Pam rydym yn cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya.
Cynnwys
Pam ydych chi wedi cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr ledled Cymru?
Mae’r dystiolaeth ledled y byd yn glir iawn - bydd gostwng cyflymder yn arbed gwrthdrawdiadau, arbed bwyydau a lleihau anafiadau – gan helpu i wella ansawdd bywyd a gwneud ein strydoedd a’n cymunedau lleol yn fwy diogel i bawb.
Roedd astudiaeth iechyd y cyhoedd yn amcangyfrif y gallai’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya arwain – bob blwyddyn – at:
- 40% yn llai o wrthdrawiadau
- 6 i 10 o fywydau’n cael eu harbed pob blwyddyn
- 1200 i 2000 o bobl yn osgoi anafiadau
Bydd y newid hefyd yn:
- gwneud strydoedd yn fwy diogel ar gyfer chwarae, cerdded a seiclo
- annog mwy o bobl i gerdded, olwynio neu feicio
- gwneud ein cymunedau yn fwy diogel
- gwella iechyd a lles
- lleihau llygredd sŵn
Cafodd y ddeddfwriaeth ei chymeradwyo gan Senedd Cymru ym mis Gorffennaf 2022.
Pam ydych chi wedi gwneud y newid cyffredinol hwn?
Nid yw'r newid yn un ‘cyffredinol’. Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffyrdd 30mya, ond nid pob un.
Mae'r gyfraith yn newid y cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig. Mae'r rhain fel arfer yn strydoedd preswyl neu brysur i gerddwyr gyda goleuadau stryd.
Darparwyd canllawiau i awdurdodau lleol i'w helpu i ddewis pa rai o'u ffyrdd ddylai aros ar 30mya.
Rydym wedi cyhoeddi map ar MapDataCymru sy'n dangos pa ffyrdd fydd yn aros ar 30mya.
Faint mae'r newid hwn yn ei gostio?
Mae cyflwyno'r terfyn cyflymder o 20mya yn costio £32 miliwn.
Mae'r gost yn cael ei orbwyso gan yr arbedion atal anafiadau, gan gynnwys lleihad yn yr effaith ar y GIG a'r gwasanaethau brys. Mae un astudiaeth iechyd cyhoeddus yn amcangyfrif y gallai'r arbedion hyn fod hyd at £92m bob blwyddyn. A hynny heb ystyried manteision iechyd ehangach pobl yn cerdded a beicio mwy.
Pam mae pobl yn dweud y bydd y newid hwn yn costio £4.5 biliwn i'r economi?
Mae ein hasesiad yn dangos y gall lleihau cyflymder i 20mya arwain at gynnydd cyfartalog o un munud fesul taith, 9 o fywydau wedi'u hachub ac atal 98 o anafiadau difrifol bob blwyddyn.
Cyn i'r gyfraith gael ei phasio, lluniwyd asesiad effaith a oedd yn ystyried yr holl gostau posibl. Cafodd hyn ei gynnwys yn y memorandwm esboniadol.
Roedd yn cynnwys costau unrhyw oedi i amser teithio. Mae'r dull a ddefnyddir bellach yn destun trafodaeth academaidd am ei effeithiolrwydd wrth gyfrifo cyfnodau byr o oedi.
Felly, mae'n bosibl na fydd y gost amcangyfrifedig o £4.5 biliwn dros 30 mlynedd i'r economi yn adlewyrchiad cywir o'r gwir gost.
Yr amser teithio ychydig yn hirach oedd yr unig effaith economaidd negyddol a nodwyd.
Amcangyfrifir y gallai'r arbedion atal anafiadau, gan gynnwys yr effaith lai ar y GIG a'r gwasanaethau brys, fod hyd at £92m bob blwyddyn.
Beth wnaethoch ddysgu o’r ardaloedd treialu 20mya?
Treialwyd cyflwyno terfyn cyflymder 20mya gennym mewn 8 ardal. Y rhain oedd:
- Y Fenni a Glannau Hafren, Sir Fynwy
- Gogledd Caerdydd
- Bwcle, Sir y Fflint
- Pentref Cil-ffriw, Castell-nedd a Phort Talbot
- Llandudoch, Sir Benfro
- Saint-y-brid, Bro Morgannwg
- Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin
Cewch ddarllen yr adroddiad monitro cyntaf sy'n manylu ar rai o'r effeithiau y mae cyflwyno 20mya wedi'u cael yn y cymunedau hyn. Mae'r cyflymder cyffredinol wedi lleihau yn yr ardaloedd hyn.
Gwelwyd y newidiadau ymddygiad cadarnhaol mwyaf arwyddocaol yn Saint-y-brid a Llandudoch. Mae pobl sy'n teithio ar neu o dan 24mya yn Saint-y-brid wedi cynyddu o 23% i 45% ar ôl cyflwyno 20mya. Ac yn Llandudoch bu cynnydd o 54% i 84%.
Mae ymchwil yn dangos fod teithio 1mya yn arafach wrth yrru mewn ardaloedd trefol, yn lleihau nifer y gwrthdrawiadau 6% ar gyfartaledd.
Mae disgwyl i'r adroddiad monitro nesaf gael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2023.
Beth newidiodd ar ôl i'r ardal anheddu gyntaf gael ei gweithredu?
Gwnaethom ddefnyddio'r profiadau yn yr ardaloedd treialu i'n helpu i ddeall y ffordd orau o gyflwyno'r cyflymder diofyn o 20mya ledled Cymru.
Roedd yr adborth yn ein galluogi hefyd i wella'r canllawiau i awdurdodau lleol ar sut i nodi pa ffyrdd y dylid eu heithrio o'r terfyn cyflymder diofyn newydd.
A fydd y terfyn cyflymder o 20mya yn cael ei orfodi?
Bydd yr Heddlu a GanBwyll yn gorfodi 20mya, fel unrhyw derfyn cyflymder arall, i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i'r holl ddefnyddwyr. Byddant hefyd yn cysylltu â modurwyr i sicrhau bod y terfynau cyflymder newydd yn cael eu parchu.
Dim ond cynllun gwneud arian yw hwn i Lywodraeth Cymru, ynde?
Na. Mae hwn yn gynllun diogelwch ar y ffyrdd.
I ddechrau, bydd dull ymgysylltu ar gyfer gyrwyr sy'n gyrru ychydig dros y terfyn. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael yma: GanBwyll – Gorfodi 20mya
Bydd pobl sy'n cael eu dal yn goryrru'n sylweddol dros 20mya, fel gydag unrhyw derfyn cyflymder arall, mewn perygl o gael dirwy a phwyntiau ar eu trwydded.
Mae'r arian a gynhyrchir gan ddirwyon goryrru 20mya, fel gyda phob dirwy goryrru, yn cael ei anfon at Drysorlys EF. Nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn unrhyw arian o ddirwyon goryrru.
Pam mae'r Gwasanaeth Tân yn rhan o ddigwyddiadau gorfodi 20mya?
Gan bod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn mynychu mwy o alwadau i wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd na thanau mewn tai, mae ganddynt dîm diogelwch ffyrdd pwrpasol. Nid yw'r timau hyn yn ymwneud â galwadau i argyfyngau a'u nod yw rhoi gwybod i yrwyr am ganlyniadau gwrthdrawiadau a achosir gan oryrru.
Ar ôl gweld canlyniadau llawer o wrthdrawiadau, maent mewn sefyllfa dda i ymgysylltu â gyrwyr ac maent yn ymwneud â'r agwedd hon ar y broses o gyflwyno 20mya.
Oni fydd 20mya yn atal y gwasanaethau brys rhag cyrraedd galwadau brys ar amser?
Yn ôl y gyfraith, caniateir i'r heddlu, gwasanaethau tân ac ambiwlans fynd dros derfynau cyflymder i ymateb i alwadau brys. Nid yw cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn newid hynny ac felly ni ddylid gweld oedi cyn ymateb.
Mae'r heddlu'n credu na fydd amseroedd ymateb yn cael eu heffeithio ac y gallai'r ffyrdd arafach ei gwneud yn haws i'r gwasanaethau brys gyrraedd.
Bydd 20mya yn achosi mwy o dagfeydd, bydd?
Na fydd, nid ydym yn credu y bydd terfyn cyflymder o 20mya yn cynyddu tagfeydd na nifer y cerbydau sy'n gyrru ar y ffordd.
Cefnogir hyn gan dystiolaeth o Sbaen sydd wedi cyflwyno 20mya neu derfynau cyflymder diofyn tebyg.
Nid yw 20mya yn Rheolau’r Ffordd Fawr. Byddaf yn parhau i yrru yn unol â hwnnw
Caiff Rheolau'r Ffordd Fawr ei ddiweddaru ar-lein ar 17 Medi i adlewyrchu'r terfyn cyflymder o 20mya yng Nghymru.
Mae'r prawf theori gyrru a'r profion ymarferol hefyd wedi’u diwygio gan y DVSA.
Pam ydych chi'n dod â hyn i mewn pan nad oes neb yn ei gefnogi?
Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru (63%) yn cefnogi terfyn cyflymder is ble mae pobl yn byw.
Pasiwyd y gyfraith hefyd gan fwyafrif yn y Senedd.
Sut fydd terfyn cyflymder is yn hyrwyddo cerdded a beicio?
Mae cyflymder is yn golygu bod pobl yn teimlo'n fwy cyfforddus i gerdded a beicio ac mae'n fwy diogel i blant gerdded i'r ysgol. Bydd pobl hŷn, pobl anabl neu bobl ag anghenion ychwanegol yn teimlo'n fwy abl i deithio'n annibynnol.
Mae tystiolaeth ledled y byd bod cyflymder cerbydau yn un o'r prif resymau pam nad yw pobl yn cerdded neu feicio neu ddim yn caniatáu i'w plant gerdded neu feicio i'r ysgol.
A fydd gostwng cyflymder yn cynyddu llygredd aer?
Gwelodd yr Imperial College fod ardaloedd sydd wedi’u cyfyngu i 20mya yn "niwtral o ran llygredd". Mae llawer o bethau'n cyfrannu at lefelau llygredd. Maent yn cynnwys:
- arddull gyrru,
- cyflymu
- brecio,
- cyflwr cerbyd
- pellter sy’n cael ei deithio a
- thymheredd yr injan.
Credwn y bydd y terfynau cyflymder is yn annog mwy o bobl i ddewis ffyrdd llesol o deithio a bydd llai o geir sy’n llygru ar y ffyrdd.
Sut mae terfyn cyflymder is yn gwella diogelwch?
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella diogelwch cerddwyr yw lleihau cyflymder cerbydau.
Yn 2022, mae ffigyrau'r heddlu yn dangos bod 51% o wrthdrawiadau wedi digwydd ar ffyrdd 30mya.
Mae adroddiad Transport for London wedi dangos, ers cyflwyno terfynau 20mya ar ffyrdd allweddol yn Llundain yn 2020 bod:
- nifer y gwrthdrawiadau cyffredinol wedi gostwng 25%
- gostyngiad o 36% mewn gwrthdrawiadau yn cynnwys defnyddwyr ffyrdd agored i niwed
- gostyngiad o 63% mewn gwrthdrawiadau yn ymwneud â phobl sy'n cerdded
- gostyniad o 25% mewn gwrthdrawiadau yn arwain at farwolaeth neu anaf difrifol.
Drwy leihau'r cyflymder diofyn, bydd yn ei gwneud yn haws i yrwyr stopio mewn pryd i atal gwrthdrawiadau.
Yn y pellter y gall car sy’n teithio ar 20mya stopio, bydd car sy’n teithio ar 30mya yn dal i wneud 24mya.
Mae person tua pum gwaith yn fwy tebygol o gael ei ladd pan gaiff ei daro gan gerbyd oedd yn teithio ar oddeutu 30mya nag y maent o gerbyd oedd yn teithio tua 20mya.
Pa effaith fydd y terfyn cyflymder yn ei gael ar amseroedd teithio?
Mae amseroedd teithio ar ffyrdd mewn ardaloedd trefol yn tueddu i gael eu penderfynu gan gyffyrdd a signalau, yn hytrach na'r terfyn cyflymder.
Mewn nifer o achosion, ni fydd gostwng y terfyn cyflymder i 20mya yn cael fawr ddim effaith ar amseroedd teithio. Lle y gwelir effaith, roedd ein dadansoddiad yn dangos y byddai'r teithiau arferol ond tua 1 munud yn hirach, ond byddai hyn yn gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i gerddwyr a seiclwyr.
Pam na ellir defnyddio’r terfyn 20mya ger ysgolion yn unig?
Byddai cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn gwneud plant yn fwy diogel o'r eiliad y maent yn gadael eu cartref - waeth ble maen nhw'n mynd, ac yn eu cadw'n ddiogel – o fewn a thu allan i oriau ysgol.
Ni fydd terfyn cyflymder o 20mya y tu allan i'r ysgol yn gwarchod plant ar gyfer y daith gyfan wrth iddynt gerdded neu feicio gartref, dim ond ger yr ysgol y byddai'n eu gwarchod.
Ond nid dim ond gwarchod plant yw’r bwriad. Mae'r newid hwn wedi'i gynllunio i wneud strydoedd yn fwy diogel i bob un ohonom.
A fydd yr holl arwyddion ffyrdd yn eu lle ar gyfer 17 Medi?
Ni fydd angen arwyddion 20mya mwyach ar ffyrdd lle mae'r diofyn bellach yn 20mya. Bydd arwyddion terfyn cyflymder ar waith lle mae'r terfyn cyflymder yn newid.
Ni fydd pob arwydd yn cael ei newid ar 17 Medi, ond mae awdurdodau lleol yn gweithio'n galed i gael yr holl arwyddion yn eu lle cyn gynted ag y gallant.
Gall parthau 20mya y tu allan i ysgolion barhau am hyd at 12 mis, yn ogystal ag unrhyw arwyddion ailadrodd 20mya. Gall unrhyw arwydd 20mya sy'n cael eu paentio ar arwynebau ffyrdd barhau am hyd at 5 mlynedd. Gall Awdurdodau Priffyrdd ddewis eu dileu cyn y dyddiadau cau hyn os ydynt yn dewis gwneud hynny.
A fydd cyflwyno hyn yn golygu gwario arian ar bympiau cyflymder?
Nid oes cynllun i gynnwys ffyrdd o ostegu traffig (gan gynnwys bympiau cyflymder) fel rhan o'r newid i derfynau cyflymder. Mae mesurau 'meddalach' eraill y gellid eu cyflwyno, megis defnyddio terfynau cyflymder byffer, cael gwared ar y llinell ganol, culhau'r ffordd gerbydau yn weledol, plannu ac ati.
A fydd lleihau cyflymder i 20mya yn niweidio fy nghar?
Gall ceir modern deithio ar gyflymder o 20mya heb niweidio'r injan neu gydrannau.
Daeth Sbaen â therfyn cyflymder diofyn o 30KMph (19mya) mewn ardaloedd trefol yn 2021. Nid ydynt wedi gweld tystiolaeth o ddifrod i gerbydau o yrru ar y terfyn diofyn newydd.
A fydd gyrru ar gyflymder o 20mya yn golygu fy mod yn defnyddio mwy o danwydd?
Na. Y ffordd rydyn ni'n gyrru sy’n dylanwadu ar y defnydd o danwydd yn bennaf - mae gyrru ar gyflymder cyson yn well na stopio ac ail-gychwyn. Gall cyflymu hyd at 30mya gymryd ddwywaith yn fwy o ynni â chyflymu hyd at 20mya.
Gall terfyn cyflymder diofyn o 20mya a gyrru’’n esmwyth, helpu i osgoi unrhyw gyflymu ac arafu di-angen, gan arbed tanwydd.
Pam fod beiciau yn cael fy ngoddiweddyd pan dwi'n gyrru ar 20mya?
Mae terfynau cyflymder yn Rheoliadau Traffig Ffyrdd a Rheolau'r Ffordd Fawr yn berthnasol i gerbydau modur yn unig ac nid i feiciau.
Mae Rheolau'r Ffordd Fawr wedi'u diweddaru i gynnwys 3 rheol newydd ynghylch 'hierarchaeth defnyddwyr ffyrdd' newydd.
Mae'r hierarchaeth yn rhoi’r defnyddwyr ffyrdd hynny sydd yn y perygl mwyaf os bydd gwrthdrawiad ar frig yr hierarchaeth. Nid yw'n dileu'r angen i bawb ymddwyn yn gyfrifol.
Mae'n bwysig bod pob defnyddiwr ffordd:
- yn ymwybodol o Reolau'r Ffordd Fawr
- yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill y ffordd
- yn deall eu cyfrifoldeb am ddiogelwch pobl eraill
Ble arall mae terfynau cyflymder 20mya wedi'u cyflwyno?
Mae terfynau cyflymder 20mya mewn grym yn nifer o'r dinasoedd canolig a mwy yn Lloegr a'r Alban ac mae mwy o awdurdodau gwledig yn cyflwyno rhaglenni 20mya estynedig ar raddfa fwy.
Os yw'r Alban hefyd yn gosod terfynau cyflymder diofyn 20mya, bydd hyd at 28 miliwn o bobl yn y DU yn byw mewn awdurdodau lleol lle mai 20mya yw'r norm.
Mae terfynau cyflymder 20mya yn nifer o ddinasoedd Lloegr.
Mae cynlluniau i gyflwyno 20mya ar draws Cernyw ac yn yr Alban ac mae mwy o awdurdodau gwledig yn cyflwyno rhaglenni 20mya estynedig ar raddfa fwy, ac maent wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cyflwyno 20mya fel y norm mewn ardaloedd adeiledig.
Mae hyn yn golygu y bydd hyd at 28 miliwn o bobl yn y DU yn byw mewn awdurdodau lleol lle mai 20mya yw'r norm.
Cyflwynodd Sbaen derfyn o 30KMph (tua 19mya) ar gyfer ffyrdd unffrwd mewn ardaloedd trefol yn 2021. Mae ffigurau o 2022 yn dangos bod nifer y cerddwyr sy'n cael eu lladd yn yr ardaloedd hyn wedi gostwng 13% o gymharu â ffigurau cyn y pandemig.
Mae terfynau 30KMph ac 20mya yn cael eu cyflwyno ledled y byd, gan gynnwys yn:
- Sbaen
- Ffrainc
- Yr Eidal
- Y Ffindir
- Yr Almaen
- Ecuador
- Lloegr
- Yr Alban