Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y symiau a gasglwyd, ôl-ddyledion a symiau a ddilëwyd ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Nid yw’r adroddiad yn cwmpasu cyfnod yr achos coronafeirws (COVID-19).

Prif bwyntiau

  • Yn 2019-20, casglwyd 97.0% o filiau'r dreth gyngor gan awdurdodau bilio, gostyngiad o 0.3 pwynt canran.
  • Bu cynnydd blwyddyn ar ôl blwyddyn yng nghyfraddau casglu 5 awdurdod yn 2019-20 a gostyngiad yn 17 awdurdod.
  • Cafwyd y gyfradd gasglu uchaf y flwyddyn hon yng Nghastell-nedd Port Talbot (98.0%) a’r gyfradd gasglu isaf ym Mlaenau Gwent (93.9%).
  • Yr union swm a gasglwyd o safbwynt biliau 2019-20, heb gynnwys cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, oedd £1,666 miliwn(r) allan o’r £1,717 miliwn a oedd yn ddyledus.
  • Yn ystod 2019-20, casglwyd £25 miliwn o ôl-ddyledion o ran blynyddoedd blaenorol gan awdurdodau bilio, a chafodd gwerth £6 miliwn eu dileu fel dyledion drwg.
  • Y cyfanswm a oedd yn ddyledus ar 31 Mawrth 2020 oedd £109 miliwn, gyda £50 miliwn(r) o’r swm hwn yn ôl-ddyledion yn ystod y flwyddyn.

(r) Diwygiwyd 27 Hydref 2020.

Adroddiadau

Cyfraddau casglu'r Dreth Gyngor, Ebrill 2019 i Fawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 717 KB

PDF
Saesneg yn unig
717 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.