Neidio i'r prif gynnwy

Cyfle i weld sut mae arferion ffermio'n newid a sut mae’r hyn a ddysgir yn cael ei rannu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
Pendre, sheep farm

Mae Tom a Beth Evans yn ffermio ym Mhendre, fferm ddefaid yn Llanfihangel-y-Creuddyn ger Aberystwyth.

Ers 2019, mae Pendre wedi bod yn safle arddangos ar gyfer rhaglen Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cymru, sy’n helpu ffermydd i ymchwilio i ffyrdd mwy effeithlon a phroffidiol o reoli eu busnesau, yn ogystal â’u treialu a’u gweithredu. Yna, caiff y canlyniadau eu rhannu i annog dysgu ar draws y sector amaethyddol yng Nghymru.

Cyn i’r fferm ddod yn safle arddangos, roedd y teulu Evans eisoes wedi arbrofi gyda phori cylchdro. Mae pori cylchdro yn cyfeirio at system lle mae da byw yn cael eu crynhoi ar ardal lai o dir pori trwy rannu caeau mwy yn badogau ac yna eu symud bob ychydig ddyddiau, Tom dywed:

"Dechreuon ni gadw’r defaid mewn grŵp tynnach a’u symud bob dau neu dri diwrnod i badog gwahanol. Mae’n golygu ei fod yn rhoi gorffwys i’r caeau ac yn caniatáu i’r glaswellt dyfu. Ni fydden ni’n symud y defaid yn ôl i badog nes bod tua 22 i 30 diwrnod wedi mynd heibio, yn dibynnu ar y tywydd a'r tymor."

Eglura Tom:

"Mae rhoi cyfnod gorffwys i’r caeau yn golygu bod adeiledd gwreiddiau’r glaswellt yn cael ei wella ac yn cronni egni. Yna, mae'r glaswellt yn tyfu'n llawer cyflymach. Rydym yn tyfu traean yn fwy o laswellt y flwyddyn felly rydym wedi haneru ein defnydd o borthiant crynodedig. Bu’r buddion yn ariannol yn ogystal ag yn amgylcheddol."

Gyda phorthiant wedi'i brynu i mewn sy'n cynnwys soia ac yn dod o ochr arall y byd, mae arbediad carbon mawr o ran y daith cludo.

Ac mae arwyddion cynnar sy'n dangos bod pori cylchdro yn cynyddu deunydd organig yn y pridd. Mae hyn yn helpu i atafaelu, neu storio, carbon, sy'n golygu nad yw'n cael ei ollwng i'r atmosffer.

Yn ddiweddar, cynhaliodd Cyswllt Ffermio weminar fyw o Bendre, gan egluro pe bai lefelau carbon sy’n cael ei atafaelu yn cynyddu 0.3% yn unig y byddai’r fferm mewn sefyllfa garbon negatif, sy’n golygu ei bod yn amsugno mwy o garbon nag y mae’n ei ryddhau, Mae Tom yn ychwanegu:

"Rwyf hefyd wedi gallu cynyddu fy nghyfraddau stocio ar y fferm, felly mae allbynnau fesul hectar wedi codi."

Mae’r ffermwr o Orllewin Cymru wedi mynychu rhaglen Rhagori ar Bori, a oedd yn ei annog i roi cynnig arni:

"Rydyn ni’n ffermio ar raddfa weddol fach, felly mae angen i ni wneud y mwyaf o’r hyn sydd gennym. Mae tir yn ddrud iawn a byddwn yn cael trafferth ei brynu, felly rwy’n meddwl bod hynny wir yn ein hysgogi i fod yn fwy arloesol."

Mae Rhagori ar Bori yn rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus sy’n ceisio datblygu gwybodaeth a hyder wrth reoli tir pori. Ers i Tom ymuno â’r rhaglen, mae wedi esblygu ac mae bellach yn cynnig addysg ar Lefel Mynediad, Meistr ar Borfa a Lefel Uwch.

Ariannwyd y rhaglen gan Cyswllt Ffermio a’i chyflwyno gan Precision Grazing Ltd, sydd wedi cynghori’r teulu Evans a’u helpu i fesur eu cynnydd.

Fel safle arddangos, cynhaliodd Pendre ddiwrnod agored er mwyn i ffermwyr eraill gael gwybod mwy am yr hyn sydd wedi’i gyflawni yn ogystal â gwersi i’w dysgu ar gyfer y dyfodol.

Yn ogystal â dyletswyddau ffermio ym Mhendre, mae Tom yn cael ei gyflogi gan Welsh Lamb and Beef Producers Ltd, tra bo’i wraig, Beth, yn ddirprwy bennaeth mewn ysgol leol. Mae’r tîm gŵr a gwraig hefyd wedi arallgyfeirio’n ddiweddar i fenter dewis eich pwmpen eich hun ac yn gobeithio cael caniatâd cynllunio ar gyfer podiau glampio:

"Rwy’n meddwl bod Cyswllt Ffermio yn awyddus ein bod yn cymryd rhan fel safle arddangos oherwydd mae’n dod yn fwyfwy cyffredin i weld ffermwyr sydd ag ail swydd."

Ac wrth i Gymru symud tuag at ei huchelgais o ddod yn Sero Net erbyn 2030, mae Tom yn credu y bydd y byd ffermio yn gweld newidiadau aruthrol:

"Mae yna newidiadau sylweddol ar y gweill. Rwy'n meddwl y bydd angen mabwysiadu sgiliau newydd yn y maes ffermio a bydd angen i ni fyw heb gymaint o atchwanegiadau fel nitrogen a phorthiant. Yn y dyfodol, rwy’n meddwl y byddwn yn gweld offeryn safonol i fesur ôl troed carbon fferm a bydd hynny’n rhoi man cychwyn gwirioneddol i ffermwyr."

Mae Rhodri Jones o Menter a Busnes yn cytuno:

"Mae'r pwysau amgylcheddol ac ariannol presennol wedi ysgogi ffermwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a mabwysiadu sgiliau newydd er mwyn cyrraedd ein targed sero net o fewn y diwydiant. Rydym yn gweld nifer o fusnesau tebyg i un Tom o fewn y rhaglen Rhagori ar Bori sy'n lleihau eu mewnbwn yn sylweddol wrth gynnal lefelau uchel o gynhyrchu trwy reoli tir pori yn well a buddsoddi mewn seilwaith pori."

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am leihau carbon a’r ystod gynhwysfawr o wasanaethau cymorth, canllawiau, digwyddiadau hyfforddi ac offer ar-lein, ewch i wefan Cyswllt Ffermio.