Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd adroddiad blynyddol ar gyfer y rhai sy'n ddifrifol wael.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r adroddiad yn dangos:

  • bod cyfraddau goroesi mewn adrannau gofal critigol yn codi - 83% o’i gymharu â 79% yn 2011-12
  • yn ystod chwarter cyntaf 2016, llai nag 1% o’r holl gleifion gofal critigol a gafodd eu haildderbyn i’r ysbyty o fewn 48 awr ar ôl eu rhyddhau;  mae hynny’n dangos bod y prosesau gofal a rhyddhau yn gweithio’n dda
  • cafwyd gostyngiad o 21% dros y pum mlynedd diwethaf yn nifer y cleifion a drosglwyddwyd am resymau heblaw rhai clinigol
  • pan fydd cleifion difrifol wael yn cael eu trosglwyddo rhwng ysbytai, mae’r trosglwyddiadau hynny’n digwydd mewn modd mwy diogel; cafodd 79.4% o’r holl drosglwyddiadau eu graddio’n dda neu’n ardderchog yn 2015 o’i gymharu â 65.4% yn 2009
  • mae nifer y cleifion mewn unedau gofal critigol sydd wedi profi’n bositif am MRSA neu C.Difficile yn gostwng dros gyfnod
  • i helpu i wella gwasanaethau mae unedau gofal critigol yng Nghymru yn gofyn am adborth ar eu gwasanaethau gan ofalwyr, gan ddefnyddio arolwg cenedlaethol i ofalwyr; gwneir hynny am fod y cleifion eu hunain yn aml yn methu â chofio’r cyfnod hwn yn dda iawn.  

Er hynny, mae mwy i’w wneud o hyd i wella’r gofal er mwyn sicrhau bod y bobl sydd fwyaf difrifol wael yn cael y gofal priodol. Mae hyn yn cynnwys ymdrin â heriau o ran staffio, lleihau hyd yr arhosiad mewn ysbyty ar gyfartaledd, a lleihau’r oedi cyn trosglwyddo cleifion i wardiau eraill. Tynnir sylw at rai o’r materion hyn yn yr adroddiad ymgysylltu â’r gweithlu a gyhoeddwyd gan y Gyfadran Meddygaeth Gofal Dwys yn gynharach y mis hwn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

“Ry’n ni’n gwybod bod rhai meysydd lle mae’r gofal yn gwella. Yn bwysig iawn, ry’n ni wedi gweld cynnydd yn y cyfraddau goroesi, ynghyd â gostyngiad yn nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn yn ôl i gael gofal critigol yn fuan ar ôl gadael yr ysbyty.

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i fod yn dryloyw. Mae’n nodi hefyd pa welliannau y mae angen i’r GIG eu gwneud er mwyn inni allu gneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael gafael ar ofal critigol ardderchog ledled Cymru.

“Ry’n ni wedi darparu £1m i helpu i ddatblygu system wybodaeth glinigol electronig lawn ar draws Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i roi cymorth ychwanegol i unedau llai.”

Dywedodd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru:

“Mae darparu gofal i gleifion difrifol wael yng Nghymru yn her, felly mae’n galonogol gweld gwelliant mewn rhai meysydd o ofal critigol yng Nghymru. Mae hynny’n deyrnged i bob un sy’n cyfrannu at y gwaith yn y maes pwysig hwn.

“Er hynny, mae angen inni fynd ati nawr i adeiladu ar hyn a gweithredu’n gyflym i ymdrin â meysydd lle mae’r gwaith o wneud cynnydd yn fwy o broblem. Mae’r Gyfadran Meddygaeth Gofal Dwys wedi dangos yn glir ein bod ni – fel rhannau eraill o’r DU ac ymhellach na hynny – yn wynebu heriau o ran recriwtio ac o ran y cynnydd yn y galw am ofal. Ry’n ni eisiau taclo’r heriau hynny’n uniongyrchol – gyda’n timau clinigol –  a sicrhau bod gwasanaethau’n gwella.

“Ry’n ni’n disgwyl i’r byrddau iechyd ddal ati i gydweithio a chynllunio ar lefel ranbarthol i ymdrin â’r materion y mae’r gwasanaeth yn eu hwynebu ac i gwrdd â’r galw cynyddol.  

“I lwyddo yn hynny o beth, mae gofyn cael llif effeithiol o gleifon drwy’r ysbytai ac i’r gymuned. Yr unig ffordd o gyflawni hynny yw trwy i’r byrddau iechyd fabwysiadu dull ‘ysbyty cyfan’ o ymdrin â gofal critigol. Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â nhw a byddwn yn cymryd sylw o’r ddau adroddiad hwn wrth fynd ati i ddiwygio ein cynlluniau cyflawni yng Nghymru.”