Mae Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi penodi chwe aelod i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae hyn yn cynnwys pedwar penodiad newydd i'r bwrdd:
- yr Athro Pete Fox,
- Kathleen Palmer,
- Helen Pittaway,
- yr Athro Rhys Jones.
Bydd eu penodiadau cychwynnol yn parhau hyd 31 Hydref 2026 a 31 Hydref 2027. Bydd Helen Pittaway yn dechrau yn ei swydd ar 09 Mai.
Mae'r penodiadau hefyd yn cynnwys ailbenodi dau Aelod presennol o Fwrdd CNC, yr Athro Calvin Jones a Mark McKenna, am ail dymor yn dilyn penodiadau uniongyrchol yn 2021. Bydd y penodiadau hyn yn parhau hyd 31 Hydref 2028.
Mae'r chwe apwyntiad wedi'u gwneud yn dilyn proses agored, gystadleuol.
Mae rhagor o wybodaeth am Fwrdd CNC, gan gynnwys bywgraffiadau o Aelodau Bwrdd CNC ar dudalennau Cyfoeth Naturiol Cymru.