Mae angen 9,000 o wirfoddolwyr i fod wrth galon y Tour de France a'r Tour de France Femmes avec Zwift Grand Départs yn y DU ym mis Gorffennaf 2027.
Bydd angen tua 1,000 o wirfoddolwyr yng Nghymru ar gyfer trydydd cymal ras y dynion ar 4 Gorffennaf. Mae'r cymal yn dechrau yn y Trallwng, yn mynd trwy dirweddau eiconig, dyffrynnoedd godidog a chanol trefi prysur, cyn gorffen yng Nghaerdydd.
Mae'r cyfnod ymgeisio yn agor heddiw (dydd Mercher 27 Mai) ac yn dod i ben ar 1 Medi 2026.
Caiff unrhyw un sy'n 16 oed a hŷn ei annog i wneud cais - nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol a chaiff hyfforddiant llawn ei roi. Bydd y rhai rhwng 18 a 25 oed hefyd yn gymwys ar gyfer y cynllun Readiness to Work, sy'n cynnig hyfforddiant sgiliau cyflogadwyedd a mentora sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd.
Bydd y gwirfoddolwyr, a gaiff eu hadnabod yn swyddogol fel 'JOY Makers', yn helpu i sicrhau bod y digwyddiadau eiconig hyn yn rhedeg yn ddidrafferth, gan ddod â llawenydd i gefnogwyr a chymunedau ar draws y chwe chymal. Mae amrywiaeth o rolau ar gael ar draws y ddwy daith i helpu â'r gwaith gweithredu a gwella profiad y gwylwyr.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i sicrhau y gall gwirfoddoli ar gyfer y digwyddiadau hyn agor drysau i gyfleoedd pellach ledled Cymru.
Wrth siarad am lansio'r porth ceisiadau, dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:
Mae'r ffaith fod y Tour de France yn dod i Gymru yn gyfle unigryw. Dyma'n cyfle i adeiladu ar waddol Geraint Thomas, ysbrydoli cenhedlaeth newydd i feicio, a dangos y gorau o Gymru i'r byd.
Fel gwirfoddolwr, byddwch yn helpu Cymru i roi 'Croeso' unigryw ac yn cael bod yn rhan o ddigwyddiad hanesyddol, cwrdd â phobl newydd, dathlu eich cymuned a datblygu sgiliau i roi hwb i'ch cyflogadwyedd.
P'un a ydych chi'n wirfoddolwr profiadol neu'n rhoi cynnig arni am y tro cyntaf, mae croeso i bawb. Rwy'n annog unrhyw un sy'n awyddus i gynrychioli ei gymuned drwy'r Grand Départs.
Ychwanegodd Mavis Evans o Sir y Fflint, gwirfoddolwr rheolaidd mewn digwyddiadau beicio:
Fe wnes i wirfoddoli wrth fan croesi yn 2014 pan ddaeth y Tour de France i'r DU ddiwethaf, ac roedd yn brofiad anhygoel o arbennig. Dwi'n cael gwefr dim ond wrth feddwl amdano'n dychwelyd i'r DU. Os ydych chi'n ystyried gwirfoddoli, ewch amdani. All digwyddiadau ddim digwydd heb wirfoddolwyr mae eich help yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Matt Brown:
Bydd gwirfoddolwyr wrth galon y gwaith o ddod â'r Tour de France i Gymru yn 2027. Rydyn ni'n falch iawn ein bod ni'n ffurfio partneriaeth â Llywodraeth Cymru ar gyfer y Tour de France i ysbrydoli gwaddol gwirfoddoli parhaol a fydd yn cryfhau cymunedau ledled Cymru am flynyddoedd i ddod.
