanegol a phwrpasol i ddarparwyr gofal iechyd sy’n gofyn amdano.  

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

Mae gan bawb yr hawl i gael gwasanaethau gofal iechyd ac mae’n bwysig ein bod ni fel llywodraeth yn sicrhau nad yw unrhyw un yn wynebu rhwystrau y gellir eu dileu gydag ychydig o feddwl a chynllunio. Rwy’n falch o wneud y cyhoeddiad hwn heddiw ac rwy’n ddiolchgar i sefydliad Paul Ridd am eu gwaith parhaus i wella ymwybyddiaeth o’r rhwystrau y mae pobl ag anableddau dysgu’n eu hwynebu weithiau pan fyddant yn ceisio cael gwasanaethau. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i staff GIG Cymru sy’n darparu gofal hanfodol ac a fydd nawr yn gwneud yr hyfforddiant hwn i gefnogi pobl ag anableddau dysgu ymhellach. Rwy’n bwriadu edrych ar ddewisiadau ar gyfer cyflwyno’r hyfforddiant pwysig hwn i staff gofal cymdeithasol ar draws Cymru.

Dywedodd Jonathan Ridd a Jayne Nicholls, sylfaenwyr ac ymddiriedolwyr Sefydliad Paul Ridd:

Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael y cyfle i weithio gyda’r GIG yng Nghymru a Llywodraeth Cymru i gynhyrchu’r Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anableddau Dysgu hwn. Ers marwolaeth Paul yn 2009, rydym wedi gweithio’n ddiflino i wella ymwybyddiaeth o’r anghydraddoldebau sy’n wynebu pobl ag anableddau dysgu pan fyddant yn ceisio gofal iechyd. Mae’r hyfforddiant hwn yn garreg filltir i ni, gan y bydd staff gofal iechyd rheng flaen yn y GIG yng Nghymru nawr yn gorfod cwblhau Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anableddau Dysgu Paul Ridd. 

Bydd yr adnodd hwn yn rhoi peth ymwybyddiaeth i staff o’r rhwystrau sy’n wynebu pobl ag anableddau dysgu pan fyddant yn ceisio gofal iechyd, a bydd yn eu galluogi i ddileu’r rhwystrau hynny.  

Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r hyfforddiant hwn ymhellach a’i ehangu gyda’r ail a’r drydedd haen.