Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hon yn darparu gwybodaeth am gyflymder cerbydau ar draffyrdd Cymru, sef yr A48(M), yr M4 a’r M48 ar gyfer Ebrill i Mehefin 2016.

Siart yn dangos y cyflymderau cyfartalog ar ddarnau o’r M4 ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru yn ystod oriau brig y bore. Castell-nedd Port Talbot a Chasnewydd yw’r unig awdurdodau lleol  gyda chyflymderau cyfartalog yn is na 60 mya yn y ddau gyfeiriad.

Siart yn dangos y cyflymderau cyfartalog ar ddarnau o’r M4 ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru yn ystod oriau brig gyda'r nos. 33 mya oedd y cyflymder cyfartalog yn Sir Fynwy, tua’r gorllewin, yn ystod yr oriau brig gyda’r nos. Dyma'r cyflymder cyfartalog arafaf ar gyfer unrhyw adeg, cyfeiriad neu awdurdod lleol.

Prif bwyntiau

  • Roedd y cyflymderau cyfartalog ar gyfer yr M4 yn gyson uwch na 60 mya mewn pedwar o'r naw awdurdodau lleol.
  • Cofnodwyd cyflymderau cyfartaog is yng Nghastell-nedd Port Talbot a Chasnewydd i bob cyfeiriad, a hynny yn ystod yr oriau brig yn y bore a gyda’r nos.
  • Roedd yr A48(M) yn aml yn gweld cyflymderau cyfartalog yn is na 60 mya bob chwarter yn ystod oriau brig. Roedd yr A48(M) tua’r gorllewin yn aml yn gweld cyflymderau cyfartalog yn is na 50 mya yn ystod oriau brig y bore.
  • Roedd y cyflymderau cyfartalog ar yr M48 yn gyson i bob cyfeiriad yn ystod oriau brig y bore, ond yn is tua’r gorllewin ar gyfer gweddill y diwrnod.
  • Mae dadansoddiad yn awgrymu cynnydd bach yn y cyflymder cyfartalog ar yr M4 dros gyfnod y data.

Nodyn

Cafwyd y data ar gyfer yr erthygl hon o systemau lleoli byd-eang (GPS).

Adroddiadau

Cyflymder cerbydau ar draffyrdd Cymru, Ebrill i Mehefin 2016: diwygiedig , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.