Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y symiau a gasglwyd, ôl-ddyledion a symiau a ddilëwyd ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Prif bwyntiau

  • Yn 2022-23, casglwyd 96.1% o filiau'r dreth gyngor gan awdurdodau bilio, gostyngiad o 0.6 pwynt canran.
  • Bu cynnydd blwyddyn ar ôl blwyddyn yng nghyfraddau casglu 7 awdurdod yn 2022-23 a gostyngiad yn 15 awdurdod.
  • Cafwyd y gyfradd gasglu uchaf y flwyddyn hon yng Nghastell-nedd Port Talbot (97.8%) a’r gyfradd gasglu isaf ym Mlaenau Gwent (92.7%).
  • Yr union swm a gasglwyd o safbwynt biliau 2022-23, heb gynnwys cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, oedd £1,904 miliwn allan o’r £1,982 miliwn a oedd yn ddyledus.
  • Yn ystod 2022-23, casglwyd £40 miliwn o ôl-ddyledion o ran blynyddoedd blaenorol gan awdurdodau bilio, a chafodd gwerth £8 miliwn eu dileu fel dyledion drwg.
  • Y cyfanswm a oedd yn ddyledus ar 31 Mawrth 2023 oedd £198 miliwn, gyda £77 miliwn o’r swm hwn yn ôl-ddyledion yn ystod y flwyddyn.

Adroddiadau

Cyfraddau casglu'r Dreth Gyngor: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 425 KB

PDF
Saesneg yn unig
425 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Anthony Newby

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.