Neidio i'r prif gynnwy

Mae Julie James AS, Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi penodi Lesley Jones fel aelod newydd o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gan Fwrdd CNC atebolrwydd dros sicrhau bod CNC yn arfer ei swyddogaethau deddfwriaethol yn briodol ac yn effeithiol. Mae hefyd yn gyfrifol i Weinidogion Cymru am y ffyrdd y mae CNC yn cyflwyno yn erbyn llythyr cylch gwaith y Gweinidogion.

Bydd tymor penodi Lesley Jones o’r 1 Mehefin 2023 i’r 31 Hydref 2026.

Meddai’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS:

'Dwi'n falch bod Lesley Jones wedi cytuno i dderbyn y cynnig o gael ei phenodi i Fwrdd CNC; dwi'n siŵr y bydd yn dod â gwybodaeth a phrofiad helaeth iawn yn ei rôl fel aelod o'r Bwrdd.'

Mae aelodau Bwrdd CNC yn derbyn tâl o £350 y dydd am uchafswm o 36 diwrnod y flwyddyn. Gall diwrnodau tâl ychwanegol eu dyrannu i Aelodau sy'n cadeirio is-bwyllgorau'r Bwrdd. 
Gwnaed y penodiad hwn yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.

Caiff pob apwyntiad i Fwrdd CNC ei wneud yn ôl teilyngdod yn dilyn proses agored, gystadleuol. Nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol. 

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, nid yw Lesley wedi cael ei chyflogi gan blaid wleidyddol, wedi dal swydd amlwg mewn plaid, wedi sefyll fel ymgeisydd dros blaid mewn etholiad, wedi siarad yn gyhoeddus ar ran plaid wleidyddol, nac wedi gwneud rhoddion neu fenthyciadau sylweddol i blaid.