Gwybodaeth am y symiau a gasglwyd, ôl-ddyledion a symiau a ddilëwyd ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cyfraddau casglu'r Dreth Gyngor
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Yn 2018-19, casglwyd 97.3% o filiau'r dreth gyngor gan awdurdodau bilio, gostyngiad o 0.1 pwynt canran.
- Bu cynnydd blwyddyn ar ôl blwyddyn yng nghyfraddau casglu 6 awdurdod yn 2018-19 a gostyngiad yn 16 awdurdod.
- Cafwyd y gyfradd gasglu uchaf y flwyddyn hon yn Sir y Fflint (98.2%) a’r gyfradd gasglu isaf ym Mlaenau Gwent (93.7%).
- Yr union swm a gasglwyd o safbwynt biliau 2018-19, heb gynnwys cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, oedd £1,546 miliwn allan o’r £1,589 miliwn a oedd yn ddyledus.
- Yn ystod 2018-19, casglwyd £27 miliwn o ôl-ddyledion o ran blynyddoedd blaenorol gan awdurdodau bilio, a chafodd gwerth £6 miliwn eu dileu fel dyledion drwg.
- Y cyfanswm a oedd yn ddyledus ar 31 Mawrth 2019 oedd £94 miliwn, gyda £42 miliwn o’r swm hwn yn ôl-ddyledion yn ystod y flwyddyn.
Adroddiadau
Cyfraddau casglu'r Dreth Gyngor, Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 522 KB
PDF
Saesneg yn unig
522 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cyllid@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.