Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y symiau a gasglwyd, ôl-ddyledion a symiau a ddilëwyd ar gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.

Prif bwyntiau

  • Yn 2017-18, casglwyd 97.4% o filiau'r dreth gyngor gan awdurdodau bilio, cynnydd o 0.1 pwynt canran.  Dyma’r gyfradd casglu uchaf ers cyflwyno’r dreth gyngor.
  • Bu cynnydd blwyddyn ar ôl blwyddyn yng nghyfraddau casglu 12 awdurdod yn 2017-18.
  • Cafwyd y gyfradd gasglu uchaf y flwyddyn hon yn  Sir Benfro (98.3%) a’r gyfradd gasglu isaf ym Mlaenau Gwent (93.8%).
  • Yr union swm a gasglwyd o safbwynt biliau 2017-18, heb gynnwys cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, oedd £1,454 miliwn allan o’r £1,492 miliwn a oedd yn ddyledus.
  • Yn ystod 2017-18, casglwyd £27 miliwn o ôl-ddyledion o ran blynyddoedd blaenorol gan awdurdodau bilio, a chafodd gwerth £7 miliwn eu dileu fel dyledion drwg.
  • Y cyfanswm a oedd yn ddyledus ar 31 Mawrth 2018 oedd £87 miliwn, gyda £38 miliwn o’r swm hwn yn ôl-ddyledion yn ystod y flwyddyn.

Adroddiadau

Cyfraddau casglu'r Dreth Gyngor, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 521 KB

PDF
Saesneg yn unig
521 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.