Pam ein bod wedi cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya.
Cynnwys
Pam wnaethoch chi gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr ledled Cymru?
Mae’r dystiolaeth ledled y byd yn glir iawn - bydd gostwng cyflymder yn arbed gwrthdrawdiadau, arbed bwyydau a lleihau anafiadau – gan helpu i wella ansawdd bywyd a gwneud ein strydoedd a’n cymunedau lleol yn fwy diogel i bawb.
Roedd astudiaeth iechyd y cyhoedd yn amcangyfrif y gallai’r terfyn cyflymder diofyn yng Nghymru o 20mya arwain – bob blwyddyn – at:
- 40% yn llai o wrthdrawiadau
- 6 i 10 o fywydau’n cael eu harbed pob blwyddyn
- 1200 i 2000 o bobl yn osgoi anafiadau
Bydd y newid hefyd yn:
- gwneud strydoedd yn fwy diogel ar gyfer chwarae, cerdded a seiclo
- annog mwy o bobl i gerdded, olwynio neu feicio
- gwneud ein cymunedau yn fwy diogel
- gwella iechyd a lles
- lleihau llygredd sŵn
Cafodd y ddeddfwriaeth ei chymeradwyo gan Senedd Cymru ym mis Gorffennaf 2022.
Ydy pob ffordd 30mya wedi newid i 20mya?
Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar ffyrdd oedd yn ffyrdd 30mya cyn 17 Medi 2023, ond ddim bob un.
Gwnaeth y gyfraith newid y cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig. Sef fel arfer strydoedd preswyl neu brysur i gerddwyr gyda goleuadau stryd.
Darparwyd canllawiau i awdurdodau lleol i'w helpu i ddewis pa rai o'u ffyrdd ddylai aros ar 30mya.
Rydym wedi cyhoeddi map ar MapDataCymru sy'n dangos pa ffyrdd sydd yn aros ar 30mya.
Faint mae'r newid hwn yn ei gostio?
Mae cyflwyno'r terfyn cyflymder o 20mya wedi costio tua £32 miliwn.
Mae'r arbedion a ddaw o osgoi anafiadau yn drech na chost y newid. Yn ôl amcangyfrifon un astudiaeth, gallai’r arbedion fod gymaint â £92 miliwn y flwyddyn. A hynny heb ystyried manteision iechyd ehangach cael pobl i gerdded a beicio mwy.
Pam mae pobl yn dweud y bydd y newid hwn yn costio £4.5 biliwn i'r economi?
Mae ein hasesiad yn dangos y gall lleihau cyflymder i 20mya arwain at gynnydd cyfartalog o un munud fesul taith, ond bod 9 o fywydau yn cael eu hachub a 98 o anafiadau difrifol yn cael eu hatal bob blwyddyn.
Cyn i'r gyfraith gael ei phasio, lluniwyd asesiad effaith a oedd yn ystyried yr holl gostau posibl. Cafodd hyn ei gynnwys yn y memorandwm esboniadol.
Roedd yn cynnwys costau unrhyw oedi i amser teithio, gan gynnwys teithiau hamdden, dros 30 mlynedd. Mae'r dull a ddefnyddiwyd bellach yn destun trafodaeth academaidd am ei effeithiolrwydd wrth gyfrifo cyfnodau byr o oedi.
Felly, mae'n bosibl na fydd y gost amcangyfrifedig i'r economi yn adlewyrchiad cywir o'r gwir gost.
Yr amser teithio ychydig yn hirach oedd yr unig effaith economaidd negyddol a nodwyd.
Yn ôl amcangyfrifon un astudiaeth, gall yr arbedion ariannol a ddaw o osgoi anafiadau, gan gynnwys ymhlith eraill yr effaith lai ar y GIG a'r gwasanaethau brys, fod gymaint â £92 miliwn y flwyddyn.
Beth wnaethoch ddysgu o’r ardaloedd treialu 20mya?
Treialwyd y terfyn cyflymder 20mya gennym mewn 8 ardal. Y rhain oedd:
- Y Fenni a Glannau Hafren, Sir Fynwy
- Gogledd Caerdydd
- Bwcle, Sir y Fflint
- Pentref Cil-ffriw, Castell-nedd a Phort Talbot
- Llandudoch, Sir Benfro
- Saint-y-brid, Bro Morgannwg
- Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin
Cewch ddarllen yr adroddiad monitro terfynol a’r adroddiad monitro cyntaf ar wefan Trafnidiaeth Cymru, sy'n manylu ar rai o'r effeithiau y mae cyflwyno 20mya wedi'u cael yn y cymunedau hyn. Mae'r cyflymder cyffredinol wedi lleihau yn yr ardaloedd hyn.
Beth newidiodd ar ôl i'r terfyn gael ei roi ar waith yn yr ardal anheddu gyntaf?
Gwnaethom ddefnyddio'r profiadau yn yr ardaloedd treialu i'n helpu i ddeall y ffordd orau o gyflwyno'r cyflymder diofyn o 20mya ledled Cymru.
Roedd yr adborth yn ein galluogi hefyd i wella'r canllawiau i awdurdodau lleol ar sut i nodi pa ffyrdd y dylid eu heithrio o'r terfyn cyflymder diofyn newydd.
A fydd y terfyn cyflymder o 20mya yn cael ei orfodi?
Mae GanBwyll a phartneriaid yr heddlu yn cymryd ymagwedd dan arweiniad ymgysylltu ar orfodi 20mya.
Dechreuodd y gwaith sy'n canolbwyntio ar ymgysylltu o'r enw Ymgyrch Ugain ym mis Ionawr 2024. Mae timau'n defnyddio monitro cyflymder ac yn atal y rhai sy'n gyrru dros y terfyn 20mya i gynnig dewis rhwng dirwyon a phwyntiau neu ymgysylltu ar ochr y ffordd fel dewis arall. Ni fydd y gyrwyr mwyaf peryglus yn gymwys a byddant yn cael eu herlyn.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan GanBwyll.
A wnaiff Llywodraeth Cymru dderbyn arian o ddirwyon goryrru sy'n gysylltiedig ag 20mya?
Nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn unrhyw arian o ddirwyon goryrru. Fel gyda phob dirwy sy'n goryrru, bydd unrhyw arian a gynhyrchir yn mynd i Drysorlys EM.
Pam mae'r Gwasanaeth Tân yn rhan o ddigwyddiadau ymgysylltu 20mya?
Gan bod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn mynychu mwy o alwadau i wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd na thanau mewn tai, mae ganddynt dîm diogelwch ffyrdd pwrpasol. Nid yw'r timau hyn yn ymwneud â galwadau i argyfyngau a'u nod yw rhoi gwybod i yrwyr am ganlyniadau gwrthdrawiadau a achosir gan oryrru.
Ar ôl gweld canlyniadau llawer o wrthdrawiadau, maent mewn sefyllfa dda i ymgysylltu â gyrwyr ac maent yn ymwneud â'r agwedd hon ar y broses o gyflwyno 20mya.
Oni fydd 20mya yn atal y gwasanaethau brys rhag cyrraedd galwadau brys mewn da bryd?
Yn ôl y gyfraith, caniateir i'r heddlu, gwasanaethau tân ac ambiwlans fynd dros derfynau cyflymder i ymateb i alwadau brys. Nid yw cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn newid hynny ac felly ni ddylid gweld oedi cyn ymateb.
Mae'r heddlu'n credu na fydd amseroedd ymateb yn cael eu heffeithio ac y gallai'r ffyrdd arafach ei gwneud yn haws i'r gwasanaethau brys gyrraedd.
Bydd 20mya yn achosi mwy o dagfeydd, oni fydd?
Na fydd, nid ydym yn credu y bydd terfyn cyflymder o 20mya yn cynyddu tagfeydd na nifer y cerbydau sy'n gyrru ar y ffordd.
Nid yw 20mya yn Rheolau’r Ffordd Fawr. Byddaf yn parhau i yrru yn unol â hwnnw
Diweddarwyd Reholau'r Ffordd Fawr ar-lein ar 17 Medi 2023 i adlewyrchu'r terfyn cyflymder o 20mya yng Nghymru.
Mae'r prawf theori gyrru a'r profion ymarferol hefyd wedi’u diwygio gan y DVSA.
Sut bydd terfyn cyflymder is yn hyrwyddo cerdded a beicio?
Mae cyflymder is yn golygu bod pobl yn teimlo'n fwy cyfforddus i gerdded a beicio ac mae'n fwy diogel i blant gerdded i'r ysgol. Bydd pobl hŷn, pobl anabl neu bobl ag anghenion ychwanegol yn teimlo'n fwy abl i deithio'n annibynnol.
Mae cyflymder cerbydau yn un o’r prif resymau pam nad yw pobl yn cerdded neu feicio neu ddim yn caniatâu i’w plant gerdded neu feicio i’r ysgol.
A fydd gostwng cyflymder yn cynyddu llygredd aer?
Gwelodd yr Imperial College yn Llundain fod ardaloedd sydd wedi’u cyfyngu i 20mya yn "niwtral o ran llygredd". Mae llawer o bethau'n cyfrannu at lefelau llygredd. Maent yn cynnwys:
- arddull gyrru,
- cyflymu
- brecio,
- cyflwr cerbyd
- pellter sy’n cael ei deithio a
- thymheredd yr injan.
Credwn y bydd y terfynau cyflymder is yn annog mwy o bobl i ddewis ffyrdd llesol o deithio a bydd llai o geir sy’n llygru ar y ffyrdd.
Sut mae terfyn cyflymder is yn gwella diogelwch?
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella diogelwch cerddwyr yw lleihau cyflymder cerbydau.
Yn 2022, mae ffigyrau'r heddlu yn dangos bod 51% o wrthdrawiadau wedi digwydd ar ffyrdd 30mya.
Mae adroddiad Transport for London wedi dangos, ers cyflwyno terfynau 20mya, bod gwelliannau mawr wedi bod o ran diogelwch y ffyrdd. Gwelwyd gostyngiad o 25% yn nifer y gwrthdrawiadau arweiniodd at farwolaeth neu anaf difrifol yn Ardal Tâl Atal Tagfeydd Llundain, o’i gymharu â gostyngiad o 10% ledled Llundain.
Drwy leihau'r cyflymder diofyn, bydd yn ei gwneud yn haws i yrwyr stopio mewn pryd i atal gwrthdrawiadau.
Yn ôl Rheolau’r Ffordd Fawr, yn y pellter y gall car sy’n teithio ar 20mya stopio, bydd car sy’n teithio ar 30mya yn dal i wneud 24mya.
Mae Sefydliad Ymchwil Trafnidiaeth Prifysgol Edinburg Napier yn pwyntio at dystiolaeth yn dangos bod person tua pum gwaith yn fwy tebygol o gael ei ladd pan gaiff ei daro gan gerbyd oedd yn teithio ar oddeutu 30mya nag y maent o gerbyd oedd yn teithio tua 20mya.
Pa effaith fydd y terfyn cyflymder yn ei chael ar amseroedd teithio?
Mae amseroedd teithio ar ffyrdd mewn ardaloedd trefol yn tueddu i gael eu penderfynu gan gyffyrdd a signalau, yn hytrach na'r terfyn cyflymder.
Mewn nifer o achosion, ni fydd gostwng y terfyn cyflymder i 20mya yn cael fawr ddim effaith ar amseroedd teithio. Lle y gwelir effaith, roedd ein dadansoddiad yn dangos y byddai'r teithiau arferol ond tua 1 munud yn hirach, ond byddai hyn yn gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i gerddwyr a seiclwyr.
Pam na ellir defnyddio’r terfyn 20mya ger ysgolion yn unig?
Byddai cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn gwneud plant yn fwy diogel o'r eiliad y maent yn gadael eu cartref - waeth ble maen nhw'n mynd, ac yn eu cadw'n ddiogel – o fewn a thu allan i oriau ysgol.
Ni fydd terfyn cyflymder o 20mya y tu allan i'r ysgol yn gwarchod plant ar gyfer y daith gyfan wrth iddynt gerdded neu feicio gartref, dim ond ger yr ysgol y byddai'n eu gwarchod.
Ond nid dim ond gwarchod plant yw’r bwriad. Mae'r newid hwn wedi'i gynllunio i wneud strydoedd yn fwy diogel i bob un ohonom.
Sut mae arwyddion ar gyfer 20mya yn gweithio?
Mae prif arwyddion y porth sy'n dangos y terfyn cyflymder, sef yr arwyddion mwy a welir wrth i chi fynd i mewn i ardal sydd â therfyn cyflymder gwahanol, ar waith i ddangos yn glir y terfyn cyflymder cywir mewn ardaloedd adeiledig (30mya neu 20mya).
Nid yw arwyddion atgoffa 20mya, sef yr arwyddion bach siâp cylch sydd i’w gweld ar oleuadau stryd yn aml, yn cael eu caniatáu bellach ar ffyrdd lle mae'r terfyn cyflymder diofyn yn 20mya. Fodd bynnag, gan eu bod yn dangos y cyflymder cywir, bydd gan yr awdurdodau priffyrdd 12 mis o'r dyddiad dod i rym i dynnu’r arwyddion hynny. Mae hynny hefyd yn wir am arwyddion parth 20mya y tu allan i ysgolion ac mae gan yr awdurdodau priffyrdd hyd at bum mlynedd i dynnu arwyddion 20mya sydd wedi'u peintio ar wynebau’r ffyrdd.
Mewn unrhyw ardaloedd 20mya lle nad oes goleuadau stryd, mae arwyddion ychwanegol ar waith i nodi'n glir y terfyn cyflymder.
Os ydych yn gweld goleuadau stryd mewn ardaloedd adeiledig, cofiwch fod hynny’n golygu 20mya, oni bai bod arwyddion yn nodi fel arall.
A fydd cyflwyno hyn yn golygu gwario arian ar bympiau cyflymder?
Nid oes cynllun i gynnwys ffyrdd o ostegu traffig (gan gynnwys bympiau cyflymder) fel rhan o'r newid i derfynau cyflymder. Mae mesurau 'meddalach' eraill y gellid eu cyflwyno, megis defnyddio terfynau cyflymder byffer, cael gwared ar y llinell ganol, culhau'r ffordd gerbydau yn weledol, plannu ac ati.
A fydd lleihau cyflymder i 20mya yn niweidio fy nghar?
Bydd cael pobl i yrru’n arafach yn arwain at lai o grafu ar deiars, y ffyrdd a’r brêcs. Mae gyrru esmwyth, a chyflymu a brecio llai, yn cynhyrchu llai o ronynnau wrth dreulio’r brêcs a'r teiars. Gallwch darllen mwy ar wefan Trafnidiaeth Llundain.
A fydd gyrru ar gyflymder o 20mya yn golygu fy mod yn defnyddio mwy o danwydd?
Na. Y ffordd rydyn ni'n gyrru sy’n dylanwadu ar y defnydd o danwydd yn bennaf - mae gyrru ar gyflymder cyson yn well na stopio ac ail-gychwyn (gweler Trosolwg NICE | Llygredd aer: ansawdd yr aer yn yr awyr agored a iechyd | Canllawiau | NICE. Gall terfyn 20 mya diofyn a dull gyrru llyfn, helpu i osgoi cyflymu ac arafu diangen, gan arbed tanwydd.
Gall cyflymu hyd at 30mya gymryd ddwywaith yn fwy o ynni â chyflymu hyd at 20mya.
Pam fod beiciau yn cael fy ngoddiweddyd pan dwi'n gyrru ar 20mya?
Mae terfynau cyflymder yn Rheoliadau Traffig Ffyrdd a Rheolau'r Ffordd Fawr yn berthnasol i gerbydau modur yn unig ac nid i feiciau.
Mae Rheolau'r Ffordd Fawr wedi'u diweddaru i gynnwys 3 rheol newydd ynghylch 'hierarchaeth defnyddwyr ffyrdd' newydd.
Mae'r hierarchaeth yn rhoi’r defnyddwyr ffyrdd hynny sydd yn y perygl mwyaf os bydd gwrthdrawiad ar frig yr hierarchaeth. Nid yw'n dileu'r angen i bawb ymddwyn yn gyfrifol.
Mae'n bwysig bod pob defnyddiwr ffordd:
- yn ymwybodol o Reolau'r Ffordd Fawr
- yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill y ffordd
- yn deall eu cyfrifoldeb am ddiogelwch pobl eraill
Ble arall mae terfynau cyflymder 20mya wedi'u cyflwyno?
Mae terfynau cyflymder 20mya yn gyffredin yn rhannau eraill y DU ac Ewrop.
Mae terfynau cyflymder 20mya mewn grym mewn sawl dinas yn Lloegr. Mae’r Alban ac Iwerddon ar fin estyn ardaloedd 20mya a 30kmya.
Mae ardaloedd 30kmya ac 20mya yn cael eu cyflwyno ledled y byd, gan gynnwys yn:
- Sbaen
- Ffrainc
- Yr Eidal
- Y Ffindir
- Yr Almaen
- Ecuador
- Lloegr
- Yr Alban