Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau yn dod i rym heddiw (dydd Iau 1 Rhagfyr), gan sicrhau rhagor o dryloywder a chysondeb wrth rentu cartref.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gan ddiogelu buddiannau landlordiaid a thenantiaid, mae Deddf Rhentu Cartref (Cymru) 2016 yn gwella’r sefyllfa yng Nghymru ar gyfer rhentu, rheoli a byw mewn cartrefi.

Mae’n disodli amryw ddarnau cymhleth o ddeddfwriaeth a chyfraith achosion presennol, ac yn cyflwyno un fframwaith cyfreithiol clir sy’n darparu mwy o sicrwydd ar gyfer deiliaid contractau yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o’r DU.
Mae rhai o’r newidiadau a gyflwynwyd heddiw yn cynnwys:

  • Ei gwneud yn ofynnol i bob landlord roi copi ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i’r tenant (mae hwn yn amlinellu hawliau a chyfrifoldebau’r ddau barti).
  • Mae’r cyfnod ar gyfer hysbysiadau 'dim bai' yn cynyddu o ddau fis i chwe mis ar gyfer tenantiaid newydd, ac ar gyfer tenantiaid presennol o ddydd Iau 1 Mehefin. Ni fydd bellach yn bosibl i gyflwyno hysbysiad yn y chwe mis cyntaf, a fydd yn golygu bod gan bob deiliad contract 12 mis o sicrwydd ar ddechrau ei denantiaeth.
  • Dyletswydd fwy cadarn ar landlordiaid i sicrhau bod yr eiddo maent yn ei osod yn addas i bobl fyw ynddo, gan gynnwys gosod larymau mwg a charbon monocsid, a phrofi trydanol rheolaidd.
  • Mynd i’r afael â’r arfer o droi allan er mwyn dial (pan fydd landlord yn troi tenant allan am iddo ofyn am atgyweiriadau neu gwyno am amodau gwael).
  • Cyflwyno dull cyson ar draws sectorau ar gyfer troi allan mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu drais.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

“Mae hwn yn achlysur i’w gofio, wrth inni drawsnewid y sector rhentu yng Nghymru yn gyfan gwbl.

“Mae cartref addas a diogel yn hanfodol i lesiant pobl. Bydd y newidiadau hyn yn darparu rhagor o amddiffyniad ar gyfer tenantiaid rhag cael eu troi allan, ac yn gwneud yn siŵr bod eu cartref yn ddiogel i fyw ynddo.

“Ar yr un pryd bydd landlordiaid yn elwa ar ragor o eglurder mewn perthynas â’r gyfraith, a’r gallu i ailfeddiannu adeiladau gwag yn gyflymach.

“Wrth inni adeiladu Cymru gryfach, wyrddach a mwy ffyniannus, hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi ymuno â ni ar y siwrnai hon i wneud rhentu yn symlach ac yn decach.”