Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, wedi ymestyn penodiad Syr David Henshaw yn Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a fydd yn dechrau ar 1 Tachwedd 2023.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS:

‘Rwy'n falch bod Syr David wedi cytuno i aros yn Gadeirydd CNC. Mae gan Syr David hanes o ran darparu arweinyddiaeth gref a thrawsnewid ar lefel Bwrdd, gan alluogi CNC i barhau i gyflawni'n llwyddiannus.  Bydd ymestyn ei benodiad yn ei gwneud hi'n bosibl i'r sefydliad barhau i adeiladu ar y cynnydd da a wnaed ers ei benodi’n wreiddiol.’

Mae Cadeirydd CNC yn derbyn tâl cydnabyddiaeth blynyddol o £46,800 ar gyfer ymrwymiad amser o 72 diwrnod y flwyddyn o leiaf.  

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, nid yw Syr David wedi cael ei gyflogi gan blaid wleidyddol, wedi dal swydd amlwg mewn plaid, wedi sefyll fel ymgeisydd dros blaid mewn etholiad, wedi siarad yn gyhoeddus ar ran plaid wleidyddol, nac wedi gwneud rhoddion neu fenthyciadau sylweddol i blaid.