Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyfraith radical Gymreig a fydd yn ymestyn ardaloedd di-fwg ac yn cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer gweithdrefnau fel tatwio, yn gwella ac yn diogelu iechyd y genedl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio am y tro olaf ar y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) y prynhawn yma.  

Nod y Bil yw diogelu iechyd pobl ifanc drwy wahardd smygu ar dir yr ysgol, meysydd chwarae cyhoeddus, ac ardaloedd yn yr awyr agored mewn lleoliadau gofal plant cofrestredig, yn ogystal ag ar dir ysbytai. Mae’n gwahardd gwasanaethau cludiant i’r cartref neu wasanaethau casglu rhag rhoi cynnyrch tybaco a nicotin i bobl ifanc dan 18 oed ac mae’n creu cofrestr genedlaethol o werthwyr cynnyrch tybaco a nicotin.  

Bydd hefyd yn diogelu iechyd a lles drwy: 

  • Greu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer ‘triniaethau arbennig’; sef aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatwio ac mae’n gwahardd tyllu rhannau personol o’r corff ar gyfer unrhyw un o dan 18 oed. 

  • Gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i baratoi a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol, gan gynnwys asesu’r angen am doiledau at ddefnydd y cyhoedd a manylion sut y bydd hyn yn cael ei wireddu. 

  • Rhoi gofyniad ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i asesu sut y bydd eu penderfyniadau yn effeithio ar iechyd corfforol a meddwl y genedl. 

  • Gwneud y gwaith o gynllunio gwasanaethau fferyllfeydd yn fwy ymatebol i anghenion eu cymunedau lleol. 

  • Rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth genedlaethol ar atal a lleihau gordewdra. 

Gan siarad cyn y ddadl, dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cyhoeddus:

“Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yw’r diweddaraf mewn rhestr hir o fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyflwyno i wella iechyd a lles pobl Cymru. Os bydd yn cael ei basio, bydd yn creu’r amodau a fydd yn galluogi pobl i fyw bywydau iach a bydd yn eu hamddiffyn rhag niwed y mae modd ei atal. 

“Mae’n canolbwyntio’n arbennig ar hybu iechyd plant a phobl ifanc. Nod y cynigion fel gwahardd smygu ar dir yr ysgol, lleoliadau gofal plant, a meysydd chwarae yw diogelu plant rhag dod i gysylltiad ag ymddygiadau smygu. O ganlyniad, bydd plant a phobl ifanc yn llai tebygol o ddechrau smygu eu hunain. 

“Mae heddiw yn gyfle inni basio cyfraith radical yng Nghymru a fydd yn diwallu anghenion pobl Cymru. Dw i’n edrych ymlaen at y bleidlais yn nes ymlaen heddiw.”


Dywedodd Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol:

“Bydd y Bil hwn yn helpu i gadw ar drywydd y pryderon iechyd y cyhoedd sy’n dod i’r amlwg. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae tyllu rhannau o’r corff a chael tatŵ wedi dod yn fwyfwy poblogaidd. Bydd y Bil hwn yn sicrhau mai dim ond y rheini sydd ag arferion gweithio diogel fydd yn cael cynnig hyn. 

“O ganlyniad i graffu gan y Cynulliad Cenedlaethol, bydd y Bil hefyd yn rhoi ffocws deddfwriaethol ar ein gwaith i daclo’r her fawr sy’n ein hwynebu ym maes iechyd y cyhoedd, sef gordewdra.”