Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer cyfnod ymgysylltu gorchymyn dynodi Parc Cenedlaethol Glyndŵr:
Cynnwys
Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer y cyfnod ymgysylltu hwn ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir mewn cysylltiad â chynrychiolaethau a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod ymgysylltu ar Orchymyn Dynodi y Parc Cenedlaethol Glyndŵr arfaethedig.
Mae'r cyfnod ymgysylltu hwn yn rhoi cyfle i unigolion a sefydliadau gyflwyno tystiolaeth, gwybodaeth neu ystyriaethau materol eraill y gallai Gweinidogion Cymru dymuno eu hystyried cyn dod i benderfyniad terfynol ar y Gorchymyn Dynodi.
Mae gan Weinidogion Cymru swyddogaethau statudol mewn perthynas ag ystyried Gorchmynion Dynodi Parc Cenedlaethol a byddant yn prosesu data personol a ddarperir drwy'r cyfnod ymgysylltu hwn er mwyn llywio arfer y swyddogaethau hynny. Y sail gyfreithiol dros brosesu data personol yw ei fod yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd ac wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yng Ngweinidogion Cymru (Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU).
Sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio
Caiff unrhyw gynrychiolaeth, tystiolaeth neu wybodaeth a gyflwynwch ei ystyried gan swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n cynghori Gweinidogion Cymru ar y Gorchymyn Dynodi arfaethedig a gellir eu defnyddio wrth baratoi cyngor i Weinidogion ynghylch penderfyniad terfynol.
Gellir rhannu eich ymateb o fewn Llywodraeth Cymru a, lle bo angen, gyda chynghorwyr, cynrychiolwyr cyfreithiol neu gontractwyr perthnasol sy'n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd unrhyw brosesu o'r fath yn cael ei wneud yn unol â gofynion cytundebol a diogelu data.
Cyhoeddi a datgelu
Gall Gweinidogion Cymru gyhoeddi crynodeb o'r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgysylltu hwn a gallant gyfeirio at faterion a godwyd mewn sylwadau wrth esbonio'r penderfyniad terfynol.
Gall Llywodraeth Cymru hefyd gyhoeddi sylwadau a dderbynnir pan fydd o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny er mwyn esbonio'r dystiolaeth a'r ystyriaethau sy'n llywio'r penderfyniad terfynol ar y Gorchymyn Dynodi. Pan gyhoeddir sylwadau, bydd manylion cyswllt personol fel arfer yn cael eu dileu.
Dylech fod yn ymwybodol y gallai gwybodaeth a gyflwynir i Lywodraeth Cymru fod yn destun ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Felly, efallai y bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i Lywodraeth Cymru ddatgelu rhywfaint o wybodaeth a ddarparwch.
Ni ddylid ystyried sylwadau a gyflwynir yn ystod y cyfnod ymgysylltu hwn yn gyfrinachol. Efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddatgelu gwybodaeth lle bo hynny'n angenrheidiol ar gyfer ystyried y cynnig neu pan fo'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Pa mor hir y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd data personol a gesglir drwy'r cyfnod ymgysylltu hwn yn cael ei gadw am hyd at dair blynedd ar ôl cwblhau'r broses ddynodi, oni bai bod rheswm cyfreithiol neu weithredol sy'n gofyn am gadw’n hirach.
Pan fydd gwybodaeth wedi'i chynnwys mewn adroddiadau cyhoeddedig, dogfennau penderfyniadau neu gofnodion cyhoeddus eraill, gellir cadw'r deunyddiau cyhoeddedig hynny am gyfnod amhenodol.
Eich hawliau
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch chi ac i gael mynediad ato
- i ofyn i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw
- i wrthwynebu, neu gyfyngu, prosesu mewn amgylchiadau penodol
- i gael eich data wedi’i ddileu mewn amgylchiadau penodol
- i gludadwyedd data mewn amgylchiadau penodol
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a sut mae'n cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Ar gyfer cwestiynau am y cyfnod ymgysylltu hwn, cysylltwch â:
Parciau.Cenedlaethol@llyw.cymru
